Taith yr Hen a’r Newydd
Beth? Taith gerdded ysgafn i gyfuno’r canoloesol a’r modern, gan ymweld â thref marchnad fach hudolus a’i chaer ganoloesol hefyd
Ble? Cas-gwent, Sir Fynwy
Safleoedd Cadw i’w gweld: Castell Cas-gwent ac Abaty Tyndyrn
Y lle gorau i’w rannu ar Instagram: Rhagfur uchaf Castell Cas-gwent. Dewiswch eich hoff ffenestr a thynnu llun anffurfiol wrth i chi edrych allan dros afon Gwy.
Mae Castell Cas-gwent yn sefyll yn uchel uwchben glannau Afon Gwy, a dyma’r enghraifft hynaf o wrthfur cerrig sydd wedi goroesi ar ôl cyfnod y Rhufeiniaid ym Mhrydain. Mae hefyd yn gartref i ddau ddrws sy’n 800 oed — yr hynaf yn Ewrop!
Dechreuwch drwy fynd o amgylch y castell, dringo’r bylchfuriau a mwynhau’r golygfeydd hyfryd o Sir Fynwy cyn mynd am dro yn y prynhawn. Dilynwch yr arwyddion o'r Castell tuag at Daith Gerdded Dyffryn Gwy, a dilyn y llwybrau heibio’r dref nes byddwch yn cyrraedd llwybrau'r coetir drwy Goedwigoedd Alcove a Pierce. Os ydych chi’n teimlo’r awydd i fynd yr holl ffordd i Abaty Tyndyrn, mae’r llwyr hwn yn arwain i’r fan hyn. Neu, os hoffech ddilyn llwybr mwy hamddenol, beth am ymweld â’r dref leol?
Mae Cas-gwent (sy’n golygu ‘marchnad’ mewn Hen Saesneg), yn fwrlwm o siopau bychan annibynnol, siopau nwyddau unigryw i’r cartref ac adeiladau hardd Sioraidd a Fictoraidd yng nghanol y dref. Heb anghofio’r tafarndai hynod, y caffis a’r tai bwyta sydd i’w gweld ar gornel pob stryd bron - hwylus iawn! Ymhlith y ffefrynnau, mae The Riverside Restaurant, gyda’r golygfeydd godidog ar draws afon Gwy.
Os nad oes gennych chi amser i aros i gael bwyd, ar yr ail a’r pedwerydd dydd Sadwrn o bob mis bydd Marchnad Ffermwyr Cas-gwent yn cymryd drosodd yn yr ardal. Dyma gyfle perffaith i chi brynu cynnyrch lleol a ffres i’w mwynhau ar ôl i chi gyrraedd adref.