Castell Cas-gwent
Hysbysiad Ymwelwyr
Tarfu ar y safle: Bydd Siambr yr Iarll ynghau o ddydd Llun 11 Medi i ddydd Gwener 15 Medi tra bydd uned rheoli tymheredd aer newydd yn cael ei gosod. Efallai y bydd ambell gyfnod byr o darfu ychwanegol tra bydd yr offer yn cael ei gludo o amgylch y castell, ond ychydig iawn fydd y rhain.
Arolwg
Cerrig cadarnle mawreddog ar ben clogwyn yn olrhain 900 mlynedd o hanes
Mae Castell Cas-gwent, a gadwyd mewn cyflwr hardd, yn ymestyn allan ar hyd clogwyn calchfaen uwchben Afon Gwy megis gwers hanes o gerrig.
Nid oes un lle gwell ym Mhrydain i weld sut esblygodd cestyll yn raddol i ymdopi ag arfau mwyfwy dinistriol – ac uchelgeisiau mawreddog eu perchenogion. Am fwy na chwe chanrif, roedd Cas-gwent yn gartref i rai o ddynion cyfoethocaf a mwyaf pwerus y canol oesoedd ac oes y Tuduriaid.
Dechreuwyd y gwaith adeiladu ym 1067 gan Iarll William fitz Osbern, cyfaill agos i Gwilym Goncwerwr, gan ei wneud yn un o’r cadarnleoedd Normanaidd cyntaf yng Nghymru. Fesul un, gadawodd William Marshal (Iarll Penfro), Roger Bigod (Iarll Norfolk) a Charles Somerset (Iarll Caerwrangon) oll eu hôl cyn i’r castell ddirywio ar ôl y Rhyfel Cartref.
Byddai’r pendefigion a’r broceriaid pŵer hyn ar fynd o hyd. Dim ond un breswylfa yn eu hystadau helaeth oedd Cas-gwent– cragen drawiadol lle byddent yn dod â’u llestri aur ac arian, eu sidan gwych a’u dodrefn lliwgar.
Sut i ymweld•
- prynwch eich tocynnau mynediad wrth gyrraedd (neu archebwch ar-lein)*
- gwiriwch ein hamseroedd agor a’n prisiau isod
- cymerwch olwg ar gyngor iechyd a diogelwch Llywodraeth Cymru cyn ymweld.
*ni ellir ad-dalu tocynnau a ragarchebwyd.

Castell Gas-Gwent Pamffledyn Canllaw
Prynwch eich llyfr Cadw ar-lein heddiw.
Aelodau Cadw 10% i ffwrdd!
Amseroedd agor
Bob dydd 9.30am–5pm
Mynediad olaf 30 munud cyn cau
Bob dydd 9.30am–6pm
Mynediad olaf 30 munud cyn cau
Bob dydd 9.30am–5pm
Mynediad olaf 30 munud cyn cau
Bob dydd 10am–4pm
Mynediad olaf 30 munud cyn cau
Ar gau 24, 25, 26 Rhagfyr a 1 Ionawr
Prisiau a Thocynnau
Categori | Price |
---|---|
Aelod - Ymunwch rŵan |
Am ddim
|
Oedolyn |
£8.70
|
Teulu* |
£28.20
|
Person Anabl a Chydymaith |
Am ddim
|
Plant (Oed 5-17) / Myfyriwr |
£6.10
|
Pobl hŷn (Oed 65+) |
£8.10
|
*2 oedolyn a hyd at 3 plentyn Mae pob plentyn o dan 5 oed yn cael mynediad am ddim Mae deiliaid Cerdyn Golau Glas yn derbyn gostyngiad o 10% oddi ar bris tocyn mynediad unigol wrth ei brynu wrth gyrraedd |
Cyfleusterau
Darllenwch ein canllaw hygyrchedd i gael gwybodaeth am sut i gynllunio eich ymweliad.
Mae lle i gadw beiciau ar gael yn y maes parcio neu’n agos i’r safle.
Mae maes parcio cyhoeddus gwefru 100 llath o dan fynedfa'r castell gyda 4 lle parcio hygyrch a pharcio pwrpasol i fysiau.
Mae croeso i gŵn ar dennyn gael mynediad i lefelau llawr gwaelod y safle.
Mae siop ar y safle sy’n cynnig amrywiaeth o gynnyrch a llyfrau.
Darllenwch ein polisi dronau am y wybodaeth ddiweddaraf am hedfan yn henebion Cadw: darllenwch y canllawiau
Ni chaniateir ysmygu.
Mae dolen sain gludadwy ar gael.
Mae’r safle ar gael i’w logi ar gyfer digwyddiadau, arddangosfeydd a ffilmio.
Er mwyn trefnu ymweliad addysg hunan-dywys am ddim i’r safle hwn, dilynwch y camau syml hyn yn ein adran ymweliadau addysg hunan-dywys.
Tra eich bod ar y wefan, edrychwch ar ein adnoddau dysgu am ddim i’ch helpu chi gyda’ch antur teithio mewn amser!
Cyfarwyddiadau
Cod post NP16 5EY
Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â: Traveline Cymru ar 0800 464 0000 neu Ymholiadau Rheilffyrdd Cenedlaethol ar 03457 48 49 50.
Cysylltu â ni
Rhif ffôn 03000 252239
E-bost
ChepstowCastle@llyw.cymru
Bridge St, Cas-gwent NP16 5EY
Ar gyfer contractwyr, ymweliadau addysgiadol a danfoniadau, ffoniwch 01291 624065
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.