Skip to main content

Beth? Diwrnod o archwilio tirweddau hanesyddol, epig — o fylchfuriau tal Castell canoloesol i gopa’r Wyddfa

Ble? Gwynedd

Safle Cadw i’w weld: Castell Harlech

Y lle gorau i’w rannu ar Instagram: bylchfuriau’r Castell — lle ceir cyfle gwych i dynnu lluniau, gyda golygfeydd 360° o’r Castell a’r ardal gyfagos.


Mae Castell Harlech yn goron ar glegyr creigiog, a cheir yma olygfeydd ysblennydd o’r arfordir a Môr Iwerddon. Cafodd y castell hwn ei adeiladu fel amddiffynfa yn yr oesoedd canol. Os ydych chi’n wangalon, nid yw’r bylchfuriau wrth ymyl y clogwyn i chi, ond os ydych chi’n hoffi gwefr adrenalin, mae’n bosib mai hon fydd eich hoff gaer chi. 

Does dim rhaid i’r wefr o fod yn uchel ddod i ben yn y fan yna...

Beth am aros yn y llety unigryw, Harlech Apartments, gwisgo eich esgidiau cerdded a gyrru am dri chwarter awr at fynydd uchaf Cymru — yr Wyddfa.

Mae’r Wyddfa wrth galon Parc Cenedlaethol Eryri, ac ar y copa cewch olygfeydd bythgofiadwy o Eryri, Ynys Môn, Sir Benfro a hyd yn oed Iwerddon. Cofiwch eich camerâu! Mae dewis o chwe gwahanol lwybr i’w ddilyn er mwyn dringo i gopa’r mynydd 3,560 troedfedd cyn ymlacio yn eich llety moethus ar ôl hynny.

Neu, os hoffech daith fwy hamddenol a pizza tenau blasus, ewch draw i bentref Eidalaidd Portmeirion i fwynhau mwy o bensaernïaeth eiconig ac awyrgylch hyfryd.