Skip to main content

Beth? Crwydro yn y car i weld dau gastell, afon a thraeth — popeth o fewn 12 milltir i'w gilydd

Ble? Sir Ddinbych

Safle Cadw i’w weld: Castell Rhuddlan a Chastell Dinbych

Y lle gorau i’w rannu ar Instagram: Castell Rhuddlan o lan afon Clwyd.

Os ydych chi eisiau blino’r rhai bach am ddiwrnod, gallai'r daith hon fod yn addas iawn i chi.

Dechreuwch eich diwrnod yng Nghastell Dinbych, lle gall y plant brofi golygfeydd a synau’r Oesoedd Canol — yn llythrennol! Ar ôl croesi'r bont godi i’r porthdy â’r tri thŵr, byddant yn clywed y porthcwlis yn taranu i lawr, y cadwyni’n ysgwyd a sŵn y ceffylau a’r milwyr yn brasgamu — ac mae hyn oll yn bosibl diolch i'r synwyryddion technolegol clyfar ar y safle.

Ar ôl crwydro Castell Dinbych, ewch yn y car i Gastell Rhuddlan, sydd — oherwydd y rhaglen brysur o ddigwyddiadau — yn un o’r safleoedd gorau sydd gan Cadw i blant.  Yma, gallwch chi a’r plant ddysgu mwy am bensaernïaeth cestyll canoloesol a phrif bensaer Edward I, James o St George.

Gellir cael cylchdaith braf o gwmpas y castell wedyn, drwy groesi'r ffos. Ar eich taith deuluol, cofiwch groesi afon Clwyd a thynnu'r llun hollbwysig o flaen y Castell, fel sydd i'w weld yn llawlyfr y safle.

Gorffennwch y prynhawn drwy fynd yn y car ar y daith fer i Draeth Dwyrain y Rhyl, lle gall y teulu cyfan fwynhau diwrnod traddodiadol ar lan y môr, gyda hufen iâ a chestyll tywod.

Beth am herio'r plant i greu eu cestyll consentrig eu hunain?!