Skip to main content

Beth? Picnic yn Llys yr Esgob Tyddewi a phrynhawn yn mynd o amgylch morlin garw’r ardal

Ble? Tyddewi, Sir Benfro

Safle Cadw i’w weld: Llys yr Esgob Tyddewi

Y lle gorau i’w rannu ar Instagram: mae’r Llys cyfan yn llawn cyfleoedd gwych am luniau addas ar gyfer Instagram, ond mae’r ffefrynnau'n cynnwys Cyntedd Neuadd yr Esgob sy’n edrych yn ysblennydd gyda’i risiau Gothig canoloesol a’r ffenestr olwyn eiconig ym mur dwyreiniol y neuadd fawr.

Mae Llys yr Esgob Tyddewi bellach yn adfail, ond mae yna arwyddion o’i fawredd cynharach o hyd. Mae'r addurniadau pensaernïol helaeth a’r gwaith cerrig bwrdd draffts trawiadol oll yn arwydd o gyfoeth a statws y safle a’i gyn breswylwyr. Mae’r safle mewn lleoliad dethol yn ninas leiaf Prydain, Tyddewi, ac mae’n lle perffaith i fwynhau picnic canol dydd. 

Yna, ewch draw i Lys yr Esgob i fwynhau eich picnic. Mae nifer o feinciau picnic i’w cael ar y safle, ac mae gemau bwrdd i'r teulu wedi’u cynnwys arnyn nhw hefyd. Pan fyddwch chi’n mynd am dro o amgylch y safle, cadwch lygad allan am ffenestr olwyn sydd wedi’i dylunio’n hyfryd yn y talcen dwyreiniol a chofiwch ddringo i ben grisiau’r iard ganol i weld golygfa wych o Eglwys Gadeiriol Tyddewi — man claddu nawddsant annwyl Cymru, Dewi Sant.

Ewch am dro bach hamddenol am dri chwarter awr ar ôl cinio i un o draethau harddaf y DU, Bae Porth Mawr. Neu os hoffai’r plant brynhawn ar y dŵr, ewch am dro ar hyd arfordir Sir Benfro am ugain munud arall nes byddwch chi’n cyrraedd Gorsaf Bad Achub St Justinian. Yma, gallwch fynd ar daith gyffrous ar gwch i ddarganfod Ynys Dewi.

Mae Ynys Dewi yn hafan ar gyfer bywyd gwyllt, ac mae’n cynnwys ogofau arfordirol, ceunentydd creigiog cul a chlogwyni 400 troedfedd, rhai ohonynt ymhlith yr uchaf yng Nghymru! Os byddwch chi’n lwcus, efallai y gwelwch chi deulu o forloi ar draethau’r ynys.