Skip to main content

Beth? Ewch i chwilota am Ddreigiau yng nghaer fwyaf Cymru a chanfod tylwyth teg yng nghastell hud a lledrith Cymru

Ble? Caerdydd a Chaerffili

Safleoedd Cadw i’w gweld: Castell Caerffili a Chastell Coch

Y lle gorau i’w rannu ar Instagram: tŵr cam Castell Caerffili wrth gwrs. Does dim angen i chi fynd i’r Eidal i dynnu llun tŵr cam Pisa gyda thŵr cam Castell Caerffili ar stepen eich drws!

Mae’r Castell Caerffili a Chastell Coch ill dau ugain munud i ffwrdd o ganol dinas Caerdydd ac maen nhw’n llawn hanes, chwedlau a hud. Byddan nhw’n sicr o swyno plant ac oedolion fel ei gilydd.

Adeiladodd Gilbert de Clare Gastell Caerffili yn y 13eg ganrif. Hon yw’r gaer fwyaf yng Nghymru a’r ail fwyaf ym Mhrydain. Mae’r safle’n llawn hanes am Gymru, ac mae teulu o Ddreigiau Cymreig go iawn yn byw ar dir y castell hefyd...

Cofiwch ymweld â Ffau'r Dreigiau lle byddwch yn dod wyneb yn wyneb â'r creaduriaid chwedlonol ac yn clywed eu hanes arwrol.

Ar ôl mwynhau bore yng Nghastell Caerffili, beth am dreulio’r prynhawn yn Nhongwynlais. Ewch am dro i Gastell Coch i ddechrau, lle gall ymwelwyr iau fwynhau chwilio am dylwyth teg gyda rhywfaint o help gan ap Cadw.

Beth am ddod â’ch diwrnod i ben drwy gerdded o amgylch Fforest Fawr — coetir hyfryd ger y castell, lle gall ymwelwyr fwynhau dilyn llwybr cerfluniau ar daith hudolus drwy’r glesni.