Y Daith Antur Ddiwydiannol
Beth? Taith i galon y diwydiant haearn a glo yn y cymoedd.
Ble? Blaenafon
Safle Cadw i’w weld: Gwaith Haearn Blaenafon
Y lle gorau i’w rannu ar Instagram: y Tŵr Cydbwyso — o bosib y nodwedd bensaernïol fwyaf eiconig yng Ngwaith Haearn Blaenafon a lle gwych i dynnu llun i gofio am eich ymweliad.
Mae Gwaith Haearn Blaenafon yn rhan o Dirwedd Ddiwydiannol Safle Treftadaeth y Byd UNESCO Blaenafon. Dechreuodd y gwaith ar y safle yn 1789 a dyma’r ffwrnais chwyth sydd yn y cyflwr gorau yn y byd o’r cyfnod hwn. Mae’n un o’r henebion pwysicaf i oroesi o’r Chwyldro Diwydiannol.
Felly pa le gwell i ddechrau ar eich siwrnai drwy Flaenafon?
Dechreuwch drwy fynd i weld gweddillion helaeth y ffwrneisi chwyth, y tai cast, bythynnod y gweithwyr a’r Tŵr Cydbwyso Dŵr sydd wedi cael ei adfer yn wych, a dysgu am arwyddocâd rhyngwladol y diwydiant haearn a’r prosesau gwyddonol sy’n gysylltiedig â chynhyrchu haearn.
O fan hyn, gallwch gerdded, gyrru neu feicio i’r Big Pit, Amgueddfa Lofaol Cymru, lle gallwch chi gerdded yn ôl traed glowyr o'r gorffennol a rhoi cynnig ar brofiad rhith-wirionedd 360⁰ y dref — sy’n caniatáu i chi brofi sut oedd bywyd yn Safle Treftadaeth y Byd Blaenafon yn ystod y 19eg ganrif a’r 20fed ganrif.
Dewch â’ch diwrnod i ben drwy ymweld â chynhyrchwyr caws lleol sydd wedi ennill gwobrau, Blaenavon Cheddar Company. Beth am roi cynnig ar ddipio eich caws eich hun?
Cewch gyfle i flasu llu o wahanol gawsiau sy’n unigryw i Flaenafon, o gaws Cheddar Black Gold Pwll Mawr sy’n edrych yn ddu ac sydd wedi’i aeddfedu 300 troedfedd o dan y ddaear mewn twll yn y Big Pit, i gaws Cheddar Bara Brith — rysáit bara brith traddodiadol gyda resins blasus a ffrwythau cymysg wedi’u mwydo â gwirodlyn 'Black Mountain'.