Skip to main content

Beth? Dewch i ddysgu am hanes Gwenllian a Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru

Ble? Sir Gaerfyrddin

Safleoedd Cadw i’w gweld: Castell Cydweli a Chastell Dinefwr

Y lle gorau i’w rannu ar Instagram: Ffenestr porthdy’r Castell sy’n edrych allan tuag at eglwys ganoloesol Cydweli — llecyn tawel gyda digon o seddau sy’n dyddio o'r 12fed ganrif i chi gael y llun perffaith o’r teulu.

Mae Castell Cydweli yn heneb enfawr a mawreddog sy’n dyddio o gyfnod grym y Normaniaid. Mae’r gaer fendigedig hon sydd wedi’i lleoli uwch afon Gwendraeth yn wirioneddol werth ei gweld.

Y tu allan i’r porthdy mae cofeb i’r Dywysoges Ryfelgar o Gymru, Gwenllian, a fu farw mewn brwydr wrth geisio achub ei gwlad rhag goresgyniad y Normaniaid yn 1136. Dewch i ddarganfod hanes y ffeminist gwreiddiol hon a’i gwaddol ar dir y Castell — merch gref a fydd yn sicr o ysbrydoli’r plant.

Dim ond i chi gerdded am ugain munud, byddwch yn cyrraedd Cei Cydweli, sy’n gartref i gamlas hynaf Cymru — Camlas Kymer. Ewch ati i fwynhau taith gerdded yn y prynhawn ar hyd llwybr y gamlas a mynd o amgylch canol y dref cyn mynd i Ardd Fotaneg Genedlaethol Cymru.

Mewn lleoliad hyfryd yng nghefn gwlad Caerfyrddin, mae’r Ardd yn gartref i’r tŷ gwydr un-rhychwant mwyaf yn y byd, Y Tŷ Trofannol, Canolfan Adar Ysglyfaethus Prydain a llawer mwy i ddiddanu'r teulu cyfan. Mae’r ardd 25 munud i ffwrdd o Gydweli mewn car.

Os bydd gennych chi amser, beth am orffen eich diwrnod drwy ymweld â Chastell Dinefwr — safle mawreddog arall sy’n edrych dros Ddyffryn Tywi.