Skip to main content

Aberdyfi i Aberdaron – taith dridiau ar hyd Ffordd yr Arfordir

Dydd un (tua 39 milltir/63km)

Mae gan Aberdyfi ffasiynol draeth mawr tywodlyd sy’n berffaith ar gyfer bwrddhwylio a gwylio bywyd gwyllt. Ewch tua’r gogledd ar heol yr arfordir sy’n glynu wrth y clogwyni i gyfeiriad Aber Mawddach, ble mae’r mynyddoedd yn trochi’u traed yn y môr, gan groesi’r bont doll bren hanesyddol ar draws yr afon ym Mhenmaen-pŵl.

Mae gan Abermaw le arbennig yn nhreftadaeth Prydain. Cerddwch lwybr byr, serth i Dinas Oleu, y pentir fry uwch y dref. Yn 1987, y ‘lle i enaid gael llonydd’ agored hwn oedd y tir cyntaf i gael ei berchnogi gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol.

Ymddengys fel pe bai muriau canoloesol Castell Harlech, sy’n Safle Treftadaeth y Byd, yn tyfu o’r graig – clogwyn môr ar un adeg – y mae’n sefyll arni. Mae’r tonnau wedi hen gilio gan adael twyni sy’n cynnwys un o gyrsiau golff glan-môr gorau Ewrop, Royal St David’s.

Dros nos: Harlech

Beth am droi ymweliad â’r Safle Treftadaeth y Byd hwn o’r 13eg ganrif yn wyliau bach moethus? Archebwch nawr (Book now) gyda Bythynnod Gwyliau Menai.

Castell Harlech

 

Dydd dau (tua 31 milltir/50km)

Rhaid i chi ymweld â Portmeirion, y pentref Eidalaidd a grëwyd yn yr 20fed ganrif. Prin y byddwch chi’n credu eich llygaid. Weithiau bydd ymwelwyr wedi’u syfrdanu i’r fath raddau nes eu bod yn mynd ar goll am ddyddiau. Fydd gennych chi mo’r moethusrwydd amser hwnnw felly yn eich blaen â chi heibio i Borthmadog at Gricieth, cyrchfan Fictoraidd deniadol. Mae Castell Cricieth yn nodwedd a greithiwyd gan ymladd difrifol (datgelir y cyfan yn y ganolfan ymwelwyr ryngweithiol newydd).

Bellach dyma chi ym Mhen Llŷn (Llŷn Peninsula) sy’n Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol. Mae’n anodd dadlau â’r disgrifiad hwnnw wrth i chi sefyll yng ngerddi Plas Glyn y Weddw, Llanbedrog. Y tu mewn i’r plasty Fictoraidd hwn, sy’n oriel gelf flaenllaw ag arbenigedd mewn celf gyfoes o Gymru, mae llawer mwy i ddifyrru eich llygaid.

Dros nos: Abersoch

Castell Cricieth

Dydd tri (tua 13 milltir/21km)

Ewch ar gwch o Aberdaron drosodd i Ynys Enlli, ‘Ynys yr 20,000 o Seintiau’, dros ddyfroedd brochus y Swnt ar ben pellaf gogledd Cymru. Ar Fynydd Enlli, pwnt uchaf yr ynys, chwiliwch am balod yn yr awyr a morloi’n gorffwys ar y creigiau islaw. Yn ôl ar y tir mawr, dysgwch ragor am y rheswm pam fod Llŷn mor arbennig yng Nghanolfan Ymwelwyr Porth y Swnt yn Aberdaron.

 (Porth y Swnt Visitor Centre).