Ffordd Cambria
Mae cymaint i’w weld ar hyd Ffordd Cambria — dyma gynllun pum diwrnod i’ch helpu i gynllunio eich taith.
Mae'r llwybr ysblennydd hwn yn rhedeg o'r de i'r gogledd trwy galon y wlad, gan ddilyn yr A470 yn bennaf. Mae'r amserlen teithio bum niwrnod hon yn cychwyn yn ein prifddinas Caerdydd ac yn gorffen yn nhref glan môr Fictoraidd Llandudno.
Dydd un (tua 37 milltir/60km) |
Cychwyn y daith yng Nghaerdydd. Tua 20 munud o Gaerdydd mae atyniad anghyffredin ar gyfer denu ymwelwyr sy'n ymwneud â gwneud arian! Yn ddiweddar, fe agorodd y Bathdy Brenhinol yn Llantrisant ei ddrysau i arddangos pob math o ddarnau arian, sut maen nhw'n cael eu gwneud, a pham fod arian mor bwysig i’n bywyd pob dydd. (Mae’r Bathdy yn gyfrifol am gynhyrchu darnau arian ar gyfer tua 100 o wledydd gwahanol).
Rydych chi mewn byr dro yng nghymoedd de Cymru. Mae Profiad Aur Du Parc Treftadaeth Rhondda/ Rhondda Heritage Park Black Gold Experience ger Pontypridd yn dwyn i gof y dyddiau pan roedd y cymoedd hyn yn ardaloedd glo pwysig oedd yn sail i’r Chwyldro Diwydiannol. Mae teithiau tywys tanddaearol ac arddangosfeydd rhyngweithiol yn hen Lofa Lewis Merthyr yn ail-greu bywyd garw ac arwrol glöwr Cymru.
Haearn, nid glo, oedd y diwydiant pwysicaf ym Merthyr Tudful. Mae Castell Cyfarthfa, plasty o'r 19eg ganrif a adeiladwyd gan feistr haearn pwerus, bellach yn amgueddfa ac oriel gelf gyda chasgliadau amrywiol. Mae’r casgliadau yn cynnwys replica o drên stêm cyntaf y byd yn ogystal â gwaith dau eicon ffasiwn a anwyd ym Merthyr sef Laura Ashley a Julien McDonald.
Aros dros nos: Merthyr Tudful
Dydd dau (tua 56 milltir/90km)
Diwrnod i ddarganfod a mwynhau Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog a'r tiroedd eang sydd dan ofal yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Un o’r ffyrdd hawsaf i ddarganfod y Bannau yw mynd ar daith trên ar hyd lein gul Reilffordd Mynydd Brycheiniog. Mae’r trenau stêm sydd wedi’u hadfer i’w cyflwr gwreiddiol yn teithio o gyrion gogleddol Merthyr hyd at odre copaon uchaf de Cymru. Mae’n daith 9 milltir /14 km o hyd ymlaen ac yn ôl.
Wrth yrru tua’r gogledd mae’n werth teithio ychydig oddi ar yr A470 yn Libanus i ymweld â Chanolfan Ymwelwyr Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog (golygfeydd eang godidog, teithiau cerdded cofiadwy yn ogystal â gwybodaeth leol a lle arbennig i fwynhau paned).
Mae tiroedd eang ac agored y Bannau yn ddelfrydol ar gyfer marchogaeth a merlota. Mae Cantref Adventure Farm gerllaw Aberhonddu yn cynnig amrywiaeth o deithiau merlota gan gynnwys teithiau Antur Bannau Brycheiniog sy’n cynnig teithiau hanner diwrnod.
Aros Dros nos: Llandrindod
Dydd tri (tua 66 milltir/106 km)
Crystal Royal Welsh yn Rhaeadr yw’r unig wneuthurwr gwydr crisial sydd wedi’i greu â llaw sydd i’w gael yng Nghymru. Dyma eich cyfle i weld gwir grefftwyr yn arddangos eu sgiliau drwy ddilyn taith dywys drwy’r gweithdy. Bydd cyfle ar ddiwedd y profiad hwnnw i ymweld â’r siop sy’n arddangos casgliadau o wydr crisial gyda phob un ohonyn nhw wedi ei greu drwy chwythu gwydr a’i dorri a llaw i greu darn grisial unigryw.
Mae Rhaeadr ar stepen drws llynnoedd Cwm Elan. Dyma gyfres o gronfeydd dŵr a gafodd eu creu dros 100 mlynedd yn ôl. Galwch heibio i Canolfan Ymwelwyr Cwm Elan cyn dilyn y ffordd fynyddig odidog sy'n ymdroelli heibio'r llynnoedd hyfryd hyn. Nid oes rhaid i chi yrru i'w mwynhau. Mae gwybodaeth ar gael yn y ganolfan am hurio beic a phob math o wybodaeth ddefnyddiol.
Rydych chi ychydig oddi ar yr A470 erbyn hyn ond mae’n werth ei gadael am y tro i weld y golygfeydd gwych. Mae’r ffordd fynyddig droellog o Gwm Elan yn eich arwain tuag at Gwmystwyth ac yna i Bontarfynach (Devil’s Bridge). Mae pont hynafol Pont y Gŵr Drwg (Bridge of the Evil Man) wedi’i guddio yn y ceunant coediog islaw’r ffordd. Gallwch ddilyn llwybr serth i lawr i’r ceunant os ydych chi’n teimlo’n egnïol.
Aros dros nos: Machynlleth
Dydd pedwar (tua 61 milltir/96km)
Lle braf i siopa ynddo i’w Canolfan Crefftau Corris sydd ar ochr yr A487 i’r gogledd o Fachynlleth. Mae yma naw stiwdio gelf sy’n arbenigo mewn crefftau mor amrywiol â gemwaith, crochenwaith, siocledi sydd wedi’u gwneud â llaw i gynhyrchu gin (‘Gorau yn Y Deyrnas Unedig’ Great British Food Awards 2017).
Ail ymunwch â’r A470 yn Cross Foxes (sydd â bar croesawgar a bwyty mewn tafarn hynafol sydd wedi’i addasu i ofynion heddiw). Tu hwnt I Ddolgellau mae’r tirlun yn newid o dir coediog i weundir a mynydd-dir agored. Mae’r bardd Hedd Wyn yn rhan anatod o hanes y gwr a fu’n ymladd yn y Rhyfel Byd Cyntaf ac a laddwyd yn Passchendale yn 1917. Bu laddwyd Hedd Wyn yn y frwydr a hynny cyn iddo wybod ei fod wedi ennill Cadair yr Eisteddfod Genedlaethol. Gallwch weld y ‘Gadair Ddu’ yn Yr Ysgwrn sef cartref y bardd sydd bellach wedi’i addasu i greu canolfan arbennig i ymweld â hi.
Mae’n werth troi oddi ar y briffordd hefyd I ymweld a Gerddi Plas Brondanw ger pentref Garreg.Gallwch hefyd ymweld â gerddi Eidalaidd Portmeirion a grewyd gan Syr Clough Williams-Ellis. Daeth ei dalent i greu gerddi trawiadol yn amlwg yma. Roedd ganddo’r dalent amlwg o weithio gyda’r tirlun o’i gwmpas ‘gan ddwyn y cyfan at ei gilydd i greu calon i’r ardd hon’.
Aros dros nos: Betws-y-Coed
Dydd pump (tua 21 milltir/34km)
Roedd Llanrwst yn cael ei adnabod fel ‘prifddinas’ dyffryn Conwy ar un tro a dyma hefyd oedd cartref y teulu Wynniaid oedd yn ddylanwadol iawn yn y gymdogaeth. Mae cartref y teulu Wynn sef Castell Gwydir yn blas Tuduraidd sy’n llawn awyrgylch heb son am ambell i ysbryd!
Ydych chi’n dal i edrych am fwy o anrhegion i fynd adref gyda chi? Os ydych chi, yna beth am alw heibio Melinau Gwlân Trefriw? Mae yma felin sy’n dal i weithio heddiw i gynhyrchu gwlanen Gymreig. Galwch heibio’r amgueddfa cyn troi eich golygon at y siop lle mae digon i’w weld a’i brynu.
Y lle nesaf i ymweld ag ef fyddai Antur Parc Eryri (Adventure Parc Snowdonia) sef y lagŵn syrffio cyntaf yn y byd sydd wedi’i leoli i mewn yn y tir. Mae’r lagŵn mawr (tua 1,000 troedfedd/300m o hyd) gyda thonnau mawr sy’n golygu y gallwch syrffio unrhyw amser!
Gorffennwch eich taith yn Llandudno, ein cyrchfan gwyliau mwyaf yma’n Nghymru.