Skip to main content

Efallai bod Cymru'n wlad fach ond estynnir croeso mawr i grwpiau. O gaerau gwych i abatai hudolus, mae gan Cadw lawer i'w gynnig i grwpiau o bob maint.

Ceir llu o arddangosfeydd a digwyddiadau gwych yn ein safleoedd hanesyddol drwy gydol y flwyddyn. Mae'r calendr yn rhedeg o fis Ebrill i fis Rhagfyr a gyda thros 150 o ddigwyddiadau unigol yn cael eu cynllunio bob blwyddyn, mae rhywbeth yn digwydd drwy'r amser. O farchogion yn ymladd mewn twrnameintiau i wersylloedd hanes byw a pherfformiadau theatrig i sioeau sain a golau digidol. Mae digon o hwyl a chyffro.

Mae ein safleoedd yn cynnig gwerth gwych am arian. Mae aelodau Cynllun Gweithredwyr Taith Cadw yn elwa o gyfraddau masnach ffafriol a blaenoriaeth o ran archebu. Gyda'r rhan fwyaf o'n digwyddiadau'n cael eu cynnwys yn y pris mynediad safonol, mae mwy o reswm fyth i drefnu grŵp ac ymweld â'n safleoedd. Peidiwch ag oedi!

Gallwn helpu drwy roi cyngor a gwybodaeth am bob agwedd ar eich ymweliad. Gan ein bod yn gofalu am rai o'r atyniadau hanesyddol gorau yng Nghymru, rydym mewn sefyllfa ddelfrydol i allu eich helpu.

  • ymweliadau ymgyfarwyddo ‘cyfarch’ i aelodau’r diwydiant teithio a’r wasg deithio
  • gwasanaeth benthyca lluniau
  • deunyddiau hyrwyddo am ddim i gefnogi eich rhaglenni
  • cyfraddau masnach ffafriol
  • cynllun mynediad wedi'i flaenoriaethu.

Cynllunio ymweliadau grŵp

Mae chwilio drwy leoedd i ymweld â hwy yn fan cychwyn da. Mae'n rhoi gwybodaeth gyffredinol a phenodol am safleoedd unigol. Gall grwpiau o sefydliadau addysgol ddod o hyd i wybodaeth werthfawr yn yr adran ymweliadau addysgol. Os yw eich grŵp yn cynnwys ymwelwyr anabl, gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth ar dudalennau'r safleoedd unigol o dan 'Lleoedd i ymweld' neu ffoniwch bencadlys Cadw ar 03000 257182 neu e-bostiwch cadwcommercial@llyw.cymru

Os hoffech gael cyngor ac awgrymiadau am ddim ar ba safleoedd fyddai'n gweddu orau i'ch rhaglen, cysylltwch â'n desg farchnata (manylion cyswllt isod).

Ymweliadau ymgyfarwyddo ‘cyfarch’

Dim ond un alwad i’n desg fasnachol sydd ei hangen a byddwn yn falch o drefnu ymweliad ymgyfarwyddo ‘cyfarch’ i’n heiddo.

Cysylltwch â'n desg farchnata (manylion cyswllt isod).

Gwasanaeth Llyfrgell Luniau

Mae gennym amrywiaeth eang o ffotograffau o ansawdd uchel i'w llogi. Cysylltwch â llyfrgell ffotograffau Wales on View neu cysylltwch â'n desg farchnata (manylion cyswllt isod).

https://assets.wales.com/

Gostyngiadau i grwpiau

Cyfraddau masnach ffafriol i aelodau Cynllun Gweithredwyr Taith Cadw.

Cysylltu a ni

I gael mwy o wybodaeth am ein cynigion i grwpiau, ffoniwch 03000 257182 neu e-bostiwch cadwcommercial@llyw.cymru

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.