Cynllun Gweithredwyr Teithiau a Thocynnau Crwydro’r Fasnach Deithio Cadw - Telerau ac Amodau
Cysylltwch â cadwcommercial@gov.wales i ymuno â Chynllun Gweithredwyr Teithiau Cadw.
Weithiau, mae rhai safleoedd ar gau am resymau y tu hwnt i’n rheolaeth, gan eu bod nhw’n cynnal diwrnodau mynediad am ddim a / neu ddigwyddiadau arbennig. Rydym yn argymell gwirio gwefan Cadw, ein cyfrifon Facebook neu Twitter, neu ffonio’r safle cyn eich ymweliad arfaethedig i wneud yn siŵr nad ydynt ar gau am y diwrnod.
Cysylltwch â cadwcommercial@gov.wales os oes gennych unrhyw ymholiadau archebu.
Amodau archebu
- Gallwch ddod o hyd i brisiau tocynnau’r fasnach ac amseroedd agor safleoedd ar Y Diwydiant Teithio | Cadw (llyw.cymru)
- Mae’n rhaid i chi gofrestru gyda Chynllun Gweithredwyr Teithiau Cadw i fod yn gymwys ar gyfer cyfraddau mynediad y fasnach. Y broses ar gyfer cofrestru yw cysylltu â thîm masnachol Cadw a fydd yn gwirio eich statws o ran y fasnach. Yna, bydd cyfrinair yn cael ei ddarparu i chi gofrestru ar y dudalen fewngofnodi i Weithredwyr Teithiau. Mewngofnodwch gan ddefnyddio’ch e-bost, newidiwch eich cyfrinair a gwnewch eich archebion ar-lein.
- Rhaid gwneud pob archeb ar gyfer grwpiau’r fasnach ar lwyfan archebu Cadw i fod yn gymwys ar gyfer cyfraddau’r fasnach. Byddwch yn derbyn e-bost cadarnhau pan fydd eich archeb wedi’i derbyn gan eich dewis safle - gall hyn gymryd hyd at 5 diwrnod gwaith. Nodwch mai amodol yn unig fydd eich archeb nes i chi dderbyn yr e-bost cadarnhau.
- Bydd uchafswm o ddau docyn mynediad am ddim yn cael eu hystyried fesul archeb (un ar gyfer grwpiau hyd at 15 a dau ar gyfer grwpiau o 15 neu fwy).
- E-bostiwch cadwcommercial@gov.wales i newid eich archeb.
- Mae’n rhaid i chi ddarparu enw’ch cwmni, cyfeirnod archebu Cadw, eich cwsmeriaid [NP1] a’u categorïau wrth gyrraedd y safle.
- Rhaid i chi gadw at unrhyw gyfyngiadau safle sydd ar waith ar adeg eich ymweliad.
- Byddwch yn cael eich anfonebu ar ôl eich ymweliad.
- E-bostiwch cadwcommercial@gov.wales i ganslo'ch archeb.
- Rydym yn gofyn am hysbysiad canslo o 24 awr.
- Cyfnod dilysrwydd tocyn crwydro’r fasnach: Mae’r Tocyn Crwydro 3 diwrnod yn gallu cael ei ddefnyddio mewn nifer diderfyn o safleoedd ar unrhyw 3 diwrnod mewn unrhyw gyfnod olynol o 7 diwrnod yn dilyn yr ymweliad cyntaf. Mae’r Tocyn Crwydro 7 diwrnod yn gallu cael ei ddefnyddio mewn nifer diderfyn o safleoedd ar unrhyw 7 diwrnod mewn unrhyw gyfnod olynol o 14 diwrnod yn dilyn yr ymweliad cyntaf.
- I fod yn gymwys ar gyfer cyfraddau’r fasnach am Docynnau Crwydro, cysylltwch â thîm masnachol Cadw. Byddwch yn derbyn cod i’w ddefnyddio pan fyddwch yn prynu’r tocynnau ar-lein.
- Mae angen talu ymlaen llaw am docynnau crwydro’r fasnach, ni ellir eu had-dalu ac ni ellir eu dychwelyd.
- Rhaid cyflwyno codau QR tocynnau crwydro’r fasnach (lleiafswm 3x3cm (113x113px)) ym mhob safle lle codir tâl mynediad.
- Os yw’n bosibl gofynnir ichi roi cyfeirnod archebu gwreiddiol Cadw yn ogystal â’ch cyfeirnod eich hun i’ch cwsmer.
- Bydd tocynnau crwydro’r fasnach yn dod yn annilys yn awtomatig naill ai ar ôl diwrnod saith wedi eu defnyddio gyntaf neu’r trydydd diwrnod o ddefnydd yn achos tocyn tri diwrnod, neu ar ôl pedwar diwrnod ar ddeg wedi eu defnyddio gyntaf neu’r seithfed diwrnod o ddefnydd yn achos tocyn saith diwrnod, pa un bynnag a ddaw’n gyntaf.