Ffordd y Gogledd
Mae cymaint i’w ddarganfod ar hyd Ffordd y Gogledd — dyma gynllun pedwar diwrnod o hyd i’ch helpu i gynllunio eich taith eich hun.
Dydd un (tua 58 milltir/93km) Dechreuwch yn agos at y ffin yn yr Wyddgrug. Gallwch aros yma cyn dechrau’r daith i fwynhau perfformiad yn Clwyd Theatr Cymru, cartref i gwmni cynhyrchu drama mawr Cymru. Mae cerddoriaeth, comedi a ffilm ar yr arlwy hefyd. Os ydych chi’n cynllunio cael picnic, piciwch i Siop Fferm Ystâd Penarlâg gerllaw am ddewis o’r bwyd mwyaf ffres o’r fferm, cyn gyrru dros Fryniau Clwyd sy'n Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol i dref Rhuthun, tref sy’n gyforiog o gyfoeth hanesyddol a diwylliannol. Dyma gybolfa ddeniadol o adeiladau brics coch a phren du a gwyn o’r cyfnodau canoloesol, y Tuduriaid a chyfnod y Brenin Siôr. Mewn gwrthgyferbyniad llwyr, mae Canolfan Grefft Rhuthun, adeilad modern a adeiladwyd i bwrpas, yn llawn dop o’r gorau o blith celf a chrefft gyfoes. Anelwch drwy harddwch gwledig Dyffryn Clwyd i Fae Colwyn. Mae’r dref glan-môr draddodiadol hon yn newid yn gyflym. Mae’r bae – cilgant euraid o dywod am a welwch chi – yn edrych yn well nag erioed. Mae yma draeth newydd gyda mwy o dywod glân na’r Sahara, promenâd sydd wedi cael adfywiad gerllaw Porth Eirias, ‘parc ger y môr’ hyfryd 50 erw / 20 ha. Dros nos: chwiliwch am lety yn Llandudno.
Dydd dau (tua 5 milltir/8km) Bydd angen diwrnod cyfan i wneud cyfiawnder â Llandudno a’r ardal gyfagos. Gwir y gair bod gan ‘frenhines’ cyrchfannau Cymru natur frenhinol hefyd. Efallai fod hyn yn deillio o harddwch Fictoraidd ac Edwardaidd perffaith yr adeiladau ar hyd glan y môr, â’r rhesi o westyau lliwiau losin. Neu’r strydoedd siopa llydan, braf a gynlluniwyd mor dda, gyda’u toeau gwydr addurnedig. Neu efallai’r pier, yr hiraf yng Nghymru. Mae pentir Pen y Gogarth, gwarchodfa natur sy’n gartref i blanhigion prin a – choeliwch chi byth – geifr Cashmir gwyllt, yn codi’n ddramatig uwchlaw’r promenâd. Ewch i’r copa fel pe baech chi yn San Francisco ar y dramffordd hanesyddol, neu yn null yr Alpau mewn car cebl. Yn ôl yn y dref, mae MOSTYN yn cynhyrfu’r dyfroedd rhyngwladol fel oriel gelf gyfoes flaengar. Ac mae Venue Cymru, prif ganolfan theatr ac adloniant Gogledd Cymru, yn llwyfannu perfformiadau gan enwau mawrion, gan gynnwys Opera Cenedlaethol Cymru. Canoloesol yw’r naws yng Nghonwy gyfagos. Mae’r strydoedd culion, sy’n llechu rhwng muriau gwreiddiol y dref, yn llawn o dai hanesyddol, Ond does dim all guro mawredd tywyll Castell Conwy, sy’n Safle Treftadaeth y Byd. Dros nos: chwilio am lety yng Nghonwy.
Dydd tri (tua 36 milltir/58km) Mae Castell Penrhyn, ar gyrion Bangor, yn blasty dros-ben-llestri o grand o’r 19eg ganrif, a adeiladwyd gan un o’r arglwyddi llechi lleol, i wario’i gyfoeth enfawr. Mae’n siŵr y bydd gormodedd dengar y Neuadd Fawr enfawr yn dwyn eich gwynt, ond datgelir ochr arall stori Penrhyn yn y gegin o oes Fictoria, ble byddai gweision a morynion weithiau’n gweithio gymaint ag 20 awr y dydd. Gogledd Cymru yw canolfan gweithgareddau awyr agored y Deyrnas Unedig. Nid dim ond y mynyddoedd sy’n denu ond hefyd gyrchfannau fel Zip World Chwarel y Penrhyn, ym Methesda, weiren sip gyflymaf y byd (allwch chi ddygymod â 100mya/160kya?). Dros nos: chwilio am lety yng Nghaernarfon.
Dydd pedwar (tua 43 milltir/69km) Mae angen mynd oddi ar y prif lwybr rhyw ychydig ar gyfer ymweld â Chaernarfon, fel gyda Bethesda. Ond fyddwch chi ddim eisiau colli gweld fan hyn chwaith. Caernarfon yw cartref ein castell enwocaf, Castell Caernarfon – cadarnle canoloesol enfawr arall a fu’n balas brenhinol i Edward I. I brofi gwedd wahanol ar y dref hon sy’n denu cynifer o ymwelwyr, ewch i Galeri, canolfan fodern sy’n cynnwys lleoedd celf, sinema a chaffi / bar ar lan y cei, sydd ar ei newydd wedd. Ewch yn ôl i Fangor, gan groesi Afon Menai, sy’n gwahanu Ynys Môn oddi wrth dir mawr Cymru, naill ai dros bont fodern Britannia neu Bont Grog Menai hanesyddol (y cyntaf o’i bath yn y byd) a gynlluniwyd gan yr athrylith o’r 19eg ganrif, Thomas Telford. Mae Biwmares yn dref lan-môr ddeniadol, sy’n gartref i gastell rhagorol arall. O holl gestyll Edward I a adeiladwyd yn y 13eg ganrif yng Nghymru, Biwmares yw’r fwyaf perffaith. Rhaid bod ystyried ymosod ar y cadarnle hwn, â’i ffos yn llawn dŵr a’r waliau cylchynol mewn cyfres, yn ormod o dasg i unrhyw un. Bydd hi’n amhosib gweld Ynys Môn i gyd ar y daith hon. Anelwch am ganol yr ynys felly, i Langefni i gael blas o’r cyfan yn Oriel Ynys Môn, amgueddfa ac oriel ddeniadol sy’n rhoi taith wib o gwmpas hanes, treftadaeth, bywyd gwyllt, daeareg a chelf yr ynys. Mae arfordir Môn yn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol. Does fawr o unman all guro clogwyni môr Ynys Lawd, tu draw i borthladd Caergybi, ble gellir gweld cannoedd o adar y môr, yn wylogod, llursod, palod a mwy o Dŵr Elin, Canolfan Adar Môr yr RSPB. |