Skip to main content

Rheoli parciau a gerddi hanesyddol cofrestredig

Mae gan Gymru etifeddiaeth gyfoethog o barciau a gerddi hanesyddol. Mae pob un yn ffynhonnell wybodaeth unigryw am y gorffennol: mae gan bob un ei hanes arbennig.

Gallant gynnwys tystiolaeth bwysig ynglŷn â sut a phryd y cawsant eu creu, sut y cawsant eu defnyddio, a sut y maent wedi newid dros amser. Ond mae parciau a gerddi hanesyddol cofrestredig yn parhau i esblygu. Ni allant aros yn ddigyfnewid, ac mae angen newid yn aml er mwyn sicrhau eu cynaliadwyedd hirdymor, yn enwedig wrth i ni ddechrau deall effeithiau’r newid yn yr hinsawdd yn well.

Gall newid gynnwys sawl math o weithgarwch, o waith cynnal a chadw arferol i waith newydd neu newidiadau. Gall newidiadau sy’n debygol o effeithio ar barciau a gerddi hanesyddol cofrestredig neu eu lleoliadau effeithio ar eu harwyddocâd a’u nodweddion hanesyddol. P’un ai a yw newid yn ddymunol neu’n angenrheidiol, mae angen ei reoli’n dda er mwyn sicrhau bod ein parciau a’n gerddi hanesyddol cofrestredig yn cadw eu nodweddion arbennig, er budd cenedlaethau heddiw ac yfory.  

Mae Rheoli Newid i Barciau a Gerddi Hanesyddol Cofrestredig yng Nghymru yn cyflwyno’r egwyddorion cyffredinol i’w dilyn wrth ystyried newidiadau a allai effeithio ar barciau a gerddi hanesyddol cofrestredig.

Mae’n egluro statws y gofrestr parciau a gerddi hanesyddol yng Nghymru a’i lle yn y system gynllunio, gan gynnwys rolau a chyfrifoldebau perchnogion, awdurdodau cynllunio lleol, cymdeithasau amwynderau a Cadw. Nid yw’r broses gofrestru yn cyflwyno unrhyw gyfundrefnau cydsynio newydd.  

 

Mae’r canllawiau arferion gorau hyn wedi’u bwriadu yn bennaf ar gyfer perchnogion ac asiantau er mwyn eu helpu i ddeall goblygiadau perchen ar barc neu ardd hanesyddol gofrestredig a rheoli newidiadau sy’n effeithio arno/arni. Hefyd, dylent helpu perchnogion ac asiantau i ystyried Egwyddorion Cadwraeth Cadw ar gyfer Rheoli Amgylchedd Hanesyddol Cymru mewn Ffordd Gynaliadwy (Egwyddorion Cadwraeth) a defnyddio methodoleg asesiad o’r effaith ar dreftadaeth i sicrhau newid sensitif o ansawdd uchel.

Hefyd, mae perchnogion a rheolwyr yn gallu defnyddio Rheoli Newid i Barciau a Gerddi Hanesyddol Cofrestredig yng Nghymru fel canllawiau arferion gorau i ofalu am safleoedd cofrestredig. Mae’r egwyddorion a’r arferion yn berthnasol i holl barciau a gerddi hanesyddol Cymru, waeth a ydynt wedi’u cofrestru ai peidio.

Hefyd, dylai awdurdodau sy’n gwneud penderfyniadau ddefnyddio’r canllawiau hyn ochr yn ochr â Pholisi Cynllunio Cymru, Nodyn Cyngor Technegol 24: Yr Amgylchedd Hanesyddol ac Egwyddorion Cadwraeth wrth ystyried effaith ceisiadau cynllunio unigol ar barciau a gerddi hanesyddol cofrestredig, a’u lleoliadau.