Parciau a Gerddi Hanesyddol Cofrestredig
Deall parciau a gerddi hanesyddol cofrestredig
Yn y canllaw hwn
1. Cyflwyniad
Mae parciau a gerddi hanesyddol yn rhan o hunaniaeth genedlaethol Cymru. Maent yn cyfoethogi gwead a phatrwm ein tirweddau ac yn ffurfio cofnod gwerthfawr o newid cymdeithasol, diwylliannol ac economaidd. Mae llawer ohonynt yn cynnig gwerth cadwraeth eithriadol ar gyfer bywyd gwyllt yn ogystal â chyfleoedd hamdden i’r cyhoedd. Fel ffynhonnell bleser a dysgu, a rhwydwaith gwerthfawr o fannau gwyrdd, mae gan ein parciau a’n gerddi hanesyddol ran bwysig i’w chwarae er mwyn creu Cymru sy’n fwy iach a gwyrdd.
Mae’r broses gofrestru yn nodi parciau a gerddi sydd o ddiddordeb hanesyddol arbennig i Gymru. Mae cyfnodau parciau a gerddi hanesyddol cofrestredig yn amrywio o’r cyfnod canoloesol i ganol yr ugeinfed ganrif, ac maent yn adlewyrchu sawl agwedd ar ein bywydau, gan gynnwys lleoedd i fyw a chofio a lleoedd i weithio a chwarae. Mae’r lleoedd hyn o bwysigrwydd cenedlaethol ac yn cysylltu bywydau ac uchelgeisiau cenedlaethau’r gorffennol. Mae’r broses gofrestru yn helpu i nodi holl briodweddau arbennig y parciau a’r gerddi hyn, a’u gwarchod er budd cenedlaethau’r dyfodol.
Mae parciau a gerddi hanesyddol yn adnodd bregus a chyfyngedig ac mae’n hawdd eu difrodi neu eu colli. Mae’n bwysig codi ymwybyddiaeth o’u harwyddocâd ac annog y rhai sy’n gyfrifol am eu rheoli i’w trin fel lleoedd gwerthfawr ac unigryw. Diolch i’w gofal a’u hymrwymiad i ddiogelu’r asedau gwerthfawr hyn, byddwn yn gallu mwynhau’r parciau hanesyddol a’r gerddi o ddiddordeb hanesyddol arbennig ar hyn o bryd ac yn y dyfodol.
2. Beth yw cofrestru?
Mae cofrestru yn ymwneud â sut mae parc neu ardd o ddiddordeb hanesyddol arbennig yn cael ei gydnabod/ei chydnabod gan y gyfraith trwy Ddeddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2023.
Er mai Gweinidogion Cymru sy’n gyfrifol am lunio’r gofrestr, yn ymarferol, rydym ni — Cadw — yn argymell pa barciau neu erddi a ddylai gael eu cofrestru neu eu datgofrestru.
Mae’r term ‘parciau a gerddi hanesyddol cofrestredig’ yn bellgyrhaeddol, ac yn ogystal â thirweddau gwledig a pharciau o gwmpas plastai yn y wlad, mae’n cynnwys parciau ceirw, ffermydd enghreifftiol, tirweddau ysbytai, mynwentydd, gerddi trefi a pharciau cyhoeddus. Mae llawer ohonynt yn perthyn i fwy nag un cyfnod ac mae ganddynt nodweddion dulliau a chyfnodau gwahanol.
Mae newidiadau i barciau a gerddi cofrestredig yn cael eu rheoli trwy’r system gynllunio. Nid gorchymyn cadw mo’r broses gofrestru, a’i bwriad yw helpu i reoli newid ac amddiffyn y parc neu’r ardd, ei leoliad/lleoliad a’i nodweddion yn erbyn gwaith digydymdeimlad a allai niweidio diddordeb arbennig y safle. Mae rhagor o wybodaeth am y system gynllunio ar gael yn y ddogfen Rheoli Newid i Barciau a Gerddi Hanesyddol Cofrestredig yng Nghymru.
Mae tua 400 o barciau a gerddi hanesyddol cofrestredig yng Nghymru. Rydym yn parhau i ychwanegu safleoedd at y gofrestr, a’u tynnu oddi arni weithiau. Mae pob un o’r parciau a’r gerddi hanesyddol cofrestredig o ddiddordeb hanesyddol arbennig, ond rydym yn eu graddio trwy ddefnyddio system sy’n debyg i’r hyn a ddefnyddir ar gyfer adeiladau rhestredig (I, II* a II). Rydym yn ystyried cynllun hanesyddol, nodweddion ac addurniadau pensaernïol parc neu ardd gyda’i gilydd wrth bennu gradd.
Gradd I — parciau a gerddi sydd o ddiddordeb eithriadol, sef tua 10 y cant o gyfanswm y parciau a’r gerddi cofrestredig yng Nghymru.
Gradd II* — parciau a gerddi sydd o ansawdd gwych, sef tua 23 y cant o gyfanswm y parciau a’r gerddi cofrestredig yng Nghymru.
Gradd II — parciau a gerddi sydd o ddiddordeb arbennig, sef tua 67 y cant o gyfanswm y parciau a’r gerddi cofrestredig yng Nghymru.
Waeth beth yw eu gradd, mae’r system gynllunio yn trin pob un o’r parciau a’r gerddi hanesyddol cofrestredig yn gyfartal.
3. Sut mae parciau a gerddi yn cael eu dewis ar gyfer cofrestru?
Rydym yn asesu pob parc a gardd yn ôl ei haeddiant. Rydym yn ystyried nifer o ffactorau wrth benderfynu a oes gan barc neu ardd nodwedd hanesyddol arbennig sydd ei hangen i’w chofrestru.
Mae Nodyn Cyngor Technegol 24: Yr Amgylchedd Hanesyddol yn nodi’r meini prawf ar gyfer cofrestru. Mae’n rhaid cofrestru pob parc a gardd sy’n bodloni un neu fwy o’r meini prawf canlynol:
• dangos rhyw agwedd benodol ar hanes gerddi, parciau, tiroedd wedi’u cynllunio, tirweddau addurniadol wedi’u cynllunio a mannau hamdden, neu hanes garddio, gwaith tirweddu addurniadol neu arddwriaeth.
• bod ganddynt gysylltiadau hanesyddol pwysig (er enghraifft, ag unigolyn neu ddigwyddiad penodol)
• bod iddynt werth fel grŵp ag adeiladau neu dir arall a bod y gwerth grŵp ei hun o ddiddordeb hanesyddol, er enghraifft, efallai eu bod yn lleoliad hanesyddol ar gyfer adeilad o ddiddordeb hanesyddol.
Gall parciau neu erddi hanesyddol cofrestredig fod yn un o’r canlynol:
• gerddi
• parciau
• tiroedd wedi’u cynllunio
• tirweddau addurniadol wedi’u cynllunio
• mannau hamdden.
Weithiau, gall y broses gofrestru gynnwys adeiladau, dŵr, neu dir gerllaw.
Nid ydym yn ystyried cyflwr neu ddefnydd parc neu ardd wrth ystyried a ddylid eu cofrestru.
4. Gwybodaeth am barciau a gerddi hanesyddol cofrestredig
Rydym yn paratoi cofnod ar gyfer pob parc a gardd hanesyddol gofrestredig. Gellir gweld y rhain ar Cof Cymru Cof Cymru — Asedau Hanesyddol Cenedlaethol Cymru ar wefan Cadw
Mae pob cofnod yn cynnwys:
- enw’r parc neu’r ardd
- gradd y parc neu’r ardd
- cyfeirnod a’r Cyfeirnod Grid Cenedlaethol
- disgrifiad cryno
- y prif resymau ar gyfer cofrestru
- map sy'n nodi maint yr ardal gofrestredig ac yn nodi cyfeiriad golygfeydd arwyddocaol.
Mae’r ffin a ddangosir ar y map yn diffinio’r arwynebedd cyffredinol sy’n arwyddocaol yn ein barn ni, ac mae’n seiliedig ar ein gwaith ymchwil. Nid yw perchenogaeth bresennol y tir yn cael unrhyw effaith ar ddiffinio’r ffin. Rydym yn defnyddio dogfennau a mapiau hanesyddol ynghyd â thystiolaeth sy’n cael ei chasglu yn ystod gwaith maes er mwyn diffinio ffin gardd neu barc. Weithiau, mae nodweddion fel muriau a gatiau yn dangos yn glir lle y mae modd gosod ffin. Mewn amgylchiadau eraill, lle mae’r dystiolaeth yn llai eglur, rydym yn defnyddio crebwyll proffesiynol i benderfynu terfyn mwyaf rhesymegol y ffin.
Er y bydd cofnod ar y gofrestr yn sôn am y rhesymau a arweiniodd at y cofrestriad, efallai na fydd yn darparu hanes safle diffiniol nac yn gofnod cyflawn o’r holl nodweddion o bwys. O ganlyniad, mae’n bwysig cofio nad yw absenoldeb nodwedd benodol yn golygu nad yw o ddiddordeb.
Yn wreiddiol, cyhoeddwyd y gofrestr o barciau a gerddi hanesyddol yng Nghymru mewn cyfres o saith cyfrol, ac roedd pob un yn cynnwys disgrifiad hir o’r safleoedd cofrestredig. Mae’r wybodaeth hon ar gael gennym ar gais. Hefyd, mae’n bosibl y bydd rhagor o wybodaeth ar gael ar-lein gan Cofnod Henebion Cenedlaethol Cymru - https://www.coflein.gov.uk/cy
Gall parciau a gerddi cofrestredig gynnwys adeiladau rhestredig a henebion cofrestredig. Mae gwybodaeth ar gael ar wefan Cof Cymru.
Mae rhagor o wybodaeth am adeiladau rhestredig a henebion cofrestredig ar gael yn:
Rheoli newid i adeiladau rhestredig
Gofalu am eich heneb gofrestredig
5. Sut i wneud cais am gofrestru
Mae tua 400 o barciau a gerddi rhestredig yng Nghymru. Gellir ychwanegu parciau a gerddi at y gofrestr, a gallwch wneud cais i ni am gofrestru parciau neu erddi unigol.
Cyn cyflwyno cais, mae’n syniad da cadarnhau a yw’r parc neu’r ardd wedi’i gofrestru/ei chofrestru eisoes. Gallwch wneud hyn trwy gysylltu â ni neu drwy edrych ar wefan Cof Cymru — Cofnod Henebion Cenedlaethol Cymru.
Dylech anfon eich cais am gofrestru i cadw@llyw.cymru gan egluro pam y dylid ychwanegu’r parc neu’r ardd at y gofrestr a chynnwys y manylion canlynol:
- enw, cyfeiriad/lleoliad y parc neu’r ardd, y cod post neu’r cyfeirnod map
- manylion cyswllt y perchennog/meddiannwr, os yn hysbys
- ffotograffau diweddar yn dangos golwg bresennol a nodweddion arbennig y parc neu’r ardd
- gwybodaeth am hanes y parc neu’r ardd — fel dyddiad y gwaith adeiladu, defnydd gwreiddiol a datblygiad hanesyddol, nodweddion pensaernïol arbennig, ac unrhyw bobl neu ddigwyddiadau sy’n gysylltiedig â’r lle. Os oes modd, dylech gynnwys tystiolaeth ysgrifenedig neu ffotograffig i gefnogi’ch cais a nodi’r ffynonellau rydych chi wedi’u defnyddio i ddysgu am y parc neu’r ardd.
- y rhesymau pam y gallai’r parc neu’r ardd fodloni’r gofynion cofrestru yn eich barn chi.
Byddwn yn asesu’r wybodaeth i weld a yw’r parc neu’r ardd yn bodloni’r meini prawf cenedlaethol ar gyfer cofrestru. Os ydym yn argymell y dylid cofrestru’r parc neu’r ardd, fel arfer byddwn yn ymgynghori â pherchnogion a meddianwyr y safle, yr awdurdod cynllunio lleol ac Ymddiriedolaeth Gerddi Hanesyddol Cymru, cyn dechrau’r broses gofrestru.
Yn aml, mae mewnbwn tirfeddianwyr a rheolwyr sy’n gyfarwydd iawn â’r safle yn hollbwysig i’n dealltwriaeth o’i arwyddocâd. Hefyd, mae’n gyfle i ni egluro goblygiadau cofrestru ac ateb unrhyw gwestiynau sy’n codi. Felly, byddwn yn gwneud pob ymdrech i ymgynghori â pherchnogion a meddianwyr o bob math. Fodd bynnag, mae’n bosibl na fydd modd gwneud hyn bob amser os na allwn adnabod pob perchennog a meddiannydd, yn enwedig ar gyfer safleoedd mawr sydd â pherchnogion lluosog.
Ambell waith, os yw parc neu ardd hanesyddol o dan fygythiad, mae’n bosibl na fyddwn yn gallu ymgynghori’n llawn cyn y broses gofrestru, ond byddwn yn sicrhau bod y perchennog yn cael ei hysbysu cyn gynted â phosibl.
Os yw’r parc neu’r ardd wedi’i gofrestru/ei chofrestru, byddwn yn hysbysu’r perchennog, y meddiannydd a’r awdurdod cynllunio lleol.
6. Sut i wneud cais am newid y gofrestr
Gallwch ofyn i ni adolygu ein penderfyniad i gofrestru parciau a gerddi hanesyddol, gan gynnwys eu gradd, neu ddiwygio neu ddileu cofnod. Bydd angen i chi ddarparu tystiolaeth ategol sylweddol sy’n dangos bod camgymeriad wedi’i wneud yn ystod y broses gofrestru, neu nad yw’r tir yn bodloni’r meini prawf ar gyfer cofrestru bellach, neu’r ffaith fod tystiolaeth newydd wedi dod i’r amlwg sy’n dangos na ddylai’r tir fod yn rhan o’r ardal gofrestredig.
Cyn ysgrifennu atom, mae’n syniad da gofyn am gyngor gan arbenigwr sydd â gwybodaeth arbenigol am gofrestru parciau a gerddi hanesyddol. Gall Ymddiriedolaeth Gerddi Hanesyddol Cymru gynnig cyngor neu argymell arbenigwr
7. A yw cofrestru yn cyfyngu ar beth y gallaf ei wneud?
Yn wahanol i restru neu gofrestru (scheduling), nid yw cofrestru yn gorfodi unrhyw gyfundrefn gydsynio ychwanegol, ac fel arfer nid ydym yn ymwneud â gwaith rheoli a chynnal a chadw parciau a gerddi hanesyddol cofrestredig o ddydd i ddydd. Yn hytrach, maent yn cael eu diogelu’n bennaf trwy’r system gynllunio.
Mae rhagor o wybodaeth am wneud cais am ganiatâd cynllunio ar gael yn y ddogfen Rheoli Newid i Barciau a Gerddi Hanesyddol Cofrestredig yng Nghymru.
Yn hytrach nag atal newid, bwriad cofrestru yw nodi arwyddocâd parc neu ardd hanesyddol er mwyn ei ystyried wrth wneud cynlluniau a phenderfyniadau datblygu.
Er nad yw’n ganlyniad cofrestru, mae’n bosibl y bydd angen caniatâd penodol arnoch i wneud unrhyw newidiadau i adeiladau rhestredig a henebion cofrestredig yn eich parc neu ardd hanesyddol gofrestredig.
Mae rhagor o wybodaeth am ganiatâd ar gyfer adeiladau rhestredig a henebion cofrestredig ar gael yn:
Gall ystyriaethau eraill fod yn berthnasol hefyd, gan gynnwys statws ardal gadwraeth, Gorchmynion Diogelu Coed neu Reoliadau Perthi. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn y ddogfen Rheoli Newid i Barciau a Gerddi Hanesyddol Cofrestredig yng Nghymru.