Skip to main content

Henebion Cofrestredig

Deall cofrestru

Yn y canllaw hwn

1. Cyflwyniad

Mae henebion cofrestredig yn rhan werthfawr o'n treftadaeth. Maent yn helpu i greu cymeriad unigryw Cymru ac yn cyfrannu at ein hunaniaeth a'n hymdeimlad o le. Maent yn dystiolaeth ffisegol o weithgareddau a bywydau'r bobl a fu'n byw yng Nghymru cyn ein hamser ni, ac a ddylanwadodd ar y wlad yr ydym yn byw ynddi heddiw.  Gyda'i gilydd, mae ein henebion cofrestredig yn cynrychioli ac yn hyrwyddo Cymru. Mae gan lawer ohonynt arwyddocâd rhyngwladol sy'n denu ymwelwyr o bedwar ban y byd.

Mae cofrestru yn nodi henebion yr ystyrir eu bod o bwys cenedlaethol i Gymru. Golyga hyn eu bod yn bwysig, nid dim ond yn lleol, ond ar gyfer treftadaeth ddiwylliannol ehangach Cymru. Maent yn amrywio o ogofâu cynhanesyddol a feddiannwyd dros chwarter miliwn o flynyddoedd yn ôl, i strwythurau diwydiannol a milwrol a adeiladwyd yn ystod yr ugeinfed ganrif. Mae henebion cofrestredig yn cynrychioli pob agwedd ar fywydau ein cyndeidiau, yn amrywio o weithgareddau arbennig i weithgareddau bob dydd. O leoedd i fyw, gweithio a chwarae ynddynt, i fannau addoli a gwrthdaro, mae'r henebion hyn, sydd o bwys cenedlaethol, yn cynnig cysylltiad ag uchelgeisiau a sgiliau cenedlaethau'r gorffennol. Mae'r broses gofrestru yn ein helpu i nodi pob un o nodweddion arbennig yr adeiladau hyn a'u gwarchod er budd cenedlaethau'r dyfodol.

Mae gan berchenogion a meddianwyr presennol henebion cofrestredig ran bwysig i'w chwarae yn y gwaith o reoli ein treftadaeth. Drwy eu gofal a'u hymrwymiad i ddiogelu'r asedau gwerthfawr hyn, byddwn oll yn gallu mwynhau'r adeiladau hyn sydd o bwys cenedlaethol nawr ac yn y dyfodol.

Bydd Deall Cofrestru yng Nghymru yn helpu unrhyw un sydd am wybod pam a sut y caiff henebion eu cofrestru neu y mae angen iddo wybod hynny. Mae hefyd yn esbonio sut i ofyn am i heneb gael ei chofrestru neu ei dadgofrestru a sut i wneud cais am adolygiad o benderfyniad cofrestru.

2. Beth yw cofrestru?

Cofrestru yw'r ffordd y caiff henebion neu safleoedd archaeolegol o bwys cenedlaethol eu cydnabod o dan y gyfraith drwy Ddeddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2023.

Dechreuodd cofrestru ym 1913, ond mae ei wreiddiau'n dyddio'n ôl i 1882 pan ddaeth mesurau i ddiogelu rhai henebion hynafol yn gyfraith gwlad am y tro cyntaf.  Dyma pryd y cafodd y term 'cofrestru' ei defnyddio gyntaf i ddisgrifio rhestr o safleoedd cynhanesyddol yn bennaf a oedd yn haeddu cael eu diogelu gan y Wladwriaeth.

Er mai Gweinidogion Cymru sy'n gyfrifol am lunio'r gofrestr, yn ymarferol, ni — Cadw — sy'n argymell pa henebion y dylid eu cofrestru.

Mae'r term 'heneb gofrestredig' yn eang ei chwmpas. Yn ogystal â chestyll, abatai a safleoedd claddu cynhanesyddol adnabyddus, mae hefyd yn cwmpasu safleoedd llai cyfarwydd fel odynau calch, hen aneddiadau canoloesol anghyfannedd ac olion y diwydiannau haearn, glo a llechi yng Nghymru. Gall rhai henebion cofrestredig gynnwys adeiladau sy'n dal i sefyll neu adfeilion ac mae eraill nad oes unrhyw olion ohonynt i'w gweld ar wyneb y ddaear, ond mae eu harchaeoleg gladdedig o bwys cenedlaethol.  Gall safleoedd tanddwr gael eu cofrestru hefyd, megis safleoedd aneddiadau ar ochr llynnoedd sydd wedi mynd dan y dŵr neu longddrylliadau hanesyddol.  Mewn gwirionedd, gall henebion ac olion archaeolegol o bob ffurf ac oed gael eu cofrestru, ar yr amod nad oes neb yn byw ynddynt neu nad ydynt yn cael eu defnyddio at ddibenion eglwysig. Golyga hyn fod y rhan fwyaf o henebion cofrestredig yn safleoedd archaeolegol neu'n adfeilion hanesyddol.

Nod cofrestru yw diogelu'r dystiolaeth archaeolegol sy'n goroesi mewn safleoedd a henebion. Mae hyn yn cynnwys adeiledd ffisegol yr heneb ac unrhyw arteffactau a thystiolaeth amgylcheddol gysylltiedig, megis paill neu hadau.   Mae hyn yn golygu, pe byddech yn dymuno gwneud gwaith a fyddai'n newid heneb gofrestredig yn ffisegol, y byddai angen i chi yn ôl pob tebyg wneud cais i ni am ganiatâd, a elwir yn ganiatâd heneb gofrestredig.  Bwriedir i'r broses caniatâd heneb gofrestredig ddiogelu'r heneb, ei lleoliad a'i nodweddion rhag gwaith anghydnaws a allai niweidio ei phwysigrwydd cenedlaethol.

Mae llawer o henebion a safleoedd archaeolegol yn bwysig i'w cymunedau lleol, ond er mwyn iddynt gael eu cofrestru, rhaid iddynt fod o bwys cenedlaethol. Esbonnir y meini prawf ar gyfer diffinio pwysigrwydd cenedlaethol yn adran 2. Rydym yn parhau i ychwanegu henebion at y gofrestr, ac weithiau yn eu tynnu oddi arni.

Dengys y detholiad canlynol o safleoedd sut y gall henebion cofrestredig amrywio'n eang o ran math a dyddiad.

3. Sut y caiff safleoedd eu dewis i'w cofrestru?

Rydym yn asesu pob heneb yn ôl ei theilyngdod ei hun. Rydym yn ystyried nifer o ffactorau wrth benderfynu p'un a yw heneb neu safle archaeolegol o bwys cenedlaethol ac yn bodloni'r meini prawf angenrheidiol ar gyfer cofrestru.

Mae cofrestru'n cydnabod mai, yn aml, henebion hynafol a safleoedd archaeolegol yw ein hunig ffynhonnell o wybodaeth am y cyfnod pan oeddent yn cael eu defnyddio.  Mae rhai mathau o henebion yn brin iawn, mae eraill yn fwy cyffredin ac yn amrywio o ran eu ffurf a'u golwg. Mae'r meini prawf a ddefnyddiwn i ddewis henebion i'w gwarchod yn cydnabod yr amrywiaeth hon ac yn caniatáu hyblygrwydd ar gyfer dewis pa safleoedd y byddwn yn eu defnyddio yn y dyfodol.

Nodyn Cyngor Technegol 24: Mae Yr Amgylchedd Hanesyddol yn nodi'r meini prawf ar gyfer cofrestru.

Y prif ystyriaethau yw:

Cyfnod

Dylai pob math o heneb sy’n nodweddu categori neu gyfnod gael ei hystyried ar gyfer diogelu.

Nid oes unrhyw derfynau o ran oed y safleoedd a gaiff eu dewis i'w cofrestru. Gall hyd yn oed strwythurau cymharol ddiweddar fod yn gymwys os ydynt yn cynrychioli eu cyfnod neu eu gweithgaredd mewn ffordd foddhaol.

Prinder

Mae rhai categorïau o henebion sydd mor brin mewn rhai cyfnodau fel y dylai’r holl enghreifftiau sydd wedi goroesi ac sydd â rhywfaint o botensial archaeolegol o hyd gael eu diogelu. Yn gyffredinol, fodd bynnag, dylid dewis detholiad sy’n portreadu’r nodweddiadol a’r cyffredin yn ogystal â’r prin. Dylai’r broses hon ystyried holl agweddau dosbarthiad dosbarth arbennig o heneb, o ran cyd-destun cenedlaethol  rhanbarthol.

Mae rhai henebion mor brin y byddant yn cael eu cofrestru am eu bod o bwys cenedlaethol. Caiff henebion mwy cyffredin eu cofrestru drwy broses ddethol, a hynny fel arfer yn seiliedig ar eu cyflwr a'u potensial archaeolegol, i gynrychioli ystod ac amrywiaeth. 

Dogfennaeth

Gall arwyddocâd heneb cael ei ategu gan fodolaeth cofnodion ymchwiliadau blaenorol neu, yn achos henebion diweddarach, gan dystiolaeth ategol o gofnodion ysgrifenedig cyfoes.

Os yw henebion wedi'u disgrifio mewn dogfennu hanesyddol neu os yw ymchwiliadau cynharach iddynt yn bodoli, gall hyn ein helpu i'w deall yn well a llywio ein dewisiadau o ran cofrestru.

Gwerth grŵp

Gall gwerth heneb unigol (megis cyfundrefn caeau) gael ei hategu’n fawr gan ei pherthynas â henebion cyfoes perthnasol (megis anheddiad a mynwent) neu â henebion o wahanol gyfnodau. Mewn rhai achosion, mae’n well gwarchod y grŵp cyfan o henebion, gan gynnwys tir cysylltiol a chyfagos, yn hytrach na gwarchod henebion unigol o fewn y grŵp.   

Prin y gwelir bod henebion unigol wedi'u hadeiladu ar eu pen eu hunain heb unrhyw berthynas â strwythurau eraill o'r un cyfnod. Yn yr achosion hyn, rydym yn diogelu'r grŵp yn ei gyfanrwydd yn hytrach na chofrestru henebion unigol o fewn y grŵp.

Goroesiad/Cyflwr

Mae goroesiad potensial archaeolegol heneb ar ac o dan y ddaear yn ystyriaeth arbennig o bwysig a dylai gael ei hasesu mewn perthynas â’i chyflwr presennol a’r nodweddion sydd wedi goroesi.

Mae gan y rhan fwyaf o’r henebion a gaiff eu dewis i'w cofrestru botensial archaeolegol, a hynny ar wyneb y ddaear ac oddi tani. Gallai hyn gynnwys waliau cerrig sy'n sefyll, tyllau pyst claddedig neu rwbel o strwythurau sydd wedi dymchwel, ynghyd ag arteffactau a dyddodion archaeolegol yn yr heneb ac o'i chwmpas.

Cyflwr bregus

Gall tystiolaeth archaeolegol o bwys mawr o rai henebion maes gael ei dinistrio gan un cyfnod o aredig neu driniaeth heb gydymdeimlad. Byddai henebion o’r math hwn sydd dan fygythiad yn elwa’n arbennig ar y diogelwch statudol y mae cofrestru yn ei roi. Ceir strwythurau sy'n sefyll hefyd o ffurf neu gymhlethdod arbennig y gall eu gwerth gael ei leihau’n sylweddol drwy esgeulustod neu driniaeth ddiofal ac a fyddai'r un mor addas i gael diogelwch heneb gofrestredig hyd yn oed os yw’r strwythurau hyn eisoes yn adeiladau hanesyddol rhestredig.

Gall cofrestru ddiogelu henebion ag olion claddedig yn agos at wyneb y ddaear y gellir eu difrodi'n hawdd iawn, er enghraifft drwy aredig. Gall cofrestru hefyd ddiogelu potensial archaeolegol rhai strwythurau sy'n sefyll a allai gael eu difrodi'n hawdd iawn drwy gael eu hesgeuluso neu eu trin yn ddiofal. 

Amrywiaeth

Gellir dewis rhai henebion ar gyfer cofrestru am eu bod yn cynnwys cyfuniad o nodweddion safonol; rhai eraill oherwydd un nodwedd bwysig.

Potensial

Weithiau, ni ellir nodi natur y dystiolaeth yn fanwl, ond gall fod yn bosibl dogfennu rhesymau yn rhagweld ei bodolaeth a’i phwysigrwydd ac felly ddangos y cyfiawnhad dros gofrestru. Mae hyn fel arfer wedi ei gyfyngu i safleoedd yn hytrach na henebion sy’n sefyll. 

Mae'r rhan fwyaf o safleoedd archaeolegol yn cynnwys tystiolaeth o dan y ddaear na allwn ei deall yn llawn heb gynnal gwaith cloddio, ond mae hon yn broses ddinistriol sy'n arwain at golli'r cofnod sylfaenol.

Gall technegau fel arolygon geoffisegol helpu i ddiffinio natur a graddau olion archaeolegol sydd wedi goroesi, ond ni fyddant yn amlygu pob manylyn o'r safle, yn enwedig os yw'r olion wedi'u claddu'n ddwfn o dan y ddaear.

Drwy dynnu ar ein profiad o waith cloddio neu ddatgelu mewn safleoedd tebyg eraill, gallwn asesu potensial archaeolegol a ph'un a ddylem gofrestru safleoedd ai peidio.  Yn yr achosion hyn, mae cofrestru yn diogelu'r prif olion archaeolegol rhag aflonyddwch a cholled damweiniol.

Mae'r broses gofrestru yn ddisgresiynol. Golyga hyn ein bod hefyd yn ystyried diben a goblygiadau cofrestru wrth wneud penderfyniad. Weithiau, mae'n bosibl na fydd yn briodol cofrestru, hyd yn oed os bydd safle'n bodloni'r meini prawf. Er enghraifft, os yw safle arfordirol yn cael ei erydu'n gyflym gan y môr a'i bod yn debygol y bydd yn cael ei golli yn y dyfodol agos, mae'n bosibl nad cofrestru yw'r dull gorau o weithredu am na fydd yn gwarchod y safle. Mewn achosion o'r fath, mae'n bosibl mae cloddiad llawn fyddai'r unig ffordd o gofnodi pwysigrwydd yr ased hanesyddol.

Gall rhestru lleol hefyd fod yn ffordd effeithiol o warchod henebion a safleoedd archaeolegol o bwys nad ydynt yn bodloni'r meini prawf cenedlaethol ar gyfer cofrestru ond sy'n chwarae rôl hollbwysig i gynnal cymeriad lleol ac ymdeimlad o le. Gall awdurdodau cynllunio lleol lunio rhestrau o asedau hanesyddol o ddiddordeb lleol arbennig a llunio polisïau i'w diogelu a'u gwella.

Am ragor o wybodaeth am restru lleol, gweler Rheoli Rhestrau o Asedau Hanesyddol o Ddiddordeb Lleol Arbennig yng Nghymru.

4. Dysgu am henebion cofrestredig

Rhown gofnod i bob heneb gofrestredig yn y gofrestr swyddogol. Mae hyn yn cynnwys disgrifiad a chynllun o'r lleoliad sy'n nodi cwmpas yr ardal gofrestredig. Cyhoeddir y cofnodion hyn ar Cof Cymru – Asedau Hanesyddol Cenedlaethol Cymru ar wefan Cadw.  

Mae'r cofnod ar y gofrestr yn rhoi trosolwg o'r heneb: beth ydyw a pham mae'n bwysig.

Er y bydd cofnod ar y gofrestr yn cyfeirio at elfennau neu nodweddion yr heneb a arweiniodd at ei chofrestru, mae'n bosibl na fydd yn gofnod cyflawn o'r holl nodweddion pwysig. Gall faint o wybodaeth sydd mewn cofnod amrywio.

Mae'n bosibl y gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am hanes eich heneb gofrestredig yn eich cofnod amgylchedd hanesyddol lleol, a gynhelir gan un o'r pedair ymddiriedaeth archaeolegol yng Nghymru, ac yn y Gofrestr o Henebion Cenedlaethol a gynhelir gan Gomisiwn Brenhinol Henebion Cymru.

Gallwch hefyd gysylltu â thîm arolygwyr henebion a wardeiniaid henebion maes Cadw er mwyn cael atebion i'ch cwestiynau a chyngor ar reoli eich heneb gofrestredig.   cadw@llyw.cymru

Rydym wedi cyhoeddi cyfres o lyfrynnau canllaw sy'n cynnwys gwybodaeth am y gwahanol fathau o henebion a'r cyfnodau y maent yn perthyn iddynt. Mae'r rhain yn cynnwys Gofalu am Henebion Angladdol a Defodol Cynhanesyddol, Gofalu am Fryngaerau a Ffermdai a Gofalu am Ffermydd Coll.

Weithiau, bydd heneb wedi'i rhestru yn ogystal â'i chofrestru. Pan fydd hyn yn digwydd, mae deddfwriaeth ynglŷn â henebion cofrestredig yn cael blaenoriaeth. Am ragor o wybodaeth am adeiladau rhestredig, gweler  Deall Rhestru yng Nghymru a Rheoli Newid i Adeiladau Rhestredig yng Nghymru

5. Sut i wneud cais am gofrestru

Mae tua 4,200 o henebion cofrestredig yng Nghymru. Gallwn ychwanegu mwy o henebion i'r gofrestr a gallwn hefyd ychwanegu at ardal gofrestredig neu ei lleihau er mwyn adlewyrchu cwmpas yr heneb yn fwy cywir.

Cawn geisiadau gan:

  • berchenogion ac aelodau o'r cyhoedd
  • sefydliadau megis Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru a Heneb: Ymddiriedolaeth Archaeoleg Cymru
  • awdurdodau lleol
  • ac o ganlyniad i brosiectau ymchwil a gomisiynwyd.
     

Gallwch wneud ceisiadau i ni gofrestru henebion unigol neu safleoedd archaeolegol, neu i ymestyn neu leihau ardal gofrestredig.

Cyn cyflwyno eich cais, mae'n syniad da edrych i weld a yw'r heneb eisoes wedi'i chofrestru a maint yr ardal gofrestredig. Gallwch wneud hyn ar Cof Cymru – Asedau Hanesyddol Cenedlaethol Cymru.

Mae hefyd yn werth siarad â ni cyn cyflwyno cais ffurfiol.

Mae'n bwysig eich bod yn cyflwyno tystiolaeth i ddangos pwysigrwydd cenedlaethol yr heneb. 

Mae hefyd yn bwysig dweud wrthym os oes rhesymau pam y dylem flaenoriaethu eich cais; er enghraifft, a oes unrhyw risgiau hysbys i'r safle?

Dylech anfon eich ceisiadau atom yn cadw@llyw.cymru a chynnwys y canlynol:

• enw, cyfeiriad/lleoliad yr heneb neu'r safle archaeolegol, gyda chod post neu gyfeirnod map

• manylion cyswllt y perchennog/deiliad, os yw'n hysbys

• ffotograffau diweddar yn dangos golwg a nodweddion arbennig presennol yr heneb

• gwybodaeth am hanes yr heneb — megis y dyddiad adeiladu, defnydd gwreiddiol a datblygiad hanesyddol. Os yw'n bosibl, dylech gynnwys tystiolaeth ysgrifenedig neu ffotograffig i ategu eich cais a rhoi gwybod i ni pa ffynonellau rydych wedi'u defnyddio i ddysgu mwy am yr heneb.

• rhesymau pam rydych yn credu y gallai'r heneb fodloni'r meini prawf ar gyfer cofrestru.

Byddwn yn asesu'r wybodaeth i weld p'un a yw'r heneb yn bodloni'r meini prawf cenedlaethol ar gyfer cofrestru (gweler adran 3). Gallai hyn gynnwys cyfeirio at amrywiaeth eang o ffynonellau ac ymweliad â'r safle. Yn dibynnu ar y math o gais, gall y cam hwn gymryd nifer o wythnosau, ac weithiau misoedd, i'w gwblhau.

Os byddwn yn argymell bod yr heneb yn cael ei chofrestru, neu fod yr ardal gofrestredig yn cael ei haddasu, byddwn yn ymgynghori â'r canlynol:

• perchennog a meddiannydd yr heneb

• yr awdurdod cynllunio lleol perthnasol

• unrhyw berson arall y credwn fod ganddo wybodaeth arbennig am yr heneb, neu henebion o ddiddordeb hanesyddol neu archaeolegol arbennig, neu ddiddordeb ynddynt.

Byddwn yn rhoi 28 diwrnod i ddychwelyd ymatebion ysgrifenedig. Byddwn yn dweud wrth y perchennog, y meddiannydd a'r awdurdod cynllunio lleol p'un a ydym wedi penderfynu cofrestru'r heneb neu addasu'r ardal gofrestredig ai peidio.

Gwarchodaeth interim

O ddechrau'r cyfnod ymgynghori, rhoddir gwarchodaeth interim i'r heneb fel petai wedi'i chofrestru eisoes. Bydd yn drosedd ei difrodi neu wneud gwaith sy'n newid ei chymeriad heb ganiatâd heneb gofrestredig.

Bydd gwarchodaeth interim yn parhau nes i benderfyniad gael ei wneud a nes i ni ddweud wrth y perchennog, y meddiannydd a'r awdurdod cynllunio lleol perthnasol. Rydym yn cyhoeddi rhestr o henebion o dan warchodaeth interim ar ein gwefan.

Os nad yw'r heneb wedi'i chofrestru, efallai y bydd iawndal am golled neu ddifrod a achoswyd gan y warchodaeth interim yn daladwy. Mae'n rhaid cyflwyno hawliadau ysgrifenedig am iawndal o fewn chwe mis i'r dyddiad y daeth y warchodaeth interim i ben.

6. Sut i wneud cais am adolygiad

Os byddwch o'r farn y dylid ailystyried cofrestriad, dylech anfon y dystiolaeth atom, ynghyd â ffotograffau o'r heneb a chynllun o'r lleoliad. Mae'n rhaid i'r dystiolaeth ymwneud â phwysigrwydd cenedlaethol yr heneb.

Byddwn yn ymchwilio i'ch tystiolaeth ac efallai y bydd angen i ni ymweld â'r heneb cyn i ni wneud penderfyniad cychwynnol. Os byddwn yn argymell dadgofrestru, byddwn yn ymgynghori â'r canlynol:

• perchennog a meddiannydd yr heneb

• yr awdurdod cynllunio lleol perthnasol

• unrhyw berson arall y credwn fod ganddo wybodaeth arbennig am yr heneb, neu henebion o ddiddordeb hanesyddol neu archaeolegol arbennig, neu ddiddordeb ynddynt.

Byddwn yn rhoi 28 diwrnod i ddychwelyd ymatebion ysgrifenedig. Byddwn yn dweud wrth y perchennog, y meddiannydd a'r awdurdod cynllunio lleol p'un a ydym wedi penderfynu dadgofrestru ai peidio.

7. Cyfrifoldebau perchenogion

Fel perchennog unrhyw ased, perchenogion henebion cofrestredig sy'n gyfrifol am ofalu am eu heiddo. Mae cadw heneb gofrestredig mewn cyflwr da yn helpu i sicrhau y bydd yn goroesi yn yr hirdymor ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.

Bydd angen i chi gael caniatâd heneb gofrestredig gennym ni ar gyfer y rhan fwyaf o'r gwaith sy'n newid y safle'n ffisegol, gan gynnwys atgyweiriadau (gweler adran 8) Cyn cynllunio unrhyw waith, mae'n syniad da i ddeall beth sy'n gwneud eich heneb gofrestredig yn arbennig er mwyn i unrhyw waith allu ystyried hynny.

Mae Rheoli Henebion Cofrestredig yng Nghymru yn esbonio sut i ddeall arwyddocâd heneb gofrestredig a'r ffordd orau o ofalu amdani.

Rhestrir rhai ffynonellau defnyddiol o wybodaeth bellach ar ddiwedd y canllaw hwn. Gallwch hefyd gysylltu â'n tîm arolygwyr henebion a wardeiniaid henebion maes a fydd yn ateb eich cwestiynau ac yn rhoi cyngor ar y ffordd orau o reoli eich heneb gofrestredig. cadw@llyw.cymru

Rydym hefyd yn ymweld â henebion cofrestredig a'u perchnogion o bryd i'w gilydd i weld cyflwr y safle a chynnig cyngor ar reoli'r heneb. Byddwn yn cysylltu â chi cyn ymweld.