Skip to main content

Henebion Cofrestredig

Gofalu am eich heneb gofrestredig

Yn y canllaw hwn

1. Rheoli’ch heneb gofrestredig

Mae’r rhan fwyaf o bobl yn awyddus i ofalu am yr henebion cofrestredig sydd o dan eu gofal er mwyn iddynt gael eu trosglwyddo i genedlaethau’r dyfodol. Yn aml, gall rheoli fod yn fater syml o osgoi gweithgarwch a allai achosi difrod ond, weithiau, mae’n bosibl y bydd angen cymryd camau penodol i’w rheoli er mwyn arafu neu osgoi effeithiau dirywiad naturiol.

Bydd angen ichi ofalu nad ydych yn gwneud unrhyw waith a allai ei difrodi nac unrhyw newidiadau a allai effeithio arni hi neu ar ei lleoliad heb gael caniatâd priodol yn gyntaf. Gallai’r newidiadau hynny gynnwys newidiadau i wella’ch heneb gofrestredig, newidiadau anfwriadol a’r rheini allai gael effaith andwyol arni. Os oes angen gwneud newidiadau, ystyriwch y cyngor perthnasol a gofynnwch am y cydsyniad sydd ei angen arnoch cyn dechrau ar y newidiadau.

Mae henebion cofrestredig fel arfer yn adfeilion, yn olion archaeolegol o dan ddaear neu’n wrthgloddiau. O’r herwydd, maen nhw’n sensitif iawn i rymoedd erydu naturiol, dadfeiliant a difrod anfwriadol. Mae llawer o’r henebion cofrestredig ar dir fferm neu mewn cefn gwlad agored, ac mae’r cyhoedd yn ymweld â llawer ohonyn nhw. Gall pob un dioddef oherwydd traul, ond o’u rheoli’n ofalus, mae’n bosibl ichi reoli’ch heneb gofrestredig mewn ffordd gynaliadwy fydd yn caniatáu ichi ei throsglwyddo mewn cyflwr da i genedlaethau’r dyfodol.

Bydd y ffordd y dylech fynd ati i reoli’ch heneb gofrestredig yn dibynnu ar nifer o ffactorau, gan gynnwys:

  • pa fath o heneb yw hi
  • pa ddefnydd sy’n cael ei gwneud ohoni nawr
  • ei chyflwr
  • p’un a yw’n dangos arwyddion o ddirywiad.

Os yw’n heneb fawr neu gymhleth, efallai y byddai’n syniad da ichi lunio cynllun rheoli cadwraethol i’ch helpu â’ch penderfyniadau. Mae cynlluniau o’r fath yn arbennig o ddefnyddiol os oes gennych heneb gofrestredig sy’n adfail neu heneb sy’n cael ei rhedeg fel atyniad i ymwelwyr.

Pa fath bynnag o gynllun rheoli sydd gennych, mae’n bwysig ystyried effaith y gwaith sydd gennych dan sylw ar arwyddocâd eich heneb gofrestredig cyn dechrau’r gwaith hwnnw. Dylech fod yn ymwybodol yn arbennig o effaith gronnus bosibl nifer o newidiadau mân a fyddai, o’u hystyried bob yn un, yn ddi-nod iawn. Mae asesiad o’r effaith ar y dreftadaeth yn broses ddefnyddiol i weld effaith bosibl unrhyw waith dan sylw.

Yn ogystal â dirywiad naturiol, mae gwaith amhriodol yn gallu difrodi henebion cofrestredig. Am hynny, rhaid gofyn i Cadw am gydsyniad heneb gofrestredig i gynnal rhai mathau o waith. Mae’n drosedd cynnal gwaith gwaharddedig heb gydsyniad heneb gofrestredig felly mae’n bwysig iawn deall beth sydd ei angen.

2. Deall eich heneb gofrestredig

Safleoedd archaeolegol a henebion hanesyddol yw un o’n ffynonellau gwybodaeth pwysicaf am genedlaethau’r gorffennol. Cafodd safleoedd cyn-hanesyddol eu hadeiladu cyn dyddiau’r cofnod ysgrifenedig, a nhw yw ein hunig ffynhonnell wybodaeth. Mae pob adeilad, strwythur neu safle yn unigryw; mae gan bob un ei stori. Bydd tystiolaeth yn y deunyddiau a ddefnyddiwyd i godi’r heneb yn dweud pryd a sut y cafodd ei hadeiladu, sut cafodd ei defnyddio a beth ddigwyddodd iddi. Wrth astudio’r dystiolaeth, gallwn ddysgu am y bobl â’i hadeiladodd a’i defnyddio, a hefyd sut i’w chadw mewn cyflwr da. Mae’r tir o gwmpas a lleoliad heneb yn bwysig hefyd gan eu bod nhw’n gallu’n helpu i ddeall mwy am y safle ei hun (gweler adran 1.2).

Mae henebion cofrestredig yn wahanol i adeiladau rhestredig yn yr ystyr eu bod fel arfer yn adfeilion neu wedi’u claddu ac nad oes ganddynt fawr o werth economaidd uniongyrchol i’r perchennog. Maen nhw’n bwysig oherwydd eu hanes a’r dystiolaeth archaeolegol allai fod wedi’i chladdu ynddyn nhw neu oddi tanynt. Er enghraifft, gallai rhannau sydd wedi’u cwympo ddweud wrthym sut olwg oedd ar yr adeilad gwreiddiol a sut y byddai defnydd ac amser wedi’i newid.

Wrth i dechnegau archaeolegol a gwyddonol wella, rydyn ni’n gallu adfer gwybodaeth fanylach i ddatgelu gwirioneddau bydoedd coll. Gall gronynnau mân, fel paill ac olion planhigion, ddangos inni sut roedd yr hinsawdd a’r amgylchedd yn y gorffennol. Gall dadansoddi gwaddodion mewn potiau ddweud wrthym beth oedd pobl yn ei fwyta, a thrwy archwilio sgerbydau, gellir dweud pa mor iach oedd y bobl a sut y bu iddyn nhw fyw a marw.

Mae’n bwysig ein bod yn diogelu’r dystiolaeth archaeolegol werthfawr hon. Mae hyn yn golygu bod gwaith cynnal a chadw a rheoli pob dydd yn hanfodol i ofalu am eich heneb gofrestredig. Trwy ddeall eich heneb gofrestredig, gallwch gynllunio rhaglen reoli briodol fydd yn ei chadw mewn cyflwr da at y dyfodol. Gall Cadw gynnig help a chyngor ynghylch sut orau i ofalu am eich heneb gofrestredig

3. Arwyddocâd

Byddwch yn gallu gofalu am eich heneb gofrestredig yn well o ddeall pam mae hi o bwys genedlaethol a beth sy’n arwyddocaol amdani. Trwy gofrestru heneb, rydych yn diogelu’r safle cyfan, gan gynnwys unrhyw newidiadau sy’n cael eu gwneud iddi wedyn. Mae hyn yn golygu ei bod yn bwysig deall yn iawn beth sy’n arbennig am eich heneb gofrestredig cyn ichi wneud unrhyw beth iddi allai ei difrodi.

Byddai’n syniad da felly ichi lunio datganiad arwyddocâd i grynhoi’r hyn rydych yn ei ddeall am eich heneb gofretredig ac i esbonio’i harwyddocâd i eraill. Y datganiad hwn fydd y man cychwyn ar gyfer rheoli, dehongli ac unrhyw gynnig i’w newid neu geisiadau am gydsyniad. Dylai’r datganiad gynnwys disgrifiad bras o’ch heneb gofrestredig a chrynodeb o’i gwerth hanesyddol. Bydd canolbwyntio ar ei gwerth fel ased hanesyddol yn eich helpu i ddadansoddi’i harwyddocâd:

  • Gwerth fel tystiolaeth: y graddau y mae’r dystiolaeth ffisegol yn dweud wrthym sut a phryd y cafodd eich heneb gofrestredig ei chreu, sut y cafodd ei defnyddio a sut y mae wedi newid dros amser. Gallai fod elfennau i’r heneb gofrestredig sydd ynghudd neu wedi’u claddu, a gallai’r rheini hefyd fod yn dystiolaeth bwysig.
  • Gwerth hanesyddol: gallai’ch heneb gofrestredig ddarlunio agwedd benodol ar fywyd y gorffennol neu gallai fod yn gysylltiedig â pherson, digwyddiad neu fudiad penodol; gallai fod tystiolaeth ffisegol o’r cysylltiadau hyn sy’n bwysig i’w cadw.
  • Gwerth esthetig: dyluniad, adeiladwaith a chrefftwaith eich heneb gofrestredig. Gall olygu ei lleoliad a’r golygfeydd sydd i’w gweld ohoni a thuag ati, a allai fod wedi newid dros amser.
  • Gwerth i’r gymuned: gallai fod arwyddocâd i’ch heneb gofrestredig oherwydd ei gwerth cofiannol, symbolaidd neu ysbrydol, neu oherwydd ei rhan mewn bywyd diwylliannol neu gyhoeddus.

Gallwch ddysgu mwy am y gwerthoedd hyn yn Egwyddorion Cadwraeth ar gyfer Rheoli Amgylchedd Hanesyddol Cymru mewn Ffordd Gynaliadwy.

4. Henebion sy’n wrthgloddiau

Mae llawer o henebion cofrestredig yng Nghymru yn wrthgloddiau. Maen nhw’n amrywio o glosydd, bryngaerau a thomenni claddu cyn-hanesyddol, gwersylloedd cyrch y Rhufeiniaid, Clawdd Offa, amddiffynfeydd y Rhyfel Cartref a nodweddion llawer mwy diweddar fel incleiniau tramffyrdd diwydiannol a safleoedd milwrol y Rhyfel Oer. Mae rhai’n weladwy, fel twmpathau a chodiadau pridd ac eraill yng nghudd, fel olion archaeolegol dan ddaear ond maen nhw i gyd yn sensitif iawn i erydiad a difrod gan bobl, anifeiliaid neu brosesau naturiol.

Rheol y fawd wrth gynnal a chadw gwrthgloddiau yw lleia’n y byd o waith wnewch chi, gorau’n y byd. Dylech annog tyfiant da o borfa a rhwystro prysgwydd, rhedyn a choed. Dylech dorri tyfiant goresgynnol at y bon a’i adael i bydru yn y fan a’r lle, er efallai y bydd angen defnyddio chwynladdwr i gael gwared arno’n barhaol. Os felly, efallai y byddai’n briodol ei ailblannu â phorfa neu lystyfiant arall sy’n gorchuddio’r tir. Lle bo’r coed wedi tyfu’n fawr ar heneb, bydd y gwreiddiau eisoes wedi gwneud llawer o ddifrod. Os felly, daw’r perygl mwyaf o’r difrod y gall gwreiddiau coeden sy’n cwympo ei wneud i’r olion archaeolegol. Byddai’n well torri coed peryglus neu sy’n marw cyn i hyn ddigwydd.

Os yw’ch heneb gofrestredig yn cynnwys tir o dan goed ac os ydych am wneud gwaith ar y coed, mae’n bwysig torri’r coed yn ofalus rhag difrodi’r heneb. Er enghraifft, dylech gynllunio llwybrau cludo a mannau storio fel na fydd angen i gerbydau deithio dros wrthgloddiau. Weithiau, bydd yn rhaid wrth fesurau amddiffyn eraill fel matiau tocion i rwystro olwynion cerbydau rhag suddo i’r pridd.

Efallai y bydd angen trwydded cwympo neu reoli coetir arnoch ar gyfer gwneud rhai mathau o waith mewn coetir. Cyfoeth Naturiol Cymru sy’n gyfrifol am y trwyddedau hyn ac fe all ymgynghori â Cadw ar geisiadau am drwyddedau sy’n effeithio ar henebion cofrestredig. Os oes coed sydd wedi’u hamddiffyn gan Orchymyn Cadw Coed neu os oes statws ardal gadwraeth neu amodau cynllunio, ynghlwm wrth eich heneb gofrestredig, efallai y bydd angen cydsyniad eich awdurdod lleol arnoch cyn dechrau ar y gwaith.

Gall erydu a achosir gan bobl, anifeiliaid a phrosesau naturiol effeithio’n drwm ar henebion sy’n wrthgloddiau. Gall cerbydau, da byw, prysgwydd ac anifeiliaid sy’n tyllu i gyd greu difrod cyflym a difrifol gan ddifetha gwybodaeth archaeolegol unigryw ac anadferadwy. Fodd bynnag, mae yna fesurau cymharol rhwydd y gallwch gadw atyn nhw fel cadw lefelau stocio priodol, yn enwedig mewn amodau glwyb neu sych iawn, gosod cafnau bwyd a dŵr yn bell o’r mannau archaeolegol sensitif a defnyddio dulliau isel eu heffaith i adfer y borfa, i osgoi aflonyddu ar olion dan y pridd.

Mae Gofalu am Henebion Cofrestredig ar y Fferm yn rhoi mwy o wybodaeth am sut i ofalu am henebion cofrestredig ac osgoi eu difrodi. Gallwch hefyd gysylltu â ni i ofyn am gyngor ar sut orau i reoli henebion sy’n wrthgloddiau ac olion archaeolegol dan ddaear.

Ni fydd angen cydsyniad heneb gofrestredig arnoch fel arfer i wneud gwaith cynnal a chadw arferol cyn belled nad yw’n golygu aflonyddu’r pridd neu adeiladwaith yr heneb.

Mae tabl  yn crynhoi’r gweithgareddau, y risgiau a’r dulliau o gynnal a chadw’ch heneb gofrestredig ac yn esbonio a oes angen cydsyniad heneb gofrestredig arnoch er mwyn bwrw ymlaen i wneud hynny.


 

5. Adeliadau

Nid ar chwarae bach y mae cadw henebion di-do fel cestyll canoloesol neu adeiladau diwydiannol segur mewn cyflwr sefydlog a bydd angen cyfnodau o waith cadwraeth i atgyfnerthu’r gwaith maen (gweler adran 2.2). Bydd gan lawer o adeiladau rhestredig wrthgloddiau ac olion archaeolegol dan ddaear ynddyn nhw ac o’u cwmpas. Bydd angen ichi gadw hynny mewn cof wrth gynllunio gwaith cynnal a chadw.

Gallai iorwg a llystyfiant goresgynnol ar wal adfeiliedig fod yn hardd, ond gall wneud llawer o ddifrod. Gall y gwreiddiau fwrw i ddyfnder mawr i graidd y wal a gall gwynt sy’n chwythu brig y goeden weithio’r waliau hanesyddol yn rhydd. Os bydd dŵr yn ymdreiddio i’r wal, gall effaith rhewi a dadlaith ddifrodi’r morteri a’r gwaith rendro hanesyddol. Heb gymryd camau, gall y waliau ddechrau dadfeilio.

Ni ddylech rwygo’r iorwg nac unrhyw blanhigion eraill sy’n tyfu yn y wal o’u lle gan y gallai hynny sigo a difrodi’r heneb a’i gwneud yn beryglus. Yn hytrach, dylech eu torri’n ôl i’r bôn heb aflonyddu ar y gwaith maen. Er na fydd angen cydsyniad ffurfiol arnoch fel arfer i wneud hyn, byddai’n syniad da siarad â ni gyntaf ynghylch sut orau i godi tyfiant goresgynnol heb achosi rhagor o ddifrod.

Gallai trefniadau cynnal a chadw sy’n rhwystro coed a llwyni arafu’r dirywiad yn fawr a helpu i gadw’r heneb yn sefydlog.

Ni fydd angen cydsyniad heneb gofrestredig arnoch fel arfer i wneud gwaith cynnal a chadw arferol cyn belled nad yw’n golygu aflonyddu’r pridd neu adeiladwaith yr heneb.

Ma tabl yn crynhoi’r gweithgareddau, y risgiau a’r dulliau o gynnal a chadw’ch heneb gofrestredig ac yn esbonio a oes angen cydsyniad heneb gofrestredig arnoch er mwyn bwrw ymlaen i wneud hynny.

6. Cynllun rheoli cadwraethol

A conservation management plan is a document which explains why a historic monument or place is significant and how you will sustain that significance in any new use, alteration, repair or management.

Mae cynllun rheoli cadwraethol yn brawf eich bod yn deall eich heneb gofrestredig a’i harwyddocâd. Mae’n gynllun ar gyfer rheoli’r safle cyfan dros y tymor hir i’ch helpu i osgoi newidiadau amhriodol ac anfwriadol. Dylai’ch cynllun gynnwys datganiad arwyddocâd, dylai nodi’r risgiau posibl a phresennol a dylai chwilio am gyfleoedd i wella’r heneb. Arbenigwyr cymwys,14 yw’r bobl orau i baratoi cynlluniau rheoli cadwraethol, yn enwedig ar gyfer henebion cymhleth.

Ar gyfer henebion llai, gallai cynllun symlach, sy’n seiliedig ar egwyddorion y cynllun rheoli cadwraethol, fod yn ddefnyddiol iawn. 7

Ym mhob achos, dylai cynlluniau rheoli cadwraethol fod yn gymesur â maint a chymhlethdod y safle. Mae hynny’n golygu nad oes angen iddyn nhw o reidrwydd fod yn hir nac yn ddrud i’w paratoi, a gellir defnyddio’r wybodaeth ynddyn nhw yn sail ar gyfer asesu effaith y gwaith arfaethedig.

Yn aml, os ydych yn gofyn i Cadw neu Gronfa Dreftadaeth y Loteri am grant, gofynnir ichi baratoi cynllun rheoli cadwraethol.

7. Atgyweirio

Ambell waith, pan nad yw gwaith cynnal a chadw wedi atal difrod, yr unig ffordd i osgoi colli rhannau o’ch heneb gofrestredig yw trwy ei hatgyweirio. Yn wahanol i adeiladau rhestredig, lle cewch eu hatgyweirio ‘tebyg am debyg’ heb gydsyniad, bydd angen cydsyniad arnoch fel arfer i atgyweirio’ch heneb gofrestredig.

Ni ddylech wneud mwy o waith atgyweirio nag sydd ei angen i sefydlogi a diogelu’r heneb ar gyfer y tymor hir ac i allu parhau i’w ddefnyddio. Er enghraifft, atgyweirio creithiau erydu ar wrthgloddiau ac ailbwyntio gwaith maen sy’n dadfeilio.

Gall deall y deunydd y gwnaed yr heneb ohono, y dystiolaeth hanesyddol y mae’n ei rhoi, a’i sensitifrwydd archaeolegol eich helpu i benderfynu beth i’w wneud. Cyn dechrau unrhyw waith atgyweirio, mae’n bwysig eich bod yn deall beth sy’n achosi’r difrod er mwyn delio â’r broblem ac nid y symptom.

Cadwch gymaint o’r adeiladwaith gwreiddiol â phosib. Os oes yn rhaid defnyddio deunydd newydd, dylech ei ddewis yn ofalus fel ei fod yn gydnaws â’r adeiladwaith gwreiddiol a’i fod yn gallu gwrthsefyll amodau’r amgylchedd heb fod angen ei atgyweirio’n rheolaidd.

Mae’n bwysig gwneud yn siŵr bod y gwahaniaeth rhwng eich gwaith atgyweirio a’r heneb wreiddiol yn amlwg. Er enghraifft, gallwch osod haenen decstil ar ben gwrthglawdd cyn ychwanegu pridd neu gerrig newydd neu gallwch nodi’r ffin rhwng y gwaith maen gwreiddiol a’r gwaith atgyweirio modern trwy ddefnyddio morter gwahanol neu drwy fewnosod teils. Defnyddir llawer o dechnegau gwahanol a gall wardeiniaid henebion maes Cadw ac archwilwyr henebion roi cyngor ichi arnynt.

Wrth atgyweirio henebion cofrestredig, fel arfer bydd angen ichi gynnal rhywfaint o waith ymchwilio archaeolegol. Bydd hynny’n llywio’r gwaith ac yn cofnodi unrhyw dystiolaeth y ceir hyd iddi yn ystod yr ymchwiliad. Pobl broffesiynol â’r cymwysterau priodol ddylai gynnal ymchwiliadau archaeolegol.

Mae llyfryn Cadw Egwyddorion Cadwraeth yn cynnig cyngor defnyddiol i’r rheini sy’n atgyweirio asedau hanesyddol.

Bydd angen ichi ofyn am gydsyniad heneb gofrestredig i atgyweirio’ch heneb gofrestredig fel arfer.

8. Adfer ac ailadeiladu

Fel arfer ni ellir cyfiawnhau adfer nac ailadeiladu elfen o heneb gofrestredig sydd ar goll, wedi’i dinistrio neu yr adeiladwyd ar ei phen, oni bai bod hynny’n helpu i’w diogelu a/ neu’n helpu’r cyhoedd i’w deall, a bod yna dystiolaeth gref o blaid gwneud hynny.

Ar gyfer henebion cofrestredig, mae adfer fel arfer yn golygu ailgreu rhannau, golwg neu swyddogaeth sydd wedi’u colli. Mae cynigion i adfer yn ymwneud amlaf â henebion o waith maen sydd ar agor i’r cyhoedd, er mwyn helpu’r cyhoedd i’w deall a’u gwerthfawrogi, ac i’w helpu i oroesi at y tymor hir; er enghraifft, trwy ailosod to newydd ar adeilad sydd wedi adfeilio. Bydd gwaith adfer yn newid golwg heneb gofrestredig a bydd yn effeithio ar ei gwerth archaeolegol. Rhaid wrth feddwl, ymchwil a chyfiawnhad trylwyr. Hyd yn oed wrth adfer rhannau o heneb sydd wedi cwympo gan ddefnyddio’r deunydd gwreiddiol, mae’r adferiad yn adeilad newydd. Nid yw hynny’n golygu na ddylid mynd ati i adfer, dim ond bod yn rhaid i’r gwaith hwnnw fod yn seiliedig ar dystiolaeth gadarn.

Peidiwch â damcaniaethu sut olwg oedd ar heneb gofrestredig wrth ei hailadeiladu; nid yw’n briodol ychwaith adfer nodweddion yr adeiladwyd yn fwriadol ar eu pen yn ddiweddarach neu a gollwyd oherwydd digwyddiad hanesyddol mawr, fel ymgais fwriadol i ddymchwel rhan o gastell trwy warchae.

Bydd wastad angen gofyn am gydsyniad heneb gofrestredig i wneud gwaith adfer ac ailadeiladu.

9. Mynediad i’r cyhoedd a dehongli

Er nad yw’r ffaith bod heneb wedi’i chofrestru yn golygu bod gan y cyhoedd yr hawl i fynd ati, mae llawer o berchenogion yn mwynhau agor eu henebion i ymwelwyr. Gall Cadw eich helpu i wneud hyn trwy roi cyngor a help. Hefyd, efallai y carech ymuno â digwyddiadau arbennig fel y rhaglen Drysau Agored flynyddol neu’r Ŵyl Archaeoleg a drefnir gan Gyngor Archaeoleg Prydain.

Gall gofalu am heneb gofrestredig y caiff ymwelwyr fynd ati ddod â boddhad mawr ac mae’n gyfle i rannu’r amgylchedd hanesyddol ag ymwelwyr o bob cwr. Mae sawl ffordd o roi gwybodaeth i ymwelwyr i’w helpu i ddeall eich heneb, o baneli a thaflenni ar y safle i dechnegau digidol fel apiau ar ffôn.

Nid yw rheoli ymwelwyr yn gorfod golygu ffensys a llwybrau ffurfiol. Mae llawer o ffyrdd creadigol o dywys ymwelwyr yn ddiogel o gwmpas y safle gan warchod a gwella’ch heneb gofrestredig ar yr un pryd. Gall caniatáu i borfa dyfu’n hir ar fannau sensitif gadw pobl draw a byddai llwybrau porfa fer yn tywys ymwelwyr i’r mannau gwylio gorau. Yn yr un modd, gall gosod paneli gwybodaeth fel nad ydyn nhw’n difetha’r olygfa ac i gyfeirio ymwelwyr o’r mannau archaeolegol sensitif yn ffyrdd hawdd o ddiogelu’r heneb.

Ar safleoedd mwy, gallech ddarparu cyfleusterau tipyn yn fwy, fel canolfan ymwelwyr. Lle medrwch, mae’n well eu codi y tu allan i’r heneb gofrestredig er mwyn lleihau eu heffaith ar yr heneb, ei harchaeoleg dan ddaear a’i lleoliad. Bydd angen meddwl yn ofalus am ddyluniad yr adeilad er mwyn iddo gydweddu â’r heneb a’i leoliad yn ogystal â bod yn hygyrch i’r holl ymwelwyr. Os ydych yn ystyried datblygiad o’r fath, cysylltwch â Cadw a’ch awdurdod cynllunio lleol yn fuan yn y broses.

Os hoffech ddysgu mwy am sut i wneud eich heneb gofrestredig yn fwy hygyrch i’r cyhoedd neu os hoffech gymryd rhan mewn Drysau Agored, cysylltwch â Cadw yn cadw@llyw.cymru

Bydd angen ichi ofyn am gydsyniad heneb gofrestredig i osod paneli gwybodaeth, arwyddion a chyfleusterau eraill ar gyfer ymwelwyr fel llwybrau, ffensys ac adeiladau.

10. Trawsgydymffurfio a mesurau i gadw tir mewn Cyflwr Amaethyddol ac Amgylcheddol Da (GAEC)

Mae gofalu am yr amgylchedd hanesyddol yn rhan bwysig o’r cymorth a roddir gan Lywodraeth Cymru i’r diwydiant amaeth. Os ydych yn ffermwr sydd am ymuno â Chynllun y Taliad Sylfaenol (BPS), rhaid cadw at y safonau trawsgydymffurfio a GAEC.  Mae hynny’n cynnwys gofalu am nodweddion hanesyddol, gan gynnwys henebion cofrestredig ar eich tir, a’u diogelu rhag difrod.

Gall gwneud gwaith amaethyddol sy’n difrodi heneb gofrestredig effeithio ar eich taliadau felly mae’n bwysig ystyried y safleoedd archaeolegol y gwyddoch amdanyn nhw pan fyddwch yn datblygu’ch cynllun busnes fferm ac ystyried sut gallai’ch gweithgareddau effeithio arnyn nhw. Er enghraifft, gall gweithgareddau rheoli pridd, aredig yr isbridd, rheoli gwastraff fferm, gwaith datblygu ffermydd a chreu cynefinoedd i gyd gael effaith.

Gall wardeiniaid henebion maes Cadw gynnig help a chyngor ichi.