Skip to main content

Rheoli newid i adeiladau rhestredig

Mae adeiladau rhestredig yn adnodd cyfyngedig, i’w trysori a’u diogelu ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol. Gall newid fod yn ddymunol neu’n angenrheidiol, ond mae angen ei reoli’n dda.

Mae eich adeilad rhestredig yn ased gwerthfawr unigryw, ond mae’n debyg ei fod eisoes wedi newid dros amser ac efallai y bydd angen i chi wneud newidiadau pellach. Mae a wnelo cadwraeth â rheoli newid yn ofalus. Golyga hyn ddod o hyd i’r ffordd orau o warchod a gwella nodweddion arbennig eich adeilad rhestredig fel y gall y genhedlaeth hon a chenedlaethau’r dyfodol ei werthfawrogi a’i fwynhau. Mae gofalu am adeiladau rhestredig mewn ffordd briodol, a sicrhau bod modd parhau i wneud defnydd cynaliadwy ohonynt, yn helpu i sicrhau y byddant yn parhau i gyfrannu at werth Cymru ac at fywydau ei phobl.

Nodir athroniaeth sylfaenol cadwraeth yn Egwyddorion Cadwraeth ar gyfer Rheoli Amgylchedd Hanesyddol Cymru mewn Ffordd Gynaliadwy (Egwyddorion Cadwraeth), a gyhoeddwyd gan Cadw. Mae’r ddogfen hon yn nodi’n glir y dylai pob penderfyniad ynghylch cadwraeth fod yn seiliedig ar ddealltwriaeth o’r effaith debygol ar y nodweddion arbennig sy’n cyfrannu at arwyddocâd eich adeilad rhestredig. Mae dealltwriaeth drylwyr o arwyddocâd eich adeilad rhestredig o gymorth mawr i sicrhau bod unrhyw newidiadau a gynigir gennych yn parchu’r hyn sy’n arbennig amdano. Gall deall cyflwr a pherfformiad eich adeilad rhestredig eich helpu i gael y budd mwyaf o fanteision newid a lleihau hyd yr eithaf ar y niwed a achosir. 

Bydd angen cael caniatâd arbennig, a elwir yn ganiatâd adeilad rhestredig, ar gyfer sawl math o newid. Caiff y caniatâd hwn ei weinyddu gan eich awdurdod cynllunio lleol. Os nad ydych yn siŵr, mae’n well holi ac ymgynghori â’ch awdurdod cynllunio lleol yn hytrach na gwneud camgymeriadau a all fod yn anodd ac yn ddrud eu cywiro. Gallech fod yn cyflawni trosedd hefyd.

Mae Rheoli Newid i Adeiladau Rhestredig yng Nghymru wedi’i anelu’n bennaf at berchnogion adeiladau rhestredig er mwyn eu helpu i ddeall goblygiadau bod yn berchen ar adeilad rhestredig a’r egwyddorion cyffredinol i’w hystyried wrth wneud newidiadau iddo. Fel rheol gyffredinol, dylid gwneud cyn lleied ag y bo modd o newidiadau a fydd yn arwain at golli ffurf, adeiladwaith neu fanylion hanesyddol, megis ffitiadau mewnol.

Mae hefyd yn esbonio sut i wneud cais am ganiatâd adeilad rhestredig, gan gynnwys rolau a chyfrifoldebau perchnogion, awdurdodau cynllunio lleol a Gwasanaeth Amgylchedd Hanesyddol Llywodraeth Cymru (Cadw).

Mae Rheoli Newid i Adeiladau Rhestredig yng Nghymru yn ategu Polisi Cynllunio Cymru a Nodyn Cyngor Technegol 24: Yr Amgylchedd Hanesyddol.