Caniatâd adeilad rhestredig
Bydd angen cael caniatâd arbennig ar gyfer sawl math o newid. Gelwir hyn yn ganiatâd adeilad rhestredig a chaiff ei weinyddu gan awdurdodau cynllunio lleol.
Diben caniatâd adeilad rhestredig yw rheoli newid er mwyn gwneud yn siŵr fod y nodweddion sy’n cyfrannu at ddiddordeb hanesyddol neu bensaernïol yr adeilad yn cael eu cadw, cyn belled ag y bo modd. Gall y rhain gynnwys ei ffurf a’i gynllun, manylion y gwaith adeiladu, gan gynnwys gorffeniadau a deunyddiau hanesyddol, a gosodiadau, ffitiadau a manylion hanesyddol, oddi mewn ac oddi allan.
Efallai y bydd angen i chi gael caniatâd adeilad rhestredig i wneud gwaith newydd cymharol fân hyd yn oed, megis gosod drws allanol newydd, peintio neu ailbeintio’r tu allan neu’r tu mewn i adeilad rhestredig, neu hyd yn oed ei lanhau. Fel rheol gyffredinol, dylech geisio cadw neu adfer ffurf, adeiladwaith a manylion hanesyddol, gan eu parchu mewn unrhyw waith newydd. Wrth wneud unrhyw newid, dylid sicrhau bod cyn lleied â phosibl o ffurf, adeiladwaith neu fanylion hanesyddol yn cael eu colli. Ni fydd ffenestri UPVC, er enghraifft, yn dderbyniol fel arfer: mae eu nodweddion yn wahanol iawn i nodweddion ffenestri traddodiadol, sy’n golygu eu bod yn debygol o fod yn niweidiol i gymeriad a golwg yr adeilad.
Fel arfer, nid oes angen i chi gael caniatâd adeilad rhestredig i wneud gwaith atgyweirio arferol neu waith atgyweirio trwy ddefnyddio’r deunyddiau a’r technegau a ddefnyddiwyd yn wreiddiol, ond mae’n werth ceisio cyngor yn gyntaf oherwydd gall y meini prawf ar gyfer gwaith atgyweirio o’r fath fod yn llym iawn. Byddwch bob amser angen caniatâd adeilad rhestredig ar gyfer gwaith dymchwel.
Bydd angen i chi gyflwyno datganiad am yr effaith ar dreftadaeth gyda’ch cais am ganiatâd adeilad rhestredig, yn ogystal â chynlluniau manwl, felly byddai’n syniad da cael cyngor priodol wrth baratoi eich cynigion. Yn aml, caiff perchnogion sy’n mynd ati i gael cyngor, casglu tystiolaeth, llunio datganiadau llawn gwybodaeth am yr effaith ar dreftadaeth a chyflwyno cais llawn tystiolaeth, eu synnu gan y newidiadau y gellir eu cymeradwyo. Trwy fabwysiadu agwedd sensitif a llawn dychymyg gellir arwain at gyflawni eich nodau heb roi arwyddocâd eich adeilad mewn perygl.
Os bydd yr awdurdod cynllunio lleol yn penderfynu rhoi caniatâd adeilad rhestredig i chi, fel arfer byddwn yn cael ein hysbysu. Ein rôl yw asesu a yw’r awdurdod cynllunio lleol wedi rhoi ystyriaeth briodol i ddiogelu’r adeilad rhestredig wrth ddod i’w penderfyniad, yn hytrach na chyflwyno sylwadau ynghylch rhinweddau’r cynnig ei hun.
Mae Rheoli Newid i Adeiladau Rhestredig yng Nghymru yn esbonio sut i wneud cais am ganiatâd adeilad rhestredig, gan gynnwys rolau a chyfrifoldebau perchnogion, awdurdodau cynllunio lleol a Cadw. Dylai hefyd helpu perchnogion ac asiantau i ystyried Egwyddorion Cadwraeth ar gyfer Rheoli Amgylchedd Hanesyddol Cymru mewn Ffordd Gynaliadwy (Egwyddorion Cadwraeth), a gyhoeddwyd gan Cadw, er mwyn cyflawni newidiadau sensitif o ansawdd uchel.
Os nad ydych yn siŵr, mae’n well holi ac ymgynghori â’ch awdurdod cynllunio lleol yn hytrach na gwneud camgymeriadau a all fod yn anodd ac yn ddrud eu cywiro. Gallech fod yn cyflawni trosedd hefyd.
Mae Rheoli Newid i Adeiladau Rhestredig yng Nghymru yn ategu Polisi Cynllunio Cymru a Nodyn Cyngor Technegol 24: Yr Amgylchedd Hanesyddol.