Skip to main content

Deall rhestru

Yn y canllaw hwn

1. Cyflwyniad

Mae adeiladau hanesyddol yn rhan werthfawr o’n treftadaeth. Maent yn helpu i greu cymeriad unigryw Cymru ac yn cyfrannu at ein hunaniaeth a’n hymdeimlad o le. Maent yn bwysig i ansawdd ein bywyd ac yn ein helpu i ddeall ein hanes. Maent hefyd yn hyrwyddo delwedd gadarnhaol o Gymru ledled y byd.

Mae’r broses restru yn nodi adeiladau sydd o ddiddordeb pensaernïol neu hanesyddol arbennig i Gymru. Mae adeiladau rhestredig, sy’n amrywio o adeiladau canoloesol i rai a adeiladwyd mor ddiweddar â 30 mlynedd yn ôl, yn cwmpasu llawer o agweddau ar ein bywydau o leoedd i fyw a gweithio ynddynt i leoedd i addoli a chwarae. Mae’r adeiladau hyn, sydd o bwys cenedlaethol, yn creu cysylltiad ag uchelgeisiau a sgiliau cenedlaethau’r gorffennol. Mae’r broses restru yn ein helpu i nodi pob un o nodweddion arbennig yr adeiladau hyn a’u gwarchod er budd cenedlaethau’r dyfodol.

Mae gan berchenogion a meddianwyr presennol adeiladau rhestredig ran bwysig i’w chwarae yn y gwaith o reoli ein treftadaeth. Drwy eu gofal a’u hymrwymiad i ddiogelu’r asedau gwerthfawr hyn, byddwn yn gallu mwynhau’r adeiladau hyn sydd o ddiddordeb pensaernïol neu hanesyddol arbennig nawr ac yn y dyfodol.

Bydd Deall Rhestru yng Nghymru yn helpu unrhyw un sydd am wybod pam a sut y caiff adeiladau eu rhestru neu y mae angen iddo wybod hynny. Mae hefyd yn esbonio sut i ofyn am i adeilad gael ei restru neu ei ddadrestru a sut i wneud cais am adolygiad o benderfyniad rhestru. Mae Deall Rhestru yng Nghymru hefyd yn rhoi cyflwyniad i berchenogion, meddianwyr ac asiantau i’r hyn y mae rhestru yn ei olygu iddynt.

 

2. Beth yw rhestru?

Rhestru yw’r ffordd y caiff adeilad neu strwythur o ddiddordeb pensaernïol neu hanesyddol arbennig ei gydnabod gan y gyfraith drwy Ddeddf Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 1990.

Er mai Gweinidogion Cymru sy’n gyfrifol am lunio’r rhestr, yn ymarferol, ni — Cadw — sy’n argymell pa adeiladau y dylid eu rhestru neu eu dadrestru.

Mae’r term ‘adeilad rhestredig’ yn eang ei gwmpas ac mae nid yn unig yn cynnwys adeiladau megis tai, eglwysi neu ysguboriau ond hefyd waliau, cerrig milltir, pontydd, cabanau ffôn a sawl math arall o strwythur.

Rheolir newidiadau i adeiladau rhestredig drwy ddefnyddio caniatâd adeilad rhestredig, sy’n rhan o’r system gynllunio. Nid yw rhestru yn orchymyn cadw ond bwriedir iddo helpu i reoli newid a gwarchod yr adeilad, ei leoliad a’i nodweddion rhag gwaith anghydnaws a allai niweidio ei ddiddordeb arbennig.

Mae llawer o adeiladau o ddiddordeb pensaernïol neu hanesyddol, ond er mwyn i adeiladau gael eu rhestru, rhaid i’r diddordeb hwn fod yn ‘arbennig’. Esbonnir y meini prawf ar gyfer diffinio diddordeb arbennig yn adran 3.

Er bod tua 30,000 o adeiladau rhestredig yng Nghymru, mae’r rhain yn cyfrif am lai nag 1 y cant o’r holl adeiladau yng Nghymru. Rydym yn parhau i ychwanegu adeiladau ar y rhestr, ac weithiau eu tynnu oddi arni. Mae pob adeilad rhestredig o ddiddordeb pensaernïol neu hanesyddol arbennig ond rydym yn eu dosbarthu’n un o dair gradd.

  • Gradd I (ein)  - adeiladau o ddiddordeb eithriadol. Mae’r rhain yn cyfrif am lai na 2 y cant o gyfanswm yr adeiladau rhestredig yng Nghymru.
  • Gradd II* (dau seren) — adeiladau o bwys penodol sydd o ddiddordeb mwy nag arbennig. Mae’r rhain yn cyfrif am tua 7 y cant o gyfanswm yr adeiladau rhestredig yng Nghymru.
  • Gradd II (dau) — adeiladau o ddiddordeb arbennig sy’n cyfiawnhau pob ymdrech sy’n cael ei gwneud i’w diogelu. Mae’r rhain yn cyfrif am tua 91 y cant o gyfanswm yr adeiladau rhestredig yng Nghymru.

Ni waeth beth fo’u gradd, caiff pob adeilad rhestredig ei drin yn gyfartal yn y system gynllunio.

3. Sut y caiff adeiladau eu dewis i’w rhestru?

Rydym yn asesu pob adeilad yn ôl ei deilyngdod ei hun. Rydym yn ystyried sawl ffactor wrth benderfynu p’un a oes gan adeilad y diddordeb pensaernïol neu hanesyddol arbennig sydd ei angen er mwyn ei restru.

Mae Nodyn Cyngor Technegol 24: Yr Amgylchedd Hanesyddol yn nodi’r meini prawf ar gyfer rhestru. Mae’n rhaid rhestru pob adeilad sy’n bodloni’r meini prawf hyn.

Y prif ystyriaethau yw:

Diddordeb pensaernïol: Mae hyn yn cynnwys adeiladau sydd o ddiddordeb oherwydd eu cynllun pensaernïol, eu haddurniadau a’u crefftwaith. Mae hefyd yn cynnwys enghreifftiau pwysig o fathau penodol o adeiladau a thechnegau adeiladu penodol; er enghraifft, adeiladau sy’n arddangos arloesedd neu rinweddau technolegol a ffurfiau cynllun arwyddocaol.

Diddordeb hanesyddol: Mae hyn yn cynnwys adeiladau sy’n dangos agweddau pwysig ar hanes cymdeithasol, economaidd, diwylliannol neu filwrol Cymru.

Cysylltiadau hanesyddol agos: Mae hyn yn cynnwys adeiladau sydd â chysylltiad hanesyddol agos â phobl neu ddigwyddiadau sydd o bwys i Gymru.

Gwerth fel grwp: Mae hyn yn cynnwys adeiladau sy’n cyfrannu at undod pensaernïol neu hanesyddol pwysig, neu sy’n enghreifftiau gwych o gynllunio, megis sgwariau, terasau neu bentrefi model.

Oedran a phrinder: Caiff pob adeilad a godwyd cyn 1700 ac sydd wedi goroesi ar ei ffurf wreiddiol, fwy neu lai, ei restru. Caiff rhan fwyaf o adeiladau a godwyd rhwng tua 1700 a 1840 eu rhestru, er y bydd hyn yn dibynnu’n rhannol ar faint o’r ffurf a’r adeiladwaith gwreiddiol sydd wedi goroesi. Ar ôl tua 1840, dim ond adeiladau o ansawdd a chymeriad pendant a gaiff eu rhestru. Mae hyn am fod llawer mwy o adeiladau wedi’u hadeiladu ar ôl 1840 a bod llawer mwy ohonynt wedi goroesi, sy’n golygu bod angen bod yn fwy detholus er mwyn nodi’r enghreifftiau gorau.

 Y dull gweithredu a fabwysiadwyd ar gyfer rhestru adeiladau a godwyd yn ystod yr ugeinfed ganrif yw nodi enghreifftiau allweddol o fathau gwahanol o adeiladau — megis ffatrïoedd, ysgolion ac ysbytai. Mae’r enghreifftiau hyn yn diffinio’n fras safon rydym yn barnu cynigion pellach ar gyfer ychwanegiadau at y rhestr yn ei herbyn. Fel arfer dim ond os ydynt o ansawdd eithriadol ac o dan fygythiad y caiff adeiladau sy’n llai na 30 mlwydd oed eu rhestru.

Nid ydym yn ystyried cyflwr adeilad na’r defnydd ohono wrth ei ystyried ar gyfer ei restru.

Gall rhestru lleol fod yn ffordd effeithiol o warchod adeiladau hanesyddol o ddiddordeb lleol arbennig nad ydynt yn bodloni meini prawf cenedlaethol ond sy’n chwarae rôl hollbwysig wrth gynnal cymeriad lleol ac ymdeimlad o le. Gall awdurdodau cynllunio lleol lunio rhestrau o asedau hanesyddol o ddiddordeb lleol arbennig. Gallant hefyd ddynodi ardaloedd cadwraeth oherwydd eu diddordeb pensaernïol neu hanesyddol arbennig, a llunio polisïau i wella a diogelu eu cymeriad a’u golwg.

Am ragor o wybodaeth am restru lleol ac ardaloedd cadwraeth, gweler Rheoli Rhestrau o Asedau Hanesyddol o Ddiddordeb Lleol Arbennig a Rheoli Ardaloedd Cadwraeth yng Nghymru.

 

4. Dysgu am adeiladau rhestredig

Rydym yn rhoi cofnod adeilad rhestredig i bob rhestriad. Cyhoeddir y cofnodion hyn ar wefan Cof Cymru — Asedau Hanesyddol Cenedlaethol Cymru.

Prif ddiben y disgrifiad ar y rhestr yw helpu i adnabod yr adeilad neu’r strwythur. Mae pob cofnod ar y rhestr yn cynnwys y canlynol:

  • y stryd, enw neu rif yr adeilad
  • ei radd
  • rhif cyfeirnod a’r Cyfeirnod Grid Cenedlaethol
  • disgrifiad byr o’r adeilad a’i hanes
  • y rheswm dros ei restru
  • cyfeiriadau at wybodaeth arall am yr adeilad a’i bwysigrwydd.

Er y bydd disgrifiad ar y rhestr yn cyfeirio at y nodweddion a arweiniodd at ei restru, mae’n bosibl na fydd yn gofnod cyflawn o’r holl nodweddion pwysig. Gall faint o wybodaeth sydd mewn disgrifiad amrywio.

Mae’n bwysig cofio nad yw’r ffaith bod unrhyw nodwedd (p’un a yw y tu allan i’r adeilad neu’r tu mewn iddo) wedi’i hepgor o’r disgrifiad ar y rhestr yn golygu nad yw o ddiddordeb. Ac ni ddylid ei symud na’i newid heb ganiatâd adeilad rhestredig. Os nad ydych yn siŵr, dylech geisio cyngor eich awdurdod cynllunio lleol.

Mae’r broses restru yn cwmpasu’r adeilad cyfan, y tu mewn a’r tu allan iddo. Mae hyn yn cynnwys unrhyw wrthrych neu strwythur sydd ynghlwm wrth yr adeilad, ac unrhyw wrthrych neu strwythur o fewn ‘cwrtil’ yr adeilad a adeiladwyd cyn 1 Gorffennaf 1948.

Er enghraifft, mae’n bosibl mai ffermdy yw’r adeilad a enwir yn y cofnod ar y rhestr, ond gall strwythurau eraill megis ysguboriau neu flociau stablau o fewn ei gwrtil fod yn rhan o’r rhestriad o hyd.

Gall eich awdurdod cynllunio lleol ddweud wrthych beth a gwmpesir gan y rhestriad a ph’un a ddylai strwythurau eraill yn y cyfeiriad hefyd gael eu trin fel petaent yn rhestredig ai peidio.

Cewch ragor o wybodaeth am gwrtil yn Rheoli Newid i Adeiladau Rhestredig yng Nghymru.

Weithiau, gall adeilad neu strwythur fod yn gofrestredig yn ogystal â rhestredig. Mewn achosion o’r fath, mae deddfwriaeth ynglŷn â henebion cofrestredig yn cael blaenoriaeth. Am ragor o wybodaeth am henebion cofrestredig, gweler Deall Cofrestru a Rheoli Henebion Cofrestredig yng Nghymru.

5. Sut i wneud cais i restru adeilad

Mae tua 30,000 o adeiladau rhestredig yng Nghymru. Gellir ychwanegu adeiladau at y rhestr o hyd a gallwch gyflwyno ceisiadau i ni restru adeiladau unigol.

Cyn cyflwyno eich cais, mae’n syniad da edrych i weld a yw’r adeilad eisoes wedi’i restru. Gallwch wneud hyn ar Cof Cymru – Asedau Hanesyddol Cenedlaethol Cymru.

Mae hefyd yn werth siarad â swyddog cadwraeth eich awdurdod cynllunio lleol cyn cysylltu â Cadw.

Mae’n bwysig eich bod yn dweud wrthym am dystiolaeth y mae’n bosibl nad oedd ar gael yn flaenorol, neu esbonio pam mae’n bosibl bod diddordeb arbennig yr adeilad wedi’i ddiystyru.

Gall anawsterau godi pan wneir cynigion i restru adeiladau sy’n wynebu’r bygythiad uniongyrchol o gael eu haddasu neu eu dymchwel. Gall hyn achosi oedi, weithiau gyda chanlyniadau ymarferol ac ariannol difrifol i’r datblygwr. Golyga hyn ei bod yn well asesu adeiladau cyn i unrhyw ganiatâd cynllunio gael ei roi ar gyfer gwaith ailddatblygu.

Dylech anfon eich cais i restru atom yn cadw@llyw.cymru gan esbonio pam y dylid ychwanegu’r adeilad at y rhestr, a chynnwys y canlynol:

  • enw, cyfeiriad/lleoliad yr adeilad, gyda chod post neu gyfeirnod map
  • manylion cyswllt y perchennog / deiliad, os yw’n hysbys
  • ffotograffau diweddar yn dangos golwg a nodweddion arbennig presennol yr adeilad
  • gwybodaeth am hanes yr adeilad — megis y dyddiad adeiladu, defnydd gwreiddiol a datblygiad hanesyddol, nodweddion pensaernïol arbennig, ac unrhyw bobl neu ddigwyddiadau sy’n gysylltiedig ag ef. Os yw’n bosibl, dylech gynnwys tystiolaeth ysgrifenedig neu ffotograffig i ategu eich cais a rhoi gwybod i ni pa ffynonellau rydych wedi’u defnyddio i ddysgu mwy am yr adeilad
  • rhesymau pam eich bod yn credu y gallai’r adeilad fodloni’r meini prawf ar gyfer rhestru.

Byddwn yn asesu’r wybodaeth i weld p’un a yw’r adeilad yn bodloni’r meini prawf cenedlaethol ar gyfer rhestru (gweler adran 2). Os byddwn yn argymell y dylid ei restru, byddwn yn ymgynghori â’r canlynol:

  • perchennog a meddiannydd yr adeilad
  • yr awdurdod cynllunio lleol perthnasol
  • unrhyw berson arall y credwn fod ganddo wybodaeth arbennig am adeiladau o ddiddordeb pensaernïol neu hanesyddol neu ddiddordeb arbennig ynddynt.

Byddwn yn rhoi 28 diwrnod i ddychwelyd ymatebion ysgrifenedig. Os bydd yr adeilad yn rhestredig, byddwn yn dweud wrth y perchennog, y meddiannydd a’r awdurdod cynllunio lleol.

Gwarchodaeth interim

O ddechrau’r cyfnod ymgynghori, rhoddir gwarchodaeth interim i’r adeilad fel petai wedi’i restru eisoes. Bydd yn drosedd ei ddifrodi neu wneud gwaith sy’n newid ei gymeriad heb ganiatâd adeilad rhestredig.

Bydd gwarchodaeth interim yn parhau nes i benderfyniad gael ei wneud a nes i ni ddweud wrth y perchennog, y meddiannydd a’r awdurdod cynllunio lleol perthnasol. Rydym yn cyhoeddi rhestr o adeiladau o dan warchodaeth interim ar ein gwefan.

 Os nad yw’r adeilad wedi’i restru, efallai y bydd iawndal am golled neu ddifrod a achoswyd gan y warchodaeth interim yn daladwy. Mae’n rhaid cyflwyno hawliadau ysgrifenedig am iawndal o fewn chwe mis i’r dyddiad y daeth y warchodaeth interim i ben.

6. Sut i wneud cais am adolygiad

Gallwch wneud cais i’r Arolygiaeth Gynllunio adolygu’r penderfyniad rhestru o fewn 12 wythnos i’r penderfyniad hwnnw ar y sail nad yw’r adeilad o ddiddordeb pensaernïol na hanesyddol arbennig. Bydd angen i chi gynnwys manylion llawn yr achos. Bydd yr Arolygiaeth Gynllunio yn cysylltu ag unrhyw bartïon â diddordeb a gyfrannodd at yr ymgynghoriad gwreiddiol ac unrhyw bobl briodol eraill er mwyn iddynt allu cyfrannu at yr adolygiad. Gall hyn fod ar ffurf sylwadau ysgrifenedig, gwrandawiad neu ymchwiliad lleol cyhoeddus.

Ar ôl i’r Arolygiaeth Gynllunio wneud penderfyniad, bydd yn hysbysu’r cyfranogwyr am ei chanfyddiadau ac efallai y bydd angen i ni ddiwygio’r rhestr yn dibynnu ar benderfyniad yr adolygiad.

Byddwn yn adolygu rhestriadau yng ngoleuni tystiolaeth newydd. Os byddwch o’r farn y dylid ailystyried rhestriad, dylech anfon y dystiolaeth atom, ynghyd â ffotograffau o’r adeilad a chynllun o’r lleoliad. Mae’n rhaid i’r dystiolaeth ymwneud â diddordeb archaeolegol neu hanesyddol arbennig yr adeilad.

Byddwn yn ymchwilio i’ch tystiolaeth ac efallai y bydd angen i ni ymweld â’r adeilad cyn i ni wneud penderfyniad cychwynnol. Os bydd yn argymell y dylid dadrestru adeilad, byddwn yn ymgynghori â’r canlynol:

  • perchennog a meddiannydd yr adeilad
  • yr awdurdod cynllunio lleol perthnasol
  • ac unrhyw berson arall y credwn fod ganddo wybodaeth arbennig am adeiladau o ddiddordeb pensaernïol neu hanesyddol neu ddiddordeb arbennig ynddynt.

Byddwn yn rhoi 28 diwrnod i ddychwelyd ymatebion ysgrifenedig. Byddwn yn dweud wrth y perchennog, y meddiannydd a’r awdurdod cynllunio lleol os caiff yr adeilad ei ddadrestru.

7. Hysbysiadau cadw adeilad

Gall awdurdodau cynllunio lleol gyflwyno hysbysiadau diogelu adeilad er mwyn gwarchod adeiladau anrhestredig sydd, yn eu barn nhw, o ddiddordeb archaeolegol neu hanesyddol arbennig ac mewn perygl o gael eu dymchwel neu eu haddasu mewn ffordd a fydd yn effeithio ar eu cymeriad.

Caiff yr adeilad ei warchod yn yr un ffordd ag adeilad sydd wedi’i restru. Bydd yr hysbysiad mewn grym am hyd at chwe mis ac yn ystod y cyfnod hwn byddwn yn asesu p’un a ddylid rhestru’r adeilad ai peidio. Os penderfynwn fod yr adeilad yn bodloni’r meini prawf cenedlaethol ar gyfer rhestru, byddwn yn ymgynghori a chaiff yr adeilad ei ddiogelu drwy warchodaeth interim.

 Bydd yr awdurdod cynllunio lleol yn dweud wrth y perchennog a’r meddiannydd os penderfynwn beidio â rhestru’r adeilad ac efallai y bydd iawndal am golled neu ddifrod a achoswyd gan y warchodaeth interim yn daladwy.

8. Tystysgrif imiwnedd rhag rhestru

Gallwch wneud cais i ni am dystysgrif imiwnedd rhag rhestru, sy’n atal adeilad rhag cael ei restru yn ystod y pum mlynedd o ddyddiad ei chyflwyno. Ni chaiff awdurdod cynllunio lleol gyflwyno hysbysiad cadw adeilad yn ystod y cyfnod hwnnw. Mae tystysgrif imiwnedd yn rhoi sicrwydd i berchenogion a datblygwyr sy’n ystyried gwaith ar adeilad penodol.

Byddwn yn asesu ceisiadau am dystysgrifau mewn ffordd debyg i gynnig ar gyfer rhestru. Golyga hyn y dylai ceisiadau gynnwys yr un wybodaeth sydd ei hangen ar gyfer cais i restru (gweler adran 4). Os na fydd adeilad yn bodloni’r meini prawf ar gyfer rhestru, byddwn yn cyflwyno tystysgrif imiwnedd. Dylai ymgeiswyr hefyd hysbysu’r awdurdod cynllunio lleol am y cais.

9. Gofalu am adeiladau rhestredig

Fel perchennog unrhyw ased, perchenogion adeiladau rhestredig sy’n gyfrifol am ofalu am eu heiddo. Er nad yw perchenogion o dan unrhyw rwymedigaeth ffurfiol, mae cadw adeilad rhestredig mewn cyflwr da yn helpu i sicrhau y bydd yn goroesi yn yr hirdymor ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol. Cyn dechrau ar unrhyw waith, mae’n syniad da i berchenogion ddeall beth sy’n gwneud eu hadeilad rhestredig yn arbennig er mwyn i unrhyw waith allu ystyried hynny.

Ceir rhagor o wybodaeth am waith cynnal a chadw ac atgyweirio ar ein gwefan yn yr adran Gofalu am eich adeilad rhestredig.

Mae Rheoli Newid i Adeiladau Rhestredig yng Nghymru yn esbonio sut i ddeall arwyddocâd adeilad rhestredig a’r ffordd orau o gynllunio a gwneud newidiadau iddo.

Rhestrir rhai ffynonellau defnyddiol o wybodaeth bellach ar ddiwedd y canllaw hwn hefyd.

Mae gan awdurdodau cynllunio lleol gwahanol bwerau hefyd y gallant eu defnyddio er mwyn helpu i ofalu am adeiladau sydd mewn perygl. Mae’r rhain yn cynnwys y pwerau i wneud gwaith brys sydd ei angen i ddiogelu adeilad rhestredig ac adennill y gost oddi wrth y perchennog. Gallant hefyd gyflwyno hysbysiad atgyweirio. Os na fydd y perchennog yn cydymffurfio ag amodau’r hysbysiad atgyweirio, efallai y bydd yr awdurdod lleol yn ystyried prynu’r eiddo yn orfodol. Dim ond pan fetho popeth arall y defnyddir y mesurau hyn am fod y rhan fwyaf o berchenogion yn awyddus i ofalu am eu hadeiladau rhestredig a gweithio gydag awdurdodau.

Cewch ragor o wybodaeth am y mesurau a’r pwerau i warchod adeiladau rhestredig yn Rheoli Adeiladau Rhestredig sydd mewn Perygl yng Nghymru.

10. Gwneud newidiadau i adeiladau rhestredig

Os byddwch am newid, ymestyn neu ddymchwel adeilad rhestredig, bydd angen i chi gysylltu â’ch awdurdod cynllunio lleol er mwyn gweld a fydd angen i chi gael caniatâd adeilad rhestredig.

Mae’n drosedd dymchwel, newid neu ymestyn adeilad rhestredig mewn unrhyw ffordd sy’n effeithio ar ei gymeriad fel adeilad o ddiddordeb pensaernïol neu hanesyddol arbennig oni fydd gennych ganiatâd adeilad rhestredig. Felly, mae’n bwysig eich bod yn holi eich awdurdod cynllunio lleol cyn dechrau ar unrhyw waith.

Fel arfer, ni fydd angen i chi gael caniatâd adeilad rhestredig i wneud gwaith atgyweirio gan ddefnyddio deunyddiau a thechnegau sy’n cyfateb i’r rhai a ddefnyddiwyd yn wreiddiol, megis tynnu llechi oddi ar do a rhoi llechi union debyg o ran maint a math yn eu lle, ond mae’n debygol y bydd angen i chi gael caniatâd i wneud gwaith atgyweirio a all effeithio ar gymeriad yr adeilad. Gall hyn gynnwys glanhau gwaith cerrig neu osod ffenestri newydd yn lle rhai gwreiddiol.