Hysbysiadau statudol ymgynghori adeilad rhestredig
Mae Deddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2023 yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru ymgynghori â pherchnogion, meddianwyr a phobl eraill os ydynt yn bwriadu rhestru adeilad neu dynnu adeilad oddi ar y rhestr. Rhaid i fanylion pob hysbysiad ymgynghori gael eu cyhoeddi'n electronig.
Gwarchodaeth interim — adeiladau rhestredig
Bydd adeilad yr ystyrir ei restru yn cael ei warchod yn y cyfnod interim fel pe bai wedi'i restru eisoes. Bydd y warchodaeth interim yn parhau o ddechrau’r cyfnod ymgynghori tan i Weinidogion Cymru gyrraedd penderfyniad ar y dynodiad.
Hysbysiadau ymgynghori cyfredol adeilad rhestredig
Cyfeirnod: 6494
Enw/cyfeiriad yr adeilad: 16 Market Square
Cymuned ac awdurdod unedol: Arberth, Sir Benfro
Ymgynghoriad: 26 Gorffennaf 2023 – 23 Awst 2023
Gallwch wneud cais am gopi o hysbysiad ymgynghori.
Dylech anfon unrhyw gais, ynghyd â holl fanylion yr hysbysiad sydd o ddiddordeb ichi i AdeiladaurHestredig@llyw.cymru