Beddrod Siambr Din Dryfol
Safle claddu a chapsiwl amser o’r cyfnod Neolithig
Pennwyd dyluniad hirgul y beddrod siambr Neolithig hwn (Oes Newydd y Cerrig) gan ei safle ar gefnen greigiog, gul. Mae cloddiadau wedi datgelu hyd at bedair gwahanol siambr wedi’u hadeiladu drwy nifer o gyfnodau adeiladu.
Nodir y siambr ddiweddaraf gan borthfaen tal ar ochr ddwyreiniol y gefnen, ac mae meini unionsyth a maen capan sy’n mesur 10 troedfedd/3m wrth 5 troedfedd /1.5m i’r gorllewin yn dod o ddatblygiadau cynharaf y safle.
Amseroedd agor a phrisiau
Amseroedd agor
1 Ebrill – 31 Mawrth
|
Bob dydd 10am–4pm Mynediad olaf 30 munud cyn cau Ar gau 24, 25, 26 Rhagfyr a 1 Ionawr |
---|---|