Beddrod Siambr Barclodiad y Gawres
Hysbysiad ymwelwyr
Iechyd a Diogelwch
Oherwydd erydu arfordirol, byddwch yn ymwybodol bod angen gofal ychwanegol yn yr ardal o amgylch yr heneb wrth ddefnyddio rhan isaf llwybr yr arfordir. Mae’r llwybr sy’n arwain i’r heneb ar hyn o bryd yn ddiogel a heb gael ei effeithio. Mae Cadw yn monitro’r safle’n ofalus ac os oes gennych unrhyw bryderon gwiriwch ein cyngor diweddaraf a’n hymchwil ar newid hinsawdd a chyhoeddiad diweddaraf tîm amgylchedd hanesyddol Cadw – Yr Amgylchedd Hanesyddol a Newid Hinsawdd yng Nghymru – Cynllun Addasu’r Sector. Cysylltwch â ni i godi unrhyw bryderon y gallai fod gennych ynglŷn â’r heneb neu’r ardal gyfagos. E-bost: cadw@tfw.wales
Mae Siambr Barclodiad y Gawres ar agor fel rhan o'n rhaglen teithiau tywys o fis Mai i fis Awst bob blwyddyn. Mae'r teithiau hyn yn gyfle unigryw i archwilio'r safle gyda gwybodaeth arbenigol am ei hanes a'i arwyddocâd. Ydych chi eisiau bod ymhlith y rhai cyntaf i gael gwybod am ddyddiadau newydd ar gyfer teithiau, a’r prisiau?
Cofrestrwch ar gyfer ein cylchlythyr a bydd diweddariadau’n dod yn syth i'ch mewnflwch
Amseroedd agor a phrisiau
Amseroedd agor
1st Ebrill - 31st Mawrth | 10am–4pm |
---|---|
Gwybodaeth i ymwelwyr
Maes parcio
Croeso i gŵn
Anhawster cerdded
Tirwedd: Lefel 3 — Cymedrol
Polisi dronau
Darllenwch ein polisi dronau am y wybodaeth ddiweddaraf am hedfan yn henebion Cadw: darllenwch y canllawiau
Dim ysmygu
Ni chaniateir ysmygu.
Cyfarwyddiadau
Google Mapwhat3words: ///teipydd.siaradwn.goroesi