Skip to main content

Cyfle i weld y bedd tramwyfa unigryw a phwysig hwn sydd ddim fel arfer ar agor i'r cyhoedd.

Dysgwch am ei bensaerniaeth a dewch i fwynhau mynediad arbennig i weld yr hen gerrig addurnedig

Mae Barclodiad-y-Gawres yn siambr gladdu Neolithig a ailadeiladwyd yn rhannol ac mae'n enwog am ei cherrig addurnedig. Mae safle ysblennydd yr heneb hon, ar ben y clogwyn, sy'n dyddio'n ôl i'r cyfnod Neolithig hwyr, yn un o'i atyniadau mawr ac mae'r llwybr ato yn daith fer bleserus. Mae Barclodiad-y-Gawres yn golygu 'The Giantess's Apronful' yn Saesneg ac mae'n enw lleol traddodiadol.

Teithiau tywys am 11am, 1pm a 3pm.

Nid oes angen archebu lle.


Prisiau

Am Ddim

Amseroedd y digwyddiadau

Dyddiad Amseroedd
Sad 21 Medi 2024
11:00 - 16:00
Sul 22 Medi 2024
11:00 - 16:00
Sul 29 Medi 2024
11:00 - 16:00
I gael gwybodaeth lawn am y safle, gan gynnwys amseroedd a chyfleusterau agoriadol tymhorol, ewch i'r dudalen heneb Beddrod Siambr Barclodiad y Gawres