Llys Rhosyr
Llys pwysig i Dywysogion Gwynedd yn yr Oesoedd Canol
Llys Rhosyr ger Niwbwrch yw’r unig un o Lysoedd Tywysogion Cymru sydd ag olion gweladwy y gall y cyhoedd ymweld â nhw. Adlewyrchir arwyddocâd diwylliannol y safle gan y ffaith fod Cadw wedi’i ddynodi fel heneb gofrestredig. Bellach dyma heneb rhif 131 a fydd yn cael gofal uniongyrchol gan Cadw.
Mae llysoedd brenhinol Tywysogion Gwynedd ymhlith cyfadeiladau seciwlar pwysicaf yr Oesoedd Canol yng Nghymru. Er bod safleoedd llysoedd eraill yn hysbys o ddogfennau neu bod awgrym yn eu cylch yn sgil gwaith cloddio rhannol, Llys Rhosyr yw'r unig un o Lysoedd Tywysogion Cymru sydd heb amddiffynfeydd ac a gadarnhawyd trwy gloddio archaeolegol
Amseroedd agor a phrisiau
Amseroedd agor
1 Ebrill – 31 Mawrth
|
Bob dydd 10am-4pm Mynediad olaf 30 munud cyn cau. Ar gau 24, 25, 26 Rhagfyr ac 1 Ionawr |
---|---|