Maen Hir Tŷ Mawr
Hysbysiad i Ymwelwyr
Mae'r heneb hon bellach ar agor ac fe ellir ymweld â’r safle ac yn rhad ac am ddim heb archebu ymlaen llaw.
Gwiriwch ein hamseroedd agor a'n cyfleusterau isod; byddwch yn gyfrifol a pharchwch yr ardal leol yn ystod eich ymweliad.
Cadwch at ganllawiau pellter cymdeithasol a rheoliadau coronafeirws Llywodraeth Cymru bob amser a pheidiwch â cheisio cael mynediad i leoedd dan do.
Arolwg
Siâp rhyfedd o heneb unig o’r Oes Efydd
Wedi’i godi ar ryw adeg yn ystod yr Oes Efydd, yn fwy na thebyg, mae’r maen hir hwn yn ffigwr unig ar ei ben ei hun ymysg caeau ar gyrion Caergybi. Yn mesur rhyw 9 troedfedd/2.7m o uchder, mae’r garreg yn hynod am ei siâp anarferol, sydd fel petai’n dirdroi wrth iddi godi am i fyny o’r ddaear.
Amseroedd agor
Bob dydd 10am - 4pm
Mynediad olaf 30 munud cyn cau
Ar gau 24, 25, 26 Rhagfyr a 1 Ionawr
Prisiau
Categori | Price |
---|---|
Costau mynediad |
Am ddim
|
Cyfleusterau
Nid yw Cadw yn caniatáu hedfan dronau o’u safleoedd nac uwchlaw eu safleoedd. Yr unig rai sydd â hawl i wneud hynny yw contractwyr sydd wedi’u comisiynu i gyflawni dyletswyddau penodol. Bydd y contractwyr hynny yn cyflawni gofynion CAA yn llawn ynghyd â bod a sicrwydd yswiriant ac yn gweithredu dan amodau sydd wedi’u rheoli.
Ni chaniateir ysmygu.