Olion chwilfriw heneb o’r Oes Efydd
Ar ben ei hunan bach ar frig cefnen, mae’r maen hir hwn o’r Oes Efydd gynnar yn dal yn nodwedd urddasol ar y dirwedd o’i gwmpas. Yn anffodus, ni fu’r milenia’n garedig i’r heneb hon. Wedi’i hollti’n dri darn, mae’r maen bellach wedi’i ddal ynghyd gan folltau a gwregysau haearn.
| 1st Ebrill - 31st Mawrth | 10am-4pm |
|---|---|
|
Mynediad olaf 30 munud cyn cau Ar gau 24, 25, 26 Rhagfyr a 1 Ionawr |
|
Croeso i gŵn
Anhawster cerdded
Tirwedd: Lefel 3 — Cymedrol
Polisi dronau
Darllenwch ein polisi dronau am y wybodaeth ddiweddaraf am hedfan yn henebion Cadw: darllenwch y canllawiau
Dim ysmygu
Ni chaniateir ysmygu.
Iechyd a Diogelwch
Rhaid bod yn ofalus a chymryd sylw wrth ymweld â'r heneb hon. Bydd yn agored i'r elfennau naturiol yn rheolaidd a gall fod yn llithrig neu'n fwdlyd o dan draed.
Rhaid i chi ystyried pa esgidiau sy’n addas ar gyfer y tymor a'r math o heneb cyn eich ymweliad. Dim ond yn ystod yr oriau agor penodol y gallwch fynd yno, mae'r rhain wedi'u dewis ar gyfer eich diogelwch h.y. lefel briodol o olau.
Mae llawer o'n henebion mewn lleoliadau uchel, felly rhaid rhoi sylw hefyd i'r ardaloedd cyfagos, y cloddiau a’r ffosydd wrth ymweld.
Mae rheiliau gwarchod wedi'u gosod i atal mynediad i unrhyw rannau o'r safle yr ydym wedi barnu eu bod yn beryglus neu i atal pobl rhag disgyn mewn mannau penodol. Peidiwch â dringo dros unrhyw reiliau ac ati sydd wedi’u gosod, na dringo drwyddynt.
Dylid defnyddio unrhyw ganllaw sydd yno i'ch helpu i ddringo a dod lawr y grisiau hanesyddol yn ddiogel, gan y gall y rhain fod yn anwastad ac o wahanol uchder.
Fel gyda phob heneb hynafol mae perygl bob amser i gerrig ddod yn rhydd mewn tywydd gwael. Fodd bynnag, rydym yn rheoli hyn trwy fonitro trylwyr.
Gall dringo arwain at anaf difrifol.
Mae yna nifer o blanhigion a blodau gwyllt, ac er bod y rhain yn beillwyr gwych gallant fod yn wenwynig i ymwelwyr ac anifeiliaid; rydym yn eich cynghori'n gryf i beidio â chyffwrdd na chaniatáu i gŵn fwyta unrhyw lystyfiant.
Efallai y bydd mynediad yn cael ei rannu neu bod tir fferm cyfagos a allai gynnwys gwartheg pori neu anifeiliaid fferm.
Gwyliwch ein ffilm iechyd a diogelwch cyn ymweld â safleoedd Cadw.
Iechyd a Diogelwch / Health and Safety
Rhowch wybod am unrhyw ymddygiad gwrthgymdeithasol fel dringo, graffiti ac ati i CadwAccidentsReports@llyw.cymru
Mae’r arwyddion canlynol i’w gweld o amgylch y safle mewn ardaloedd risg allweddol, cymerwch sylw ohonynt lle bo’n briodol.
Wyneb llithrig neu anwastad
Dim maes parcio dynodedig.
Cyf Grid: SH340831. Lled/Hyd: 53.3195, -4.4926
what3words: ///cyffiniau.rhwygiad.eironi
Ymunwch â Cadw am gyn lleied â £2.00 y mis a chael faint a fynnid o ymweliadau â thros 100 o safleoedd hanesyddol