Skip to main content

Arolwg

Efallai’r cyfan sy’n weddill o gymuned ddiflanedig

Prin iawn y gwyddys am hanes y capel adfeiliedig hwn o’r 12fed ganrif, a saif mewn llecyn unig uwchben Bae Llugwy. Mae’n siŵr fod y strwythur carreg sydd yno heddiw wedi’i godi ar safle eglwys Geltaidd hŷn o bren yn y 12fed ganrif, pan ddaeth ymosodiadau’r Llychlynwyr ar Ynys Môn i ben a phan ddaeth bywyd ar yr ynys yn fwy sefydlog a ffyniannus. Mae’n siŵr nad oedd safle Capel Llugwy bob amser mor anghyfannedd – mae’n debygol mai’r capel yw’r unig beth sydd dros ben o gymuned gweddol fawr a gafodd ei gadael yn y pen draw gan ei phreswylwyr.                                                                                 


Amseroedd agor

Bob dydd 10am–4pm

Mynediad olaf 30 munud cyn cau

Ar gau 24, 25, 26 Rhagfyr a 1 Ionawr


Prisiau

Categori Price
Costau mynediad
Am ddim

Cyfleusterau

Croeso i gŵn icon Polisi dronau icon Dim ysmygu icon

Cyfarwyddiadau

Ffordd
3/4m (1.2km) i’r Gog. o Lanallgo, oddi ar yr A5025
Beic
RBC Llwybr Rhif 5 (6.6km/4.1mllr).