Beddrod Siambr Llugwy
Arolwg
Un o’r hoelion wyth
Golwg fathredig sydd ar Lugwy, fel petai ei meini cynhaliol yn cael eu haraf orfodi i’r ddaear gan ei maen capan anferth. Nid hynny mo’r gwir, er bod y beddrod hwn ymhlith y mwyaf ym Mhrydain, dan ei do carreg anferthol sydd 18 troedfedd/5.5m o hyd a 15 troedfedd/4.6m o led ac yn pwyso 25 tunnell, yn ôl pob tyb.
Buasai Llugwy, sy’n dyddio o ddiwedd yr oes Neolithig (Oes Newydd y Cerrig), wedi’i gorchuddio’n wreiddiol â thomen bridd. Pan gloddiwyd y beddrod ym 1908, canfuwyd esgyrn dynion, menywod a phlant ynghyd ag esgyrn anifeiliaid, cregyn, offer fflint, crochenwaith a phin asgwrn.
Amseroedd agor
Bob dydd 10am - 4pm
Mynediad olaf 30 munud cyn cau
Ar gau 24, 25, 26 Rhagfyr a 1 Ionawr
Prisiau
Categori | Price |
---|---|
Costau mynediad |
Am ddim
|