Efallai bod Cymru'n wlad fach ond estynnir croeso mawr i grwpiau. O gaerau gwych i abatai hudolus, mae gan Cadw lawer i'w gynnig i grwpiau o bob maint.
Ceir llu o arddangosfeydd a digwyddiadau gwych yn ein safleoedd hanesyddol drwy gydol y flwyddyn. Mae'r calendr yn rhedeg o fis Ebrill i fis Rhagfyr a gyda thros 150 o ddigwyddiadau unigol yn cael eu cynllunio bob blwyddyn, mae rhywbeth yn digwydd drwy'r amser. O farchogion yn ymladd mewn twrnameintiau i wersylloedd hanes byw a pherfformiadau theatrig i sioeau sain a golau digidol. Mae digon o hwyl a chyffro.
Mae ein safleoedd yn cynnig gwerth gwych am arian. Cynigir gostyngiad o 10% ar brisiau mynediad i grwpiau o 15 neu fwy. Gyda'r rhan fwyaf o'n digwyddiadau'n cael eu cynnwys yn y pris mynediad safonol, mae mwy o reswm fyth i drefnu grŵp ac ymweld â'n safleoedd. Peidiwch ag oedi!
Gallwn helpu drwy roi cyngor a gwybodaeth am bob agwedd ar eich ymweliad. Gan ein bod yn gofalu am rai o'r atyniadau hanesyddol gorau yng Nghymru, rydym mewn sefyllfa ddelfrydol i allu eich helpu.
Mae chwilio drwy leoedd i ymweld â hwy yn fan cychwyn da. Mae'n rhoi gwybodaeth gyffredinol a phenodol am safleoedd unigol. Gall grwpiau o sefydliadau addysgol ddod o hyd i wybodaeth werthfawr yn yr adran ymweliadau addysgol. Os yw eich grŵp yn cynnwys ymwelwyr anabl, gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth ar dudalennau'r safleoedd unigol o dan 'Lleoedd i ymweld' neu ffoniwch bencadlys Cadw ar 03000 252239 neu e-bostiwch cadw@tfw.wales
Os hoffech gael cyngor ac awgrymiadau am ddim ar ba safleoedd fyddai'n gweddu orau i'ch rhaglen, cysylltwch â'n desg farchnata (manylion cyswllt isod).
Rhowch alwad i'n desg farchnata a byddwn yn fwy na pharod i drefnu ymweliad ymgyfarwyddo â'n heiddo am ddim (manylion cyswllt isod).
Cysylltwch â'n desg farchnata (manylion cyswllt isod).
Mae gennym amrywiaeth eang o ffotograffau o ansawdd uchel i'w llogi. Cysylltwch â llyfrgell ffotograffau Wales on View neu cysylltwch â'n desg farchnata (manylion cyswllt isod).
Cynigir gostyngiad o 10% ar docynnau i oedolion a thocynnau cyfradd ostyngol i grwpiau o 15 neu fwy.
I gael mwy o wybodaeth am ein cynigion i grwpiau, ffoniwch 03000 252239 neu e-bostiwch cadw@tfw.wales