Castell Caergwrle
Hysbysiad ymwelwyr
Mae Castell Caergwrle ar gau dros dro oherwydd difrod coed a achoswyd yn ystod storm Arwen.
Mae ein timau’n gweithio’n galed i adfer tir y castell i fod yn ddiogel ar gyfer ymwelwyr, a byddwn yn ailagor y safle cyn gynted â phosibl.
Arolwg
Castell Caergwrle yw caffaeliad diweddaraf Cadw drwy Warcheidiaeth, er bod y safle ehangach yn dal i fod ym meddiant Cyngor Cymuned yr Hob. Adeiladwyd y castell rhwng 1278 a 1283 gan Dafydd ap Gruffydd (m. 1283), hanner brawd Llywelyn ap Gruffydd, ar dir a roddwyd iddo gan Edward I ac a gymerwyd o Bowys. Dyma’r castell olaf i gael ei adeiladu gan Dywysog Cymreig brodorol.
Roedd y castell yn sylfaen ar gyfer ymosodiad Dafydd ar garsiwn Lloegr ym Mhenarlâg ym 1282, a arweiniodd at ail ymgyrch Edward yn erbyn y Cymry.
Parhaodd gwaith ar y castell o dan law’r Goron, ond mae’n debyg ei fod yn anghyflawn pan gefnwyd ar y lle wedi tân, ac roedd yn adfail erbyn 1335. Mae llwybr ag arwyddbyst o gyffordd Ffordd Wrecsam a Stryd y Castell yng nghanol y pentref.
Cytunwyd ar raglen 5 mlynedd o welliant i dir ehangach y castell gyda’r Cyngor Cymuned, ac fe’i darperir gan Wasanaethau Cefn Gwlad Sir y Fflint.
Amseroedd agor
Bob dydd 10am–4pm
Mynediad olaf 30 munud cyn cau
Ar gau 24, 25, 26 Rhagfyr a 1 Ionawr
Prisiau
Cyfleusterau
Mae parcio cyhoeddus ar gael yn y pentref ychydig oddi ar y Stryd Fawr.
Mae croeso i gŵn ar dennyn gael mynediad i lefelau llawr gwaelod y safle.
Nid yw Cadw yn caniatáu hedfan dronau o’u safleoedd nac uwchlaw eu safleoedd. Yr unig rai sydd â hawl i wneud hynny yw contractwyr sydd wedi’u comisiynu i gyflawni dyletswyddau penodol. Bydd y contractwyr hynny yn cyflawni gofynion CAA yn llawn ynghyd â bod a sicrwydd yswiriant ac yn gweithredu dan amodau sydd wedi’u rheoli.
Ni chaniateir ysmygu.