Tocynnau Crwydro Masnach Teithio
Mae Tocynnau Crwydro 2 a 7 diwrnod Cadw yn ffordd werth am arian o grwydro’r cyfoeth o atyniadau hanesyddol sydd gan Gymru i’w cynnig.
Mae’r tocynnau’n cynnig rhyddid i grwydro dwsinau o atyniadau hanesyddol Cadw, gan helpu’ch cwsmeriaid i wneud y gorau o’u pryniant. Gellir defnyddio’r tocynnau 3 diwrnod mewn unrhyw safle ac mewn unrhyw gyfnod o 7 diwrnod, a’r tocyn 7 diwrnod mewn unrhyw 14 diwrnod.
Mae Tocynnau Crwydro’r Fasnach Deithio ar gael ar sail gwerthu cwmni ac fe’u gwerthir naill ai fel tocynnau oedolyn sengl, dau oedolyn, neu deulu.
Gallwch nawr brynu Tocynnau Crwydro’r Fasnach Deithio ar-lein a mwynhau disgownt a dewis talu ar adeg eu prynu neu drwy anfoneb.
Os hoffech chi brynu Tocynnau Crwydro’r Fasnach Deithio, cysylltwch â’n tîm masnachol am fanylion: cadwcommercial@llyw.cymru
Prisiau 2024
UN OEDOLYN DAU OEDOLYN TEULU*
TOCYN 3 DIWRNOD £18.15 £27.25 £43.55
TOCYN 7 DIWRNOD £27.25 £40.85 £50.80
*2 oedolyn a hyd at 3 plentyn/wyr neu wyres o dan 18 oed.
Atyniadau hanesyddol sy’n derbyn ac yn gwerthu Tocynnau Crwydro.
- Abaty Tyndyrn
- Caer a Baddonau Rhufeinig Caerllion
- Castell Biwmares
- Castell Caerffili
- Castell Caernarfon
- Castell Cas-gwent
- Castell Coch
- Castell Conwy
- Castell Cricieth
- Castell Cydweli
- Castell Dinbych
- Castell Harlech
- Castell Rhaglan
- Castell Rhuddlan
- Castell Talacharn
- Gwaith Haearn Blaenafon
- Llys a Chastell Tretwr
- Llys yr Esgob Tyddewi
- Plas Mawr
Noder:
- Unwaith y bydd tocynnau’n cael eu prynu a’u rhoi gan Cadw, y prynwr masnach sy’n gyfrifol am sicrhau bod y Tocyn Crwydro, gan gynnwys y cod QR, yn cael ei ddarparu i’w cwsmeriaid.
- Ni fydd timau ar y safle Cadw yn gallu ailgyhoeddi na dilysu Tocynnau Crwydro’r Fasnach Deithio, oni bai bod yr ymwelydd yn dangos Tocyn Crwydro dilys wrth gyrraedd.