Crewyr Cadw — Celf Stryd
Yn ystod gwaith ymgysylltu â’r gymuned, a oedd yn gymorth i ddatblygu’r hyn a fyddai’n dod wedyn yn Gynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol, cyfeiriwyd sawl gwaith at gydnabod Celf Stryd.
Lluniwyd yr adnodd hwn mewn ymateb uniongyrchol i hynny ac mae’n cynnig fframwaith i athrawon, artistiaid sy’n addysgwyr, a disgyblion archwilio celf stryd gan ddefnyddio’r amgylcheddau adeiledig lleol i’w hysbrydoli yng nghyswllt Maes Dysgu a Phrofiad y Celfyddydau Mynegiannol.
Drwy gydol hanes, mae pobl wedi defnyddio celf stryd a graffiti fel ffordd o wneud marciau. Mae rhai o weithiau celf cynharaf pobl a’u hymdrechion cynharaf i gyfathrebu yn defnyddio paent chwistrellu a stensil. Mae paentiadau mewn ogofâu a nodau gwneuthurwyr yn enghreifftiau cynnar. Mae gwreiddiau graffiti modern yn Efrog Newydd, America yn yr 1970au (yn rhan o sîn stryd ehangach a oedd yn cynnwys cerddoriaeth a dawns).
Yn aml, defnyddir delweddau a gwaith llythrennu wedi’u paentio â chwistrell i greu gweithiau celf mewn mannau cyhoeddus. Yng Nghymru, dechreuodd graffiti modern a ysbrydolwyd gan yr hyn a oedd yn digwydd yn Efrog Newydd ymddangos mewn ardaloedd diwydiannol ddechrau’r 1980au.
Yn fwy diweddar, mae celf stryd a graffiti wedi’u creu mewn mannau cyhoeddus ar draws Cymru gyfan fel ffordd o wneud sylw cymdeithasol neu wleidyddol. Cafodd llawer o’r gwaith ei greu yn anghyfreithlon ac, er ei bod yn rhyfeddol ei weld, ni fyddwch yn synnu o glywed nad yw Cadw yn cymeradwyo gwneud marciau anghyfreithlon mewn mannau cyhoeddus.
Heddiw mae celf stryd sy’n archwilio ystod eang o bynciau i’w gweld ym mhob rhan o Gymru, ac mae artistiaid yn cael eu comisiynu i greu gwaith newydd ochr yn ochr â sîn addysg gelfyddydol a chymunedol lewyrchus y mae ysgolion, plant a phobl ifanc ledled y wlad yn ymwneud â hi.
Mae’r adnodd hwn yn cyflwyno’r cysyniad o waith celf sy’n benodol i safle ac mae’n datblygu sgiliau artistig. Mae’n edrych yn fanwl ar gelf stryd drwy gydol hanes, gan gynnwys enghreifftiau o Gymru, y DU a’r byd i gyd. Bwriedir iddo roi i athrawon, ac i artistiaid sy’n addysgwyr, y wybodaeth a’r adnoddau i hwyluso prosiect celf stryd o safon gyda grŵp o ddysgwyr. Awgrymir fframwaith cynllunio prosiect sydd â chysylltiadau clir â’r ‘Datganiadau o’r hyn sy’n bwysig’ ar gyfer Maes Dysgu a Phrofiad y Celfyddydau Mynegiannol o fewn y Cwricwlwm i Gymru.
Pwysig
Mae’n anghyfreithlon paentio, ysgrifennu neu wneud marciau ar eiddo rhywun arall. Caiff difrod a achosir i adeilad hanesyddol neu heneb gofrestredig, hyd yn oed os yw ar eich tir chi, ei ystyried yn drosedd dreftadaeth ac yn drosedd yng ngolwg y gyfraith. Mae cael gwared ar gelf stryd yn gostus ac mae’n effeithio ar integriti ein treftadaeth ddiwylliannol yng Nghymru, sy’n rhywbeth yr ydym yn ei werthfawrogi yn ein cymunedau. Gweler Gwarchodwr Treftadaeth.