Skip to main content
Wedi ei gyhoeddi

Rhowch nodyn yn eich dyddiadur, mae #WythnosDysguAwyrAgored / #WalesOutdoorLearningWeek ar y ffordd, felly dewch i’w dathlu yn rhai o’r lleoedd gorau yng Nghymru i chwarae ac i ddysgu – ein safleoedd treftadaeth ni!

Sut mae ymuno yn yr hwyl?

Mae Wythnos Dysgu Awyr Agored Cymru yn gyfle i bobl o bob oed feithrin arferion da o ran addysg, iechyd a lles a fydd yn para trwy gydol oes. Felly, beth am i ni gyd ymuno yn yr hwyl?

Does dim rhaid angen creu cynlluniau cymhleth neu wario ffortiwn er mwyn tanio’r synhwyrau neu ddysgu rhywbeth newydd.

Diffoddwch y sgriniau, ac ewch allan gyda’ch teulu, gyda’ch dosbarth, neu ar eich pen eich hun i fwynhau’r awyr iach. Cymrwch saib i sylwi ar yr hyn sydd o’ch cwmpas. Mae Dysgu yn yr Awyr Agored yn cyfrannu tuag at bob un o’r 7 Nod Llesiant, ac mae hefyd yn creu ‘cyfleoedd a gweithgareddau sy’n ehangu gorwelion o fewn a thu hwnt i amgylchfyd dysgu traddodiadol yr ystafell ddosbarth.’

Dyma gyfle euraidd i fod yn actif ac i gael budd o ddysgu yn ein hadeiladau hanesyddol a’u cyffiniau. Beth am i chi fynd i’ch safle lleol heddiw er mwyn sbarduno’r dychymyg a chael blas ar eich cynefin? Boed yn safle sy’n cael ei staffio neu ddim, cewch grwydro’r lleoliadau a fu’n dystion i’n hanes ni, yn ogystal â chael cyfle i werthfawrogi’r byd natur sydd o’n cwmpas. 

Gallwch fod yn greadigol a threulio amser yn tynnu lluniau neu’n ysgrifennu am yr hyn rydych chi’n ei weld a sut mae’n gwneud i chi deimlo, gallwch roi sylw i’ch lles personol trwy wneud gweithgareddau fel yoga neu tai chi, neu beth am fesur uchder castell a chyfrif grisiau fel rhan o wers fathemateg?

Os ydych chi’n dysgu mewn ysgol neu’n dysgu o adref, gall ein safleoedd hanesyddol fod yn estyniad gwych i’r ystafell ddosbarth unrhyw bryd. Ewch i Dysgu | Cadw (llyw.cymru) ac Ymweliadau Addysg

Ddim yn siŵr ble i fynd? Edrychwch ar dudalennau Lleoedd i Ymweld, Dod o Hyd i Ddigwyddiad Cadw, a Diwrnodau Allan 

Gallwch ddysgu rhagor ar wefan Cyngor Cymru ar gyfer Dysgu yn yr Awyr Agored

Sut alla’ i ymuno yn y dathliadau a rhannu fy antur ag eraill?

Waeth pa mor fawr neu fach, boed yn lleol neu o ben draw’r byd, byddem wrth ein boddau pe baech chi’n rhannu eich anturiaethau dysgu yn yr awyr agored gyda ni!

Defnyddiwch yr hashnod #WythnosDysguAwyrAgored er mwyn rhannu’r newydd. Ac os byddwch chi’n ymweld ag un o safleoedd Cadw, cofiwch ddefnyddio @CadwCymru neu @CadwWales hefyd.

WythnosDysguAwyrAgored 28 Ebrill - 4 Mai 2025