Skip to main content

Derbyniwyd trosglwyddiad o'r dyfodol!

O'r flwyddyn 3011 a chan y prif hanesydd ac ymchwilydd yn Llyfrgell Luna, Elora Williams.

Mae gwibfaen wedi taro'r llyfrgell ac wedi dinistrio'r holl gofnodion treftadaeth o fileniwm y 2000au.

Mae Elora angen ein help ni! Mae angen ditectifs hanes arni i brofi a chofnodi'r dreftadaeth ar garreg eu drws a chreu capsiwl amser i genedlaethau'r dyfodol ei ddarganfod.

Gwyliwch ein fideo i glywed Elora yn gofyn am eich help...

TROSGLWYDDIAD I'R 2000'au

Helo,

Fy enw i yw Elora Williams, dach chi ddim yn f'adnabod, ond rydw i o'r dyfodol, y flwyddyn 3011.
Rydw i'n hanesydd ac rwy'n ymchwilio i orffennol gwlad hyfryd Cymru (mae'n lle cyffrous mewn gwirionedd). Ond, mae gen i ofn bod gen i broblem!

Cafodd ein prif lyfrgell ei tharo gan storm gwibfaen a'i ddinistrio, fy nhasg yw disodli'r holl wybodaeth!
Fel y gallwch ddychmygu mae hon yn dasg enfawr ac rydw i eisiau gallu gwneud ein llyfrgell yn llawer gwell nag yr oedd o'r blaen!

Allwch chi fy helpu?

A allwch chi ymgymryd â'r her?

Allwch chi fod yn dditectifs hanes i mi?

Gallaf anfon rhywfaint o wybodaeth atoch trwy'r trawsnewidydd amser i'ch helpu chi.
Byddwn yn gwerthfawrogi'n fawr.
Diolch hynafiaid, gadewch i'r genhadaeth ddechrau.

DIWEDD TROSGLWYDDIAD

Yn ffodus, mae ein haneswyr yn Cadw wedi paratoi pecyn cenhadaeth i'ch helpu i gasglu'r dystiolaeth sydd ei hangen ar Elora i ailadeiladu Llyfrgell Luna.

Lawrlwythwch ein canllaw Cenhadaeth Ditectif Hanes nawr i fod yn dditectif hanes heddiw!