Adnoddau difyr a defnyddiol ar gyfer dysgu gartref
Defnyddiwch ein gweithgareddau a’n comics hwyl gartref… darllenwch a dysgwch am y gorffennol a beth am greu golygfa o frwydr mewn castell?
Cafodd rhai o’n hadnoddau eu creu i’w defnyddio mewn heneb hynafol, fel castell neu dŷ Tuduraidd - ond gallwch ddefnyddio darnau ohonyn nhw adref!
Chwedlau Aesop, mae 15 stori yma y gellir eu darllen a’u trafod adref gyda’ch gilydd. Gallwch hefyd edrych ar y lluniau hyfryd sydd wedi eu paentio ar waliau Castell Coch a chreu eich lluniau eich hun
Mae gennym becynnau addysgol am gestyll Cymru, ewch i’r dolenni isod. Mae nifer o weithgareddau difyr yma y gallwch eu gwneud gartref. Beth am adeiladu castell? Neu beth am greu ffilm gyffrous, gan ddefnyddio ap stop motion, neu beth am fentro amdani gyda her y catapwlt!
Pwy ydy eich arwyr ac arwresau Cymreig? Ydych chi’n gallu enwi arwyr ac arwresau Cymreig o’r gorffennol?
Ewch ati i chwilio am wybodaeth i weld sut oedd pobl yn byw yng Nghymru yn ystod y cyfnod Cynhanes.
Mae gêm llinell amser Castell Coch a Chaerdydd yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg wedi’i chynllunio i gyflwyno disgyblion i un o destunau hanes Cyfnod Allweddol 2 sef newid yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg.
Gellir defnyddio’r wybodaeth hon i ysgogi trafodaeth ar y testun allai wedyn arwain at waith pellach fel rhan o ymchwiliad hanesyddol. Mae’r taflenni gwybodaeth yn cyfeirio disgyblion at fannau lle mae’n bosibl iddyn nhw ymchwilio pob maes diddordeb ymhellach.
Darganfyddwch straeon rhyfeddol sydd wedi’u hysbrydoli gan Gastell Coch.