Skip to main content

Rydym ni’n defnyddio JavaScript i osod y rhan fwyaf o’n cwcis. Yn anffodus, nid yw JavaScript yn rhedeg ar eich porwr, felly ni allwch newid eich gosodiadau trwy ddefnyddio’r dudalen hon. I reoli eich gosodiadau cwcis trwy ddefnyddio’r dudalen hon, rhowch gynnig ar droi JavaScript ymlaen yn eich porwr.

Gwybodaeth am gwcis

Rydym wedi arbed rhai ffeiliau o’r enw cwcis i’ch dyfais. Mae’r cwcis hyn:

  • yn hanfodol i waith y safle
  • yn helpu gwella’n gwefan trwy gasglu gwybodaeth ac adrodd am sut rydych chi’n ei defnyddio

Hefyd, hoffem arbed rhai cwcis i helpu:

  • gwella ein gwefan trwy fesur y defnydd o’n gwefan
  • cofio eich gosodiadau
Newid gosodiadau cwcis

Rydych chi wedi derbyn yr holl gwcis ar gyfer y wefan hon. Gallwch newid eich dewisiadau ar gyfer cwcis unrhyw bryd.

Fe welwch chi barc ym mhob tref ledled Cymru. Gallant fod yn llefydd ffurfiol — gyda phlanhigion addurnol, rheiliau a gatiau, coedlannau o bosibl — neu'n anffurfiol, gyda chlystyrau o goed, dyrnaid o flodau gwyllt, llwybrau troellog. Maen nhw i gyd yn dirweddau sydd wedi'u cynllunio; lleoedd sy'n cynnwys elfennau naturiol a dynol. Ac maen nhw'n hollbwysig i'n lles ni fel unigolion a chymunedau.

Mae treulio amser yn yr awyr agored yn dda i iechyd corfforol a meddyliol, ac mae parciau'n darparu lleoedd ar gyfer gemau, cymdeithasu ac ymarfer corff. Nid yw hyn yn beth newydd.  Ar ddiwedd y 1800au a dechrau'r 1900au agorwyd llawer o barciau trefol i'r cyhoedd – naill ai'n ddatblygiadau newydd, neu hen erddi preifat oedd yn cynnig mynediad cyhoeddus am y tro cyntaf. Cynlluniwyd y parciau trefol hyn er mwyn gwella bywydau pobl, oedd yn arbennig o bwysig mewn cyfnod o ddiwydiannu a threfoli cynyddol.  

Heddiw, mae llawer o barciau yn fannau gwyrdd a threftadaeth. Maen nhw'n cyfuno manteision treulio amser yn yr awyr agored a holl fanteision ymweld â safleoedd treftadaeth, sy'n gwneud byd o les i ni – y gorau o'r ddau fyd! 

Bob blwyddyn, mae parciau a mannau gwyrdd yn ymgeisio am Wobr y Faner Werdd a Gwobr Gymunedol y Faner Werdd. Mae'r gwobrau, sy'n cael eu cynnal gan fudiad Cadwch Gymru'n Daclus, yn cydnabod y lleoedd hynny sy'n ddiogel, yn groesawgar, yn hygyrch ac yn cael eu rheoli a'u cynnal a'u cadw'n dda. Gall parciau a mannau gwyrdd sydd â diddordeb hanesyddol penodol wneud cais am Achrediad Safle Treftadaeth Werdd hefyd. Yma yng Nghymru, Cadw sy'n cymeradwyo Achrediad Safle Treftadaeth Werdd. 

Hyd yma, mae 12 lle yng Nghymru wedi derbyn statws Achrediad Safleoedd Treftadaeth Werdd. Mae 10 o'r rhain ar y Gofrestr o Barciau a Gerddi Hanesyddol.

Mae hyn yn cydnabod ymdrechion a wnaed i warchod, cynnal a gwella nodweddion hanesyddol, ac annog pobl i'w mwynhau a'u deall.  Mae Safleoedd Treftadaeth Werdd yn llefydd i ymweld ac archwilio'r gorffennol wrth fwynhau'r presennol. 

Green Flag Heritage Awards logos