Gwasanaeth amgylchedd hanesyddol Llywodraeth Cymru yw Cadw, ac un o’n dyletswyddau yw gwarchod y lleoedd hanesyddol sydd yn ein gofal, sy’n cynnwys henebion cynhanesyddol a hanesyddol.
Mae ein safleoedd yn aml yng nghalon cymunedau ledled Cymru ac felly maent yn lleoliadau delfrydol ar gyfer digwyddiadau lleol.
Mae amrywiaeth o ddigwyddiadau cymunedol lleol ar graddfa fach yn cael eu cynnal ar ein safleoedd hanesyddol trwy gydol y flwyddyn. Maent yn fach o ran graddfa, yn anfasnachol / nid er elw ac yn cynhyrchu’r effaith leiaf bosibl ar brofiad ein ymwelydd.
Beth yw Digwyddiad Cymunedol?
Mae digwyddiadau cymunedol sy’n cael eu cynnal ar ein safleoedd fel arfer yn gweithgareddau fel datganiadau côr a cherddoriaeth, gwasanaethau crefyddol neu ddigwyddiadau ar raddfa fach. Maent:
Yn ogystal:
Os nad ydy’r digwyddiad yn dilyn y rhestr uwchben, efallai y bydd angen codi costau staff neu bydd rhaid estyn ein oriau agored, neu bod rhaid dod ag offer digwyddiadau ychwanegol i’r safle. Yn yr achos yma, mae rhaid cofrestru’r digwyddiad trwy ein system llogi a dilyn y broses ymgeisio yma.
Dyma rhai enghreifftiau o ddigwyddiadau cymunedol:
Mae rhaid i bob grŵp cymunedol ddefnyddio ein ffurflen gais ar-lein (HYPERLINK) er mwyn cofrestru diddordeb i ddefnyddio unrhywun o’n henebion, a fydd hyn yn galluogi'r tîm i benderfynu a yw’r digwyddiad yn briodol ar gyfer y safle o dan sylw. Mae hyn hefyd yn ein hysbysu o unrhyw ofynion arbennig sydd gan yr ymgeisydd ac yn caniatáu inni gynghori’r grŵp cymunedol o unrhyw bryderon.
Dylai’r ffurflen gael ei chyflwyno o leiaf 30 diwrnod cyn y digwyddiad, ac yn gynharach os yn bosibl.
Bydd angen cyflwyno gyda’r ffurflen, gynllun digwyddiad, asesiad risg a chadarnhad y bydd yswiriant cyhoeddus ar waith i gwmpasu’r digwyddiad.
Byddwn yn asesu digwyddiadau ar y meini prawf canlynol:
Efallai y bydd angen i’r ymgeisydd / grŵp cymunedol ac aelod o Dîm Digwyddiadau Cadw gwrdd i drafod y digwyddiad, yn fwyaf tebygol ar y safle.
Mae hyn oherwydd bod llawer o’n safleoedd yn Henebion Rhestredig ac wedi’u gwarchod gan y gyfraith o dan Ddeddf Henebion ac Ardaloedd Archeolegol 1979. Cyn belled â bod y digwyddiad a gynlluniwyd yn cwrdd â’r meini prawf uchod i raddau boddhaol, ni ddylai fod angen Caniatâd Heneb Rhestredig.
Cytundeb
Asesir pob cais gan ddilyn y meini prawf uchod. Yna bydd penderfyniad yn cael ei wneud ynghylch a all y digwyddiad fynd yn ei flaen / neu a fyddem yn dymuno gweld newidiadau i’r hyn a gynigir er mwyn gallu darparu cytundeb.
Unwaith y bydd yr holl drefniadau ar waith, byddwn yn gyrru copi o Delerau ac Amodau Llogi Cadw i’r trefnydd. Heb fod yn hwyrach na 14 diwrnod calendr cyn y digwyddiad, bydd angen i chi ddarparu:
Cynllun digwyddiad terfynol
Bydd hyn yn manylu popeth a fydd y digwyddiad yn ei olygu yn ymarferol, y nifer o fynychwyr, y mesurau diogelwch, profiad trefnwyr y digwyddiad yn y gorffennol wrth gynnal digwyddiadau tebyg ac unrhyw ganiatâd arall sy’n ofynnol. Dylai’r cynllun nodi’n glir beth sydd i ddigwydd yn benodol ar y tir sydd ym mherchnogaeth Cadw.
Asesiadau risg llawn a therfynol
Mae asesiadau risg yn helpu i sicrhau diogelwch ymwelwyr â'r digwyddiad, ymwelwyr â'r safle a gwirfoddolwyr neu staff sy’n cynnal y digwyddiad, yn ogystal â chydymffurfio â deddfwriaeth iechyd a diogelwch berthnasol.
Nid yw’n ofynnol iddo ddileu pob risg ond dylai’r trefnydd gymryd camau sy’n ‘rhesymol ac ymarferol’. Rhaid bod tystiolaeth glir yn yr asesiad sy’n nodi systemau rheoli diogelwch da. Mae mwy o gyngor a thempledi safonol ar gael gan yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch neu’r ‘Purple Guide’.
Os bernir bod yr asesiad risg yn foddhaol rhoddir caniatâd i’r digwyddiad fynd ymlaen.
Prawf o yswiriant atebolrwydd cyhoeddus
Ar gyfer mwyafrif helaeth o digwyddiadau sydd angen caniatâd, disgwylir y bydd y trefnydd yn cynnal yswiriant cyhoeddus digonol am o leiaf £5 miliwn.
Rhaid i’r yswiriant cyhoeddus darparu yswiriant ar gyfer anafiadau a ddioddefir gan aelodau’r cyhoedd neu staff Cadw ac unrhyw ddifrod a wneir i’r safle / heneb sy’n codi oherwydd gweithgaredd digwyddiad neu ddiffyg diwydrwydd ar ran y trefnydd.
Ar gyfer mwyafrif helaeth o digwyddiadau sydd angen caniatâd, disgwylir y bydd y trefnydd yn cynnal yswiriant cyhoeddus digonol am o leiaf £5 miliwn.
Rhaid i’r yswiriant cyhoeddus darparu yswiriant ar gyfer anafiadau a ddioddefir gan aelodau’r cyhoedd neu staff Cadw ac unrhyw ddifrod a wneir i’r safle / heneb sy’n codi oherwydd gweithgaredd digwyddiad neu ddiffyg diwydrwydd ar ran y trefnydd.
Pwyntiau i’w hystyried cyn i chi wneud cais
Mae’n bwysig cofio mai ein gwasanaeth digwyddiadau cymunedol yw cefnogi a hwyluso’r defnydd am ddim o’n henebion mewn gofal, er mwynhad cymunedau lleol. Felly nid yw rhai gweithgareddau a allai niweidio ein safleoedd yn gymwys o dan y system ymgeisio digwyddiadau cymunedol. Mae’r rhain yn cynnwys:
Weithiau, byddwn yn hwyluso gweithgareddau brenhinol, milwrol neu weinidogol mewn safleoedd penodol. Fel corff cyhoeddus, ni allwn dderbyn ceisiadau am weithgareddau o natur wleidyddol fel ymgyrchu neu ganfasio.
Mae nifer fawr o leoedd rydyn ni’n gofalu amdanyn nhw’n henebion wedi’u rhestri sy’n golygu y byddai angen caniatâd ychwanegol arnyn nhw ar gyfer rhai gweithgareddau a digwyddiadau.
Byddwn hefyd yn gofyn:
Er mwyn cychwyn y broses ymgeisio am ddigwyddiad cymunedol, llenwch ein ffurflen gais ar-lein