Skip to main content

Cipio’r Castell: Brwydr Slam yng Nghastell Caerffili

Gweithgaredd i gefnogi ymwneud cymunedol ac addysgol yn sgil cynhyrchiad Theatr Genedlaethol Cymru o Macbeth, a berfformiwyd yng Nghastell Caerffili a’i ddarlledu ledled Cymru, oedd y digwyddiad.

Yn seiliedig ar brosiect hynod lwyddiannus ‘Slam Cymru’, gwahoddodd Llenyddiaeth Cymru, mewn partneriaeth â Theatr Genedlaethol Cymru, Cadw a Chastell Caerffili dair ysgol leol i frwydro yn erbyn ei gilydd yng Nghastell Caerffili gan ddefnyddio barddoniaeth ar thema Macbeth yn arfau. Sefydlwyd timau barddoniaeth mewn tair ysgol cyfrwng Cymraeg yn y de-ddwyrain. Arweiniwyd Ysgol Gartholwg gan Anni Llŷn, Bardd Plant Cymru; y Prifardd Cadeiriol Aneirin Karadog oedd arweinydd Ysgol Cwm Rhymni; a bardd Cadair Eisteddfod yr Urdd, Gwynfor Dafydd, oedd yn arwain Ysgol Gwynllyw.

Aeth y beirdd ar ymweliad â’r ysgolion i arwain gweithdai a ysbrydolwyd gan Macbeth Shakespeare, oedd yn cael ei lwyfannu yn Gymraeg gan y Theatr Genedlaethol yng Nghastell Caerffili rhwng 7–18 Chwefror 2017. Yn ystod y gweithdai bu’r disgyblion wrthi’n cyfansoddi ac yn dysgu perfformio barddoniaeth Slam wreiddiol, ac yn sgil hynny, roedden nhw wedi gallu meistroli sgiliau ysgrifennu a chyfathrebu newydd. Bu’r disgyblion hefyd yn archwilio’r ffordd yr oedd William Shakespeare a beirdd Cymreig o’r un cyfnod yn cyfansoddi ac yn perfformio’u gwaith.

Uchafbwynt y prosiect oedd digwyddiad mawr Cipio’r Castell: Brwydr Slam a gynhaliwyd ar ddydd Gwener Mawrth 10, pan aeth yr ysgolion benben â’i gilydd. Y cwestiwn mawr oedd, pwy fyddai’n cipio’r castell? Yn y pen draw, Ysgol Cwm Rhymni aeth â hi.