Mae enwau lleoedd hanesyddol yn rhan bwysig o'n treftadaeth, gan eu bod yn rhoi syniad da i ni o'r newidiadau ieithyddol, cymdeithasol a hanesyddol sydd wedi siapio Cymru. Maent yn etifeddiaeth gyfoethog i genedlaethau’r presennol a’r dyfodol. Caiff eu harwyddocâd ei gydnabod yn Neddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2023 sy'n ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru gynnal a chyhoeddi rhestr o enwau lleoedd hanesyddol Cymru.
Caiff y Rhestr o Enwau Lleoedd Hanesyddol Cymru ei rheoli gan Gomisiwn Brenhinol Henebion Cymru. Mae'r rhestr ar gael ar-lein a hefyd drwy gofnodion amgylchedd hanesyddol Cymru. Mae'r rhestr yn adnodd canolog a hawdd ei ddefnyddio sydd eisoes yn cynnwys bron i 350,000 o gofnodion. Bydd y rhestr yn tyfu wrth i ragor o enwau lleoedd gael eu casglu o wahanol ffynonellau hanesyddol.
Mae'r rhestr hefyd yn offeryn gwerthfawr i ymchwilwyr academaidd neu aelodau'r cyhoedd sy'n awyddus i wybod mwy am hanes eu heiddo neu eu hardal. Mae'r rheini sy'n defnyddio'r rhestr yn cael eu hannog hefyd i gyfrannu eu gwybodaeth eu hunain am enwau lleoedd penodol drwy gyflwyno sylwadau drwy’r system. Trwy wella ymwybyddiaeth y cyhoedd o bwysigrwydd enwau lleoedd hanesyddol Cymru bydd y rhestr yn annog eu defnydd parhaus o ddydd i ddydd.
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi canllawiau statudol ar gyfer awdurdodau lleol, awdurdodau'r Parciau Cenedlaethol a Cyfoeth Naturiol Cymru sy'n ei gwneud hi'n ofynnol i'r cyrff cyhoeddus hynny ystyried y rhestr o enwau lleoedd hanesyddol wrth ystyried enwi ac ailenwi strydoedd, eiddo a lleoedd eraill, boed yn uniongyrchol neu gan barti arall. Mae'r canllawiau yn cynnwys cyfarwyddiadau penodol ar gyfer awdurdodau lleol ynghylch cyflawni eu dyletswyddau statudol o ran enwi a rhifo strydoedd. Os bydd awdurdod yn derbyn cais i newid enw eiddo hanesyddol dylai annog yr ymgeisydd i gadw'r enw hanesyddol.