Skip to main content

Mae Din Lligwy yn creu delwedd ramantus o dreflan Geltaidd wedi'i chuddio yn y llwyn coediog.

Cytiau carreg wedi'u cadw'n dda mewn man caeëdig o'r cyfnod Rhufeinig-Frythonig. Yn anffodus, mae'r coed sydd o amgylch y safle yn rai eithaf diweddar. Pan fyddai pobl wedi bod yn byw yma byddai wedi bod yn agored, gyda golygfa hyfryd dros Fae Lligwy.

Yn ystod y cloddiad ar ddechrau'r ugeinfed ganrif, daethpwyd o hyd i arian a barddoniaeth. Roedd y rhain yn bennaf o'r drydedd a'r bedwaredd ganrif CC, gan ddangos bod y dreflan gaeedig hon wedi cael ei defnyddio'n ddiweddarach yng nghyfnod y Rhufeiniaid. Prydeinwyr lleol fyddai wedi bod yn byw yno, yn byw mewn tai crwn, ond wedi mabwysiadau llawer o ffordd o fyw'r Rhufeiniaid oedd wedi’u goresgyn.

Mae cloddiadau wedi datgelu amryw o adeiladau, gan gynnwys tai crwn a gweithdai neu ysguboriau hirsgwar. Mae gefeiliau smeltio a sorod haearn y cafwyd hyd iddynt yn rhai o'r adeiladau hyn yn awgrymu bod y safle'n cael ei ddefnyddio ar gyfer gwaith metel.

Daethpwyd o hyd i arian y Rhufeiniaid o'r drydedd a'r bedwaredd ganrif, crochenwaith, gwydr ac ingot arian bychan.