Skip to main content

Ymunwch â'r llu o bobl sy'n cefnogi Cadw a'n helpu ni i rannu 5,000 o flynyddoedd o hanes Cymru.

Rydym yn gofalu am 130 o safleoedd hanesyddol o amgylch Cymru gan gynnwys cestyll, abatai, gweithfeydd  haearn, bryngaerau a siambrau claddu. Mae dros 100 o'n safleoedd yn rhad ac am ddim i ymweld â nhw ac yn llawn straeon dramatig am orffennol cythryblus Cymru. Ond nid dyna'r cyfan rydyn ni’n ei wneud, mae Cadw hefyd yn gweithio i amddiffyn a chefnogi mewn sawl ffordd arall hefyd:

  • rydyn ni'n rhoi amddiffyniad cyfreithiol i leoedd o arwyddocâd hanesyddol arbennig
  • rydym yn cynnig arweiniad ar reoli newid i asedau hanesyddol
  • rydym yn darparu grantiau ar gyfer cadwraeth ac atgyweirio adeiladau hanesyddol
  • rydym yn hyrwyddo adfywio a datblygu trwy dreftadaeth
  • rydym yn adolygu polisi a chanllawiau deddfwriaeth.

Cyfrannwch i Cadw heddiw a helpwch ni i gadw ein straeon yn fyw trwy ein treftadaeth unigryw.

Sut i gymryd rhan a beth rydyn ni'n ei wneud

Faint a fynnid o ymweliadau â gorffennol Cymru

Ymunwch â Cadw am gyn lleied â £2.00 y mis a chael faint a fynnid o ymweliadau â thros 100 o safleoedd hanesyddol

Ymunwch â Cadw heddiw

Mwynhewch holl fanteision bod yn aelod o Cadw

  • 10% oddi ar siopau Cadw 
  • 50% oddi ar bris mynediad i safleoedd Treftadaeth Lloegr a’r Alban Hanesyddol
  • Mynediad AM DDIM i English Heritage a Historic Scotland wrth adnewyddu
  • Mynediad AM DDIM i eiddo Manx National Heritage 
  • Pecyn Aelodaeth AM DDIM yn cynnwys sticer car a map lliw llawn