Skip to main content

Partneriaid Cymunedol

Creu cyfleoedd drwy ddiwylliant

Cadw a Girlguiding Cymru

Mae’r Her Castell Cariad yn fenter newydd gan Girlguiding Cymru a Cadw, sy’n ceisio annog merched a gwirfoddolwyr i archwilio cestyll a safleoedd hanesyddol eraill yng Nghymru yn ogystal â chymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau hanes hwyliog.

Mae merched sy’n cwblhau’r her yn gallu derbyn tystysgrif a bathodyn.

Mae’r Her Castell Cariad yn ffordd wych i ferched o bob adran ddysgu am hanes Cymru, cael hwyl, a gwneud ffrindiau newydd. Mae hefyd yn ffordd wych o annog merched i fynd allan i’r awyr agored ac archwilio eu hardal leol.

Darganfyddwch fwy drwy ymweld â gwefan Girlguiding Cymru i gymryd rhan: Girlguiding Cymru

Dyma wybodaeth am ymweliadau addysgol am ddim i gestyll Cadw: Ymweliadau addysgol

Fusion

Cadw yw un o bartneriaid diwylliannol allweddol Cymru sy'n cefnogi rhaglen Cyfuno: Creu cyfleoedd drwy ddiwylliant ar y cyd ag Amgueddfa Cymru a Chyngor Celfyddydau Cymru. 

Gall diwylliant a threftadaeth gael effaith enfawr ar fywydau pobl. Mae'r rhaglen Cyfuno yn cyfrannu at‘Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol, ac yn arbennig o ran ‘Cymru o gymunedau cydlynus’ a ‘Cymru â diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu’.

Mae ‘Cynllun Cyflawni Cyfuno 2020–21’ a'r  Ffeithlun cysylltiedig yn rhoi trosolwg o'r Rhaglen bresennol, a gaiff ei gweithredu gan gydlynwyr Cyfuno yn yr ardaloedd canlynol — Caerdydd, Sir Gaerfyrddin, Conwy, Gwynedd, Castell-nedd Port Talbot, Casnewydd, Abertawe, Torfaen a Chaerffili — a'i chefnogi gan wahanol bartneriaid lleol a chenedlaethol.

I gael rhagor o wybodaeth am Cyfuno, neu i gymryd rhan yn y Rhaglen, cysylltwch â: cyfuno-fusion@gov.wales

Caerdydd — Amgueddfa Caerdydd

0300 111 2 333
Sir Gaerfyrddin Cyngor Sir Caerfyrddin

Suzanne Samuel

SSamuel@carmarthenshire.gov.uk

01554 742662 / 07789 874 758
Conwy — Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy

Shirley Williams

shirley.williams1@conwy.gov.uk

01492 574628
Gwynedd — Cyngor Gwynedd (mae'r cydgysylltwyr yn rhannu'r swydd yn rhan-amser)

Chloe Jane Ward

cyfuno@gwynedd.llyw.cymru

N/A

Helen Marie Walker

helenmariewalker@gwynedd.llyw.cymru

07814604130
Casnewydd / Cyngor Dinas Casnewydd 

Emma Newrick

Culture and Heritage Team Manager

Emma.Newrick@newport.gov.uk
Castell-nedd Port Talbot / Tai Tarian

Janet Weaver

janet.weaver@taitarian.co.uk

01639 505922
Torfaen a Chaerffili Cyngor Bwrdeistref Sirol 

Torfaen a Chyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili

Janine Reed

Janine.Reed@torfaen.gov.uk

07939536645
Abertawe — Dinas a Sir Abertawe

Dean Kelly

Dean.Kelly@swansea.gov.uk

Credydau amser tempo yng Nghymru

Mae Cadw yn bartner sy’n cefnogi rhaglen Tempo Cymru Gyfan a ariennir gan Lywodraeth Cymru.

Rydym yn ei gwneud yn bosibl i ddeiliaid credydau Tempo gael mynediad am ddim i’n safleoedd treftadaeth Ymweliadau’r Cynllun Bancio Amser | Cadw (llyw.cymru) ac rydym yn gweithio gyda Tempo i ehangu’r rhwydwaith o gyfleoedd.

Mae rhaglen Tempo Cymru Gyfan yn creu cymuned ‘Credydau Amser’ genedlaethol y bwriedir iddi annog, cydnabod a gwobrwyo gwaith gwirfoddol ar draws y wlad. Mae’n ceisio mynd i’r afael ag effeithiau tlodi ar gymunedau ac yn ceisio ysgogi gweithredu cymdeithasol lleol drwy wirfoddoli yn ogystal â chynorthwyo ardaloedd i gyflawni eu nodau llesiant lleol, sy’n cynnwys annog ymddygiad cynaliadwy a defnydd effeithlon o adnoddau. O ganlyniad i’r prosiect, y gobaith yw y bydd cymunedau yng Nghymru yn cael budd o seilwaith sy’n hybu cymunedau â chysylltiadau gwell, drwy gydlyniant a chymorth, ac y bydd Cymru yn wlad fwy cyfartal ac iach.

Yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf, mae dros 560 o grwpiau cymunedol wedi ymuno â rhwydwaith Credydau Amser Tempo ar draws Cymru, gan alluogi 4,222+ o wirfoddolwyr i gael eu cydnabod â thros 50,000 o Gredydau Amser Tempo.

I gael rhagor o wybodaeth am Tempo neu gymryd rhan yn y rhaglen, cysylltwch ag un o Gydlynwyr Rhanbarthol Tempo:

  • Morgan Slate

Rheolwr Cymunedau a Phartneriaethau – mae’n gyfrifol am recriwtio grwpiau ennill, eu hyfforddi a’u cael i ymuno.

morganslate@wearetempo.org

  • Amy Cole

Rheolwr Cymunedau a Phartneriaethau – De a Chanolbarth Cymru – mae’n gyfrifol am reoli grwpiau ennill, cynyddu capasiti a darparu cymorth.

amycole@wearetempo.org

  • Emily Evans

Rheolwr Cymunedau a Phartneriaethau – Gorllewin a Gogledd Cymru – mae’n gyfrifol am reoli grwpiau ennill, cynyddu capasiti a darparu cymorth.

emilyevans@wearetempo.org

  • Jacob Mackenzie

Swyddog Cyswllt Partneriaid Cydnabod – mae’n gyfrifol am ddatblygu ‘Rhwydwaith Partneriaid Cydnabod Cymru Gyfan’.

jacobmackenzie@wearetempo.org

  • Prif Swyddfa

UNED 2, 58-62 HEOL ORLLEWINOL Y BONT-FAEN, CAERDYDD, CF5 5BS

029 2056 6132 O DDYDD LLUN I DDYDD GWENER

HELLO@WEARETEMPO.ORG