Skip to main content

Yn ystod archwiliadau cynnal a chadw rheolaidd o'ch adeilad hanesyddol, cofiwch gymryd ychydig funudau i edrych yn iawn ar yr ardal o'ch cwmpas. Efallai na fydd wal gardd sy'n dadfeilio, rheiliau sy'n rhydu, neu gangen coeden sy'n dechrau hongian dros eich to yn ymddangos fel materion cynnal a chadw brys, ond cofiwch ei bod bob amser yn well mynd i'r afael â phroblemau tra eu bod yn fach ac yn hawdd i'w cywiro. Mae'n hawdd peidio â sylwi ar broblemau sy'n datblygu y tu allan i'r tŷ, felly sicrhewch eich bod yn archwilio eich carffos neu danc carthion ac unrhyw danciau tanwydd a allai fod gennych. Edrychwch i weld pa ffordd y mae dŵr glaw yn rhedeg ar draws llwybrau ac ati yn ystod storm.

Beth i'w archwilio ac i edrych amdano:

Llystyfiant; llwybrau a thramwyfeydd wedi'u cracio neu'u difrodi; pantiau neu arwyddion o ymgodiad; grisiau sy'n rhydd, wedi'u treulio neu wedi'u difrodi

Camau i'w cymryd:

Gwnewch yn siŵr bod llwybrau, tramwyfeydd a grisiau yn sownd, heb unrhyw lystyfiant ac na fyddant yn gwneud i unrhyw un faglu.

Gellir cael gwared yn effeithiol ar fwsogl ac algâu, sy'n gallu bod yn llithrig iawn os ydynt yn wlyb, drwy ddefnyddio peiriant golchi pwerus. Gwisgwch bâr o gogls a chyfeiriwch y dŵr i ffwrdd oddi wrth adeiladau, waliau ac ardaloedd nad ydynt yn draenio'n dda. Mewn sefyllfaoedd lle nad yw'n addas defnyddio peiriant golchi pwerus, defnyddiwch lanhäwr patio masnachol. Ceisiwch osgoi cynhyrchion sy'n cynnwys asid hydroclorig neu gannydd oherwydd gallant newid lliw rhai mathau o gerrig.

Gall planhigion mwy o faint sy'n hau eu hunain, wneud difrod difrifol i lwybrau a thramwyfeydd os gadewir iddynt dyfu yn ddirwystr. Ceisiwch gael gwared ar lystyfiant cyn iddo ledaenu, gan ddefnyddio chwynladdwr systemig ar blanhigion gwydn, fel iorwg a chlymog Japan. Os ydych yn gwneud y toddiant gan ddefnyddio crynodiad, ychwanegwch damaid o hylif golchi llestri, sy'n gweithredu fel cyfrwng gwlychu, gan ei fod yn helpu'r chwynladdwr i lynu wrth y dail. Atgyweiriwch unrhyw graciau sydd ar ôl yn wyneb y llwybr neu'r dramwyfa er mwyn atal rhagor o hadau rhag bwrw gwreiddiau.

Os bydd llwybrau a thramwyfeydd solet yn sadio ac yn ymgodi, yn enwedig ar ôl rhew, gall hyn fod yn arwydd o broblemau draenio, fel ffosydd cerrig diffygiol, y dylid ymchwilio iddynt ymhellach. Fel arall, efallai mai gwreiddiau coed cyfagos sy'n gyfrifol am y difrod. Gofynnwch am gyngor gan syrfëwr adeiladu neu bensaer a meddyg coed profiadol os oes coed neu lwyni yn peri problemau. 

Trefnwch fod unrhyw risiau sy'n rhydd neu wedi'u difrodi yn cael eu hatgyweirio.

Beth i'w archwilio ac i edrych amdano:

Llystyfiant

Camau i'w cymryd:

Cadwch olwg am blanhigion sy'n ymledu a cheisiwch gael gwared arnynt neu'u rheoli.

Er bod planhigion blodeuol bach, fel llin y fagwyr a llysiau'r llwynog, yn gallu edrych yn ddeniadol ar wal derfyn, dylid cymryd gofal i sicrhau nad yw llystyfiant yn ymledu. Gall iorwg, er enghraifft, orchuddio wal gyfan yn gyflym, mae'n anodd ei ladd ac os na chewch wared arno yn ofalus, gallwch ddifrodi'r uniadau morter a cherrig neu frics meddal. Tociwch blanhigion ymledol yn rheolaidd i'w rheoli.

----------------

Beth i'w archwilio ac i edrych amdano:

Gwaith pwyntio sydd wedi'i ddifrodi neu ar goll; cerrig rhydd, yn enwedig cerrig copa

Camau i'w cymryd:

Atgyweiriwch waliau sydd wedi'u difrodi a gwnewch waith ailbwyntio gan ddefnyddio morter sydd yr un fath â'r gwreiddiol. Morter calch fydd hwn yn y rhan fwyaf o achosion.

---------------

Beth i'w archwilio ac i edrych amdano:

Craciau, chwyddau ac arwyddion eraill o symudiadau

Camau i'w cymryd:

Os oes arwyddion bod wal yn symud, fel chwyddau neu graciau, ac os yw'r rhain wedi digwydd yn ddiweddar neu'n gwaethygu, gofynnwch i beiriannydd strwythurol am gyngor.

--------------

Beth i'w archwilio ac i edrych amdano:

Pothelli yn y paent a rhwd ar waith metel, yn enwedig mewn holltau ac uniadau. Toriadau ac elfennau coll

Camau i'w cymryd:

Cadwch lygad ar gyflwr y paent ac ailaddurnwch bob 3 i 4 blynedd.

Beth i'w archwilio ac i edrych amdano:

Canghennau'n bargodi dros yr adeilad; coed neu lwyni sydd wedi'u heintio, sy'n marw neu wedi marw

Camau i'w cymryd:

Archwiliwch goed a llwyni am broblemau neu arwydd o glefyd. Torrwch ganghennau sy'n bargodi dros yr adeilad.

Ymhlith yr arwyddion i chwilio amdanynt mae gwywo, cancr, pydredd, ceudodau mewn bonion a ffwngws yn tyfu ar waelod y goeden neu o'i hamgylch.

Cyn gwneud unrhyw waith ar goeden, gofynnwch i'r awdurdod cynllunio lleol a yw'r goeden wedi'i diogelu o dan Orchymyn Cadw Coed neu a yw mewn Ardal Gadwraeth. 

Cyflogwch feddyg coed profiadol i wneud unrhyw waith sy'n golygu mwy na gwaith tocio mân y gellir ei wneud yn ddiogel o'r ddaear. Trefnwch fod unrhyw ganghennau sy'n bargodi dros yr adeilad, a choed a llwyni sydd wedi marw neu sydd wedi'u heintio, yn cael eu torri. Gall torri canghennau sy'n bargodi dros yr adeilad helpu i leihau'r tebygolrwydd y caiff cafnau eu blocio gan ddail, a bydd hefyd yn caniatáu i fwy o aer gylchredeg o gwmpas yr adeilad.

 

Beth i'w archwilio ac i edrych amdano:

Pibellau wedi byrstio

Camau i'w cymryd:

Gwnewch yn siŵr eich bod yn gwybod ble mae stopfalf y brif bibell ddŵr a'r pibellau dŵr allanol. Deliwch gyda phibellau sydd wedi byrstio ar unwaith er mwyn osgoi gwastraffu dŵr.

Anaml iawn y bydd angen diffodd y brif bibell ddŵr yn y man lle mae'n dod ar eich safle, ond mae'n ddoeth gwybod ble mae'r stopfalf, rhag ofn. Fel arfer, mae'r stopfalf ychydig y tu allan i'ch safle ar lwybr troed neu ffordd. Os yw'n bosibl, ceisiwch ddarganfod ble mae'r pibellau sy'n rhedeg rhwng y stopfalf a'ch adeilad, yn enwedig os ydych yn bwriadu gwneud gwaith cloddio yn yr ardal. Chi sy'n gyfrifol am atgyweirio'r pibellau sydd ar eich ochr chi o'r stopfalf. Diffoddwch y brif bibell ddŵr a ffoniwch blymer os oes unrhyw broblemau.

Dylid rhoi gwybod ar unwaith i'r cwmni cyflenwi dŵr lleol am unrhyw bibell ddŵr sydd wedi byrstio ar ochr arall y stopfalf.

Beth i'w archwilio ac i edrych amdano:

Arogl nwy

Camau i'w cymryd:

Os byddwch yn clywed gwynt nwy y tu allan i'ch adeilad, diffoddwch unrhyw gyfarpar, diffoddwch y cyflenwad nwy a ffoniwch Linell Argyfwng Nwy y Grid Cenedlaethol am ddim ar 0800 111 999.

Yn achos nwy naturiol, bydd y falf ddiffodd ym mlwch y mesurydd nwy. Fel arfer, blwch gwyn yw hwn sydd ar flaen eich adeilad. Os yw blwch y mesurydd y tu allan, bydd angen i chi ddefnyddio allwedd i'w agor, felly cadwch yr allwedd mewn man cyfleus. Peidiwch ag ysmygu na defnyddio switshis golau, offer trydanol eraill na ffonau symudol, a allai achosi gwreichionen. Diffoddwch unrhyw fflamau agored.

Am fwy o wybodaeth am ddiogelwch nwy gweler www.gassaferegister.co.uk

Beth i'w archwilio ac i edrych amdano:

LPG - Arogl nwy neu danciau, gosodiadau a phibellau sydd wedi'u difrodi neu wedi rhydu

Camau i'w cymryd:

Archwiliwch eich tanc, y gosodiadau a'r pibellau am arogl nwy ac arwyddion o rydu, afliwio, a chraciau mawr a mân. Trefnwch fod eich cyflenwr LPG yn cynnal archwiliad bob blwyddyn.

Gwnewch yn siŵr nad oes rhwystrau yn yr ardal o amgylch y tanc a bod modd mynd ato yn hawdd. Sicrhewch nad oes unrhyw sbwriel na deunydd llosgadwy yn yr ardal ac nad yw chwyn a phorfa yn tyfu'n uchel. Os yw'r pibellau'n rhedeg o dan y ddaear, gwnewch yn siŵr eich bod yn gwybod ble y maent er mwyn osgoi eu difrodi'n ddamweiniol.

Mae'n debyg y bydd label ar eich tanc yn egluro beth i'w wneud os bydd yn dechrau gollwng. Ar yr amod ei bod yn ddiogel i chi fynd ato, caewch y falf wagio ar y tanc er mwyn diffodd y llif nwy. Ffoniwch eich cyflenwr LPG i ddod i ddiogelu'r system. Bydd eich cyflenwr yn rhoi rhif cyswllt 24 awr i chi i'w ddefnyddio mewn argyfwng. Peidiwch ag ysmygu na defnyddio switshis golau, offer trydanol eraill na ffonau symudol, a allai achosi gwreichionen. Diffoddwch unrhyw fflamau agored.

-------------------

Beth i'w archwilio ac i edrych amdano:

Olew - Gollyngiadau, neu danc, bwnd, gosodiadau a phibellau sydd wedi'u difrodi neu wedi rhydu

Camau i'w cymryd:

Archwiliwch eich tanc a'r gosodiadau, y pibellau a'r bwnd am ollyngiadau ac arwyddion o rydu, staeniau olew, afliwio a chraciau mawr a mân. Trefnwch fod eich tanc a'ch boeler yn cael eu harchwilio'n flynyddol gan dechnegydd sydd wedi'i gofrestru ag OFTEC.

Gwnewch yn siŵr bod eich polisi yswiriant yn cynnwys cost y gwaith o lanhau'r olew a phrynu mwy o olew os bydd yn dechrau gollwng.

Peidiwch ag ysmygu na chaniatáu fflamau agored gerllaw'r tanc neu'r pibellau. Gwnewch yn siŵr nad oes rhwystrau yn yr ardal o amgylch y tanc a bod modd mynd ato yn hawdd. Os yw'r pibellau'n rhedeg o dan y ddaear, gwnewch yn siŵr eich bod yn gwybod ble y maent er mwyn osgoi eu difrodi'n ddamweiniol.

Dylai fod sticer ar eich tanc yn esbonio beth i'w wneud os bydd olew yn dechrau gollwng. Os nad yw yno, gallwch gael un newydd gan Asiantaeth yr Amgylchedd. Os yw'r pibellau yn gollwng, defnyddiwch y falf ynysu i ddiffodd y cyflenwad olew o'r tanc. Mae'r falf hon ar y bibell ollwng fel arfer.

Cadwch becyn gollyngiadau bach wrth law. Gallwch brynu'r pecynnau hyn yn barod neu gallwch wneud rhai eich hunan. Dylent gynnwys y canlynol o leiaf; menig rwber, deunydd amsugnol, cynhwysydd i gasglu a storio'r deunydd glanhau, a phwti selio.

Ceisiwch atal olew rhag mynd i mewn i ddraeniau neu gyrsiau dŵr. Ar wyneb caled, gellir gwneud hyn drwy osod tywod neu bridd i ddal yr olew yn ei le. Peidiwch â golchi'r ardal gan y byddwch yn lledaenu'r olew a pheidiwch â defnyddio glanhawyr. Ffoniwch Linell Argyfwng Llygredd y DU ar 0800 80 70 60 am gyngor.

Am fwy o gyngor ar danciau olew ewch i www.oftec.org.

Beth i'w archwilio ac i edrych amdano:

Elifion o gwmpas siambrau archwilio, arogleuon neu doiledau sy'n fflysio'n araf neu'n gorlifo

Camau i'w cymryd:

Archwiliwch y system i sicrhau ei bod yn gweithio'n effeithlon ac nad oes unrhyw broblemau amlwg i'w gweld.

Mae pob eiddo sydd wedi'i gysylltu â'r system yn gyfrifol am garthffosydd preifat, hyd at y fan lle ceir cysylltiad â'r garthffos gyhoeddus a chan gynnwys y fan honno.

Gwnewch yn siŵr nad yw gorchuddion siambrau archwilio wedi torri gan y gall hyn ddenu llygod mawr, a pheidiwch ychwaith â gadael i ddeunyddiau fel cerrig a phridd fynd i mewn i'r bibell a'i blocio. Yn draddodiadol, roedd gorchuddion archwilio wedi'u gwneud o haearn bwrw, sy'n gallu torri os rhoddir ergyd drom iddo. Wrth osod gorchudd newydd mewn ardal a gaiff ei defnyddio gan gerbydau, gwnewch yn siŵr bod y gorchudd newydd yn ddigon cryf i wrthsefyll y pwysau.

Os oes gennych doiled sy'n fflysio'n araf neu'n gorlifo, mae bron yn sicr ei fod wedi blocio. Yn y tro yn y bibell y tu ôl i'r toiled y mae'r rhan fwyaf o flociadau'n digwydd, felly ceisiwch glirio'r ardal hon yn gyntaf.  Os na fydd hyn yn gweithio neu os oes arogleuon neu elifion yn arllwys allan o gwmpas y siambr archwilio, ffoniwch am blymer oni bai bod gennych rodenni draen a'ch bod yn teimlo'n hyderus i'w defnyddio.

Os ydych yn rhannu carthffos a'ch bod yn siŵr nad eich rhan chi o'r system sydd wedi'i blocio, siaradwch â'ch cymdogion neu cysylltwch ag Adran Iechyd yr Amgylchedd eich awdurdod lleol am gyngor.

Gall carthffosydd gael eu difrodi gan wreiddiau coed a llwyni ac os felly, gofynnwch am gyngor gan beiriannydd strwythurol. Fodd bynnag, caiff y rhan fwyaf o flociadau eu hachosi gan bobl yn fflysio gormod o bapur neu ddeunyddiau anaddas i lawr y toiled. Gall y rhain gynnwys ffyn bach cotwm (cotton buds), gwlân cotwm, tywelion papur, leininau cewynnau tafladwy neu eitemau glanweithdra personol i ferched. Ni ddylid byth fflysio'r rhain i lawr y toiled oherwydd gallant fynd yn sownd yn y system, gan wneud i ddeunydd gronni y tu ôl iddynt.

system, gan wneud i ddeunydd gronni y tu ôl iddynt.

Os oes problem â'r carthffosydd cyhoeddus, cysylltwch â'r cwmni dŵr neu garthffosiaeth lleol a'r awdurdod lleol.

Beth i'w archwilio ac i edrych amdano:

Arogleuon, toiledau sy'n fflysio'n araf neu'n gorlenwi, elifion neu bantiau ar y llawr ger y siambrau archwilio, y tanc carthion, y carthbwll neu'r ganolfan drin

Camau i'w cymryd:

Archwiliwch y system i sicrhau ei bod yn gweithio'n effeithlon ac nad oes unrhyw broblemau amlwg.

Gwnewch yn siŵr nad oes unrhyw beth ar ben y gorchuddion awyru a'u bod mewn cyflwr da. Gwnewch yn siŵr nad yw gorchuddion siambrau archwilio wedi torri gan y gall hyn ddenu llygod mawr, a pheidiwch ychwaith â gadael i ddeunyddiau fel cerrig a phridd fynd i mewn i'r bibell a'i blocio. Yn draddodiadol, roedd gorchuddion archwilio wedi'u gwneud o haearn bwrw, sy'n gallu torri os rhoddir ergyd drom iddo. Wrth osod gorchudd newydd mewn ardal a gaiff ei defnyddio gan gerbydau, gwnewch yn siŵr bod y gorchudd newydd yn ddigon cryf i wrthsefyll y pwysau.

Mae tanciau carthion a chanolfannau trin yn dibynnu ar facteria i dreulio'r elifion hylifol a gall unrhyw beth a roddwch yn y system effeithio ar y bacteria hyn. Peidiwch â fflysio cemegau, fel gwirod gwyn, saim neu feddyginiaethau, i lawr y draen, a pheidiwch â defnyddio llawer o gannydd na chyfryngau glanhau biolegol oherwydd byddant yn lladd y bacteria naturiol.

Defnyddiwch gontractwr gwaredu gwastraff trwyddedig sydd â'r trwyddedau angenrheidiol i wacáu ac archwilio cyflwr tanciau carthion, carthbyllau a chanolfannau trin o leiaf unwaith y flwyddyn. Bydd pa mor aml y bydd angen gwneud hyn yn dibynnu ar faint y system a faint o bobl sy'n ei defnyddio. Dilynwch argymhellion y gweithgynhyrchydd bob amser a gofynnwch am gyngor gan gontractwr gwaredu gwastraff os ydych yn ansicr neu'n cael unrhyw broblemau.

Os oes gennych doiled sy'n fflysio'n araf neu'n gorlifo, ac os yw'r system wedi cael ei gwagio yn ddiweddar, mae bron yn sicr bod rhywbeth wedi'i flocio. Yn y tro yn y bibell y tu ôl i'r toiled y mae'r rhan fwyaf o flociadau'n digwydd, felly ceisiwch glirio'r ardal hon yn gyntaf.  Os na fydd hyn yn gweithio neu os oes arogleuon neu elifion yn arllwys allan o gwmpas y siambr archwilio, ffoniwch am blymer oni bai bod gennych rodenni draen a'ch bod yn teimlo'n hyderus i'w defnyddio.

Gall carthffosydd gael eu difrodi gan wreiddiau coed a llwyni ac os felly, gofynnwch am gyngor gan beiriannydd strwythurol. Fodd bynnag, caiff y rhan fwyaf o flociadau eu hachosi gan bobl yn fflysio gormod o bapur neu ddeunyddiau anaddas i lawr y toiled. Gall y rhain gynnwys ffyn bach cotwm (cotton buds), gwlân cotwm, tywelion papur, leininau cewynnau tafladwy neu eitemau glanweithdra personol i ferched. Ni ddylid byth fflysio'r rhain i lawr y toiled oherwydd gallant fynd yn sownd yn y system, gan wneud i ddeunydd gronni y tu ôl iddynt.

Mae carthbyllau yn systemau sydd wedi'u selio, ond mae gan danciau carthion a chanolfannau trin bibell ollwng i arllwys y gwastraff hylifol ar ôl iddo fynd drwy'r tanc. Yn achos tanciau carthion, caiff yr hylif ei arllwys i'r tir drwy system ffosydd cerrig sy'n cynnwys cyfres o bibellau tyllog. Rhaid bod y rhain o fewn y tair troedfedd (un metr) uchaf o bridd er mwyn i'r bacteria naturiol weithio, felly gallant gael eu difrodi'n hawdd, a byddwch yn ofalus wrth drin y tir yn ardal y ffosydd cerrig.

Gall ffosydd cerrig achosi problemau, yn enwedig mewn pridd cleiog yn ystod misoedd y gaeaf pan fo'r lefel trwythiad yn debygol o fod yn uwch. Gall hyn atal yr hylif rhag draenio i ffwrdd. Yn ogystal â'r arwyddion arferol sy'n awgrymu bod blociad, mae arwyddion eraill yn cynnwys elifion ac ardaloedd corslyd neu bantiau yn y tir o gwmpas y tanc neu'r siambrau archwilio. Os gwelwch unrhyw rai o'r arwyddion hyn gofynnwch am gyngor y contractwr sy'n gwagio eich tanc.

Mae canolfannau trin yn cynnwys rotor trydan, sy'n golygu eu bod yn trin y gwastraff yn fwy effeithlon na thanciau carthion. O ganlyniad, gall y gwastraff gael ei arllwys i gwrs dŵr neu ffos - gyda chaniatâd priodol Asiantaeth yr Amgylchedd ac Adran Rheoli Adeiladu eich awdurdod lleol. Mae canolfannau trin yn ddefnyddiol mewn sefyllfaoedd lle nad yw cyflwr y tir yn addas ar gyfer ffos gerrig, ond rhaid eu cynnal a'u cadw'n briodol ac yn rheolaidd. Dilynwch argymhellion y gweithgynhyrchydd bob amser a lluniwch gontract cynnal a chadw gyda chwmni a gymeradwyir gan y gweithgynhyrchydd.