Skip to main content

Arolwg Abaty Nedd — Hysbysiad Preifatrwydd

Mae Cadw, sy'n rhan o Lywodraeth Cymru, yn asesu effaith bosibl ei safleoedd ar y gymuned leol, pobl Cymru ac ymwelwyr, yn rheolaidd.

Mae gan safleoedd hanesyddol yng Nghymru y potensial i wella lles ac ymgysylltu'n gadarnhaol â'r cymunedau y maent wedi'u lleoli ynddynt, yn ogystal â denu ymwelwyr a bod o fudd i’r economi.

Mae'r arolwg presennol yn ymwneud ag Abaty Nedd a'i nod yw:

  • sefydlu barn y gymuned ar ddatblygu a defnyddio Abaty Nedd yn y dyfodol
  • sefydlu’r lefelau presennol o ymgysylltu â'r gymuned
  • mesur effaith Abaty Nedd a henebion hanesyddol eraill ar les y rhai sy'n byw yn ardal Abaty Nedd.

Llywodraeth Cymru yw'r rheolydd data. Bydd Cadw yn dileu data personol cyn ysgrifennu'r adroddiad ac ni fydd yn darparu data y gellir ei adnabod yn bersonol i eraill yn Llywodraeth Cymru oni bai eich bod yn gofyn i ni wneud hynny.

Bydd y wybodaeth a gesglir yn ystod y prosiect yn cael ei rhannu'n fewnol o fewn Cadw mewn fformat dienw. 

Mae eich cyfranogiad yn yr ymchwil hon yn gwbl wirfoddol. Os hoffech gymryd rhan mewn raffl am aelodaeth Cadw, gofynnir i chi roi eich cyfeiriad e-bost. Bydd eich adborth o'r arolwg yn helpu Cadw i wella profiad yr ymwelydd yn Abaty Nedd.

Hysbysiad Preifatrwydd

Diffinnir data personol o dan Reoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data (GDPR y DU) fel 'unrhyw wybodaeth sy'n ymwneud â pherson adnabyddadwy y gellir ei adnabod yn uniongyrchol neu'n anuniongyrchol drwy gyfeirio at ddynodwr'.

Rydych wedi cyrchu dolen neu god QR ar gyfer yr arolwg o daflenni, y cyfryngau cymdeithasol, drwy wefan Cadw, neu drwy hysbysebu ar lafar. Nid yw'n ofynnol i chi ddarparu unrhyw fanylion personol wrth gwblhau'r arolwg ac nid yw eich cyfeiriad e-bost na'ch cyfeiriad IP yn cael eu casglu wrth gwblhau’r arolwg. Felly, mae'r ymatebion i'r arolwg yn ddienw.

Fodd bynnag, gofynnir i chi am eich cyfeiriad e-bost os ydych am gymryd rhan yn y raffl am aelodaeth Cadw. Mae hyn yn gwbl wirfoddol, ac nid oes angen i chi roi eich cyfeiriad e-bost os nad ydych yn dymuno cymryd rhan. Bydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gasglu mewn set ddata wahanol, nad yw'n gysylltiedig â'ch ymatebion i'r arolwg. 

Os byddwch yn dewis cymryd rhan yn ein raffl ac wedi rhoi eich cyfeiriad e-bost ar ddiwedd yr arolwg, bydd Llywodraeth Cymru (Cadw) yn tynnu’r raffl ar 21 Chwefror 2022. Cysylltir ag enillwyr y raffl a bydd gofyn iddynt hawlio eu gwobr o fewn pum diwrnod gwaith. Byddwn yn tynnu’r raffl hyd at dair gwaith i ddod o hyd i’r enillwyr ac os na chaiff y wobr ei hawlio ar ôl y cyfnod hwn, bydd y dynfa yn annilys ar gyfer y wobr benodol. Bydd y set ddata o gyfeiriadau e-bost y rhai sy’n cymryd rhan yn cael ei dileu ddydd Gwener 11 Mawrth. Ar gyfer Telerau ac Amodau llawn y gystadleuaeth, ewch i https://cadw.llyw.cymru/telerau-ac-amodau-arolwg-ar-gyfer-abaty-nedd

I’r enillwyr sy’n dewis derbyn y wobr, sef aelodaeth Cadw, bydd Cadw yn rhannu eich cyfeiriad e-bost gydag Golley Slater, asiantaeth trydydd parti, a fydd yn rheoli gweinyddiaeth gyffredinol eich aelodaeth Cadw; a Mediascene, a fydd yn gweinyddu dosbarthiad eich copi am ddim o gylchgrawn Treftadaeth yng Nghymru. Yna gofynnir i chi roi mwy o ddata er mwyn prosesu eich aelodaeth a bydd eich manylion, o'r pwynt hwn ymlaen, yn ddarostyngedig i'r Hysbysiad Preifatrwydd ar gyfer cynllun aelodaeth Cadw. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i'n polisi preifatrwydd Polisi preifatrwydd | Cadw (llyw.cymru). Ar gyfer Telerau ac Amodau llawn eich aelodaeth, ewch i Telerau ac amodau (llyw.cymru).

Ar 21 Chwefror 2022, bydd holl ddata'r arolwg yn cael ei drosglwyddo o SmartSurvey i ffeiliau prosiect Llywodraeth Cymru. Dim ond y tîm ymchwil fydd â mynediad i’r ffolderi prosiect hyn. Ar y pwynt hwn, byddwn yn dileu unrhyw fanylion adnabyddadwy sy'n ymddangos mewn ymatebion i gwestiynau agored. 

Y sail gyfreithlon ar gyfer prosesu gwybodaeth yn yr ymarfer casglu data hwn yw ein tasg gyhoeddus; hynny yw, arfer ein hawdurdod swyddogol i ymgymryd â rôl a swyddogaethau craidd Llywodraeth Cymru.

Mae cyfranogiad yn gwbl wirfoddol. Mae astudiaethau ymchwil fel hyn yn bwysig i Lywodraeth Cymru (Cadw) gasglu gwybodaeth a thystiolaeth ymarferol am ei gallu i gyflawni blaenoriaethau'r llywodraeth. Bydd y wybodaeth a gesglir yn yr ymchwil hon yn cyfrannu at gynlluniau datblygu ar gyfer Abaty Nedd a chorff gwaith ehangach Cadw sy'n edrych ar y berthynas rhwng ymgysylltu â henebion hanesyddol yng Nghymru a lles.

Mae gwybodaeth bersonol a roddir i Cadw yn cael ei storio ar weinydd diogel. Dim ond nifer cyfyngedig o weithwyr Cadw all gael mynediad at y data, a byddant yn defnyddio'r data hwn at ddibenion ymchwil yn unig. 

Bydd eich ymatebion i'r arolwg a'ch cyfeiriad e-bost, os ydych am gymryd rhan yn y raffl, yn cael eu cadw mewn setiau data gwahanol.

Wrth gynnal arolygon, mae Cadw’n defnyddio rhaglen feddalwedd arolwg o'r enw SmartSurvey. Rydym wedi sicrhau bod Smart Survey yn cydymffurfio â GDPR y DU ac yn bodloni’n disgwyliadau o ran diogelwch unrhyw ddata a gesglir drwy'r feddalwedd. Caiff yr holl ddata ei brosesu yn y DU.

Mae gan Lywodraeth Cymru weithdrefnau i ddelio ag unrhyw achosion tybiedig o dorri rheolau diogelwch data. Os bydd achos tybiedig o dorri rheolau diogelwch data, byddwn yn rhoi gwybod i chi ac unrhyw reoleiddiwr perthnasol lle mae'n ofynnol yn ôl y gyfraith i ni wneud hynny.

Bydd yr holl ddata a gesglir drwy'r ymchwil hon yn cael ei adrodd mewn fformat dienw. Ni fydd yn cynnwys eich manylion cyswllt a bydd unrhyw wybodaeth adnabyddadwy mewn atebion penagored yn cael ei dileu. 

Bydd yr holl gyfeiriadau e-bost a gedwir gan Cadw (Llywodraeth Cymru) yn cael eu dileu ar 11 Mawrth 2022, ar ôl cwblhau tynnu’r raffl.

Bydd holl ddata'r arolwg yn ddienw cyn cael ei drosglwyddo i ffolderi prosiect Llywodraeth Cymru, megis nodi testun mewn cwestiynau agored. 

Ar gyfer holl enillwyr y wobr, bydd y wybodaeth a gedwir gan Golley Slater i brosesu eich aelodaeth yn cael ei chadw yn unol â'n polisi preifatrwydd aelodaeth polisi preifatrwydd Polisi preifatrwydd | Cadw (llyw.cymru).

O dan GDPR y DU, mae gennych yr hawliau canlynol mewn perthynas â'r wybodaeth bersonol a roddir gennych fel rhan o'r arolwg hwn; mae gennych yr hawl:

  • i gael mynediad at gopi o'ch data eich hun
  • i ni gywiro anghywirdebau yn y data hwnnw
  • i wrthwynebu neu gyfyngu ar brosesu (mewn rhai amgylchiadau)
  • i gael eich data wedi’i 'ddileu' (mewn rhai amgylchiadau)
  • i gyflwyno cwyn i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO), sef y rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer diogelu data.

Gallwch gysylltu â Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth yn:

Information Commissioner
Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Cheshire
SK9 5AF

Ffôn: 01625 545 745 neu 0303 123 1113

Gwefan: Information Commissioner’s Office

Os oes gennych ragor o gwestiynau am sut y bydd y data a roddir fel rhan o'r astudiaeth hon yn cael ei ddefnyddio gan Lywodraeth Cymru (Cadw), neu os hoffech arfer eich hawliau gan ddefnyddio Rheoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data, cysylltwch â:

Ceri Thomas

E-bost: cadwmarketing@gov.wales

Ffôn: 0300 062 5147

Gellir cysylltu â Swyddog Diogelu Data Llywodraeth Cymru yn:

Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ

E-bost: dataprotectionofficer@gov.cymru