Cadw Arolwg Aelodau – Hysbysiad Preifatrwydd
Mae Cadw, sy'n rhan o Lywodraeth Cymru, yn casglu adborth ar brofiad a barn aelodau yn rheolaidd.
Fel rhan o hyn, rydym yn cynnal ein harolwg aelodau blynyddol. Nod y gweithgaredd casglu data hwn yw:
- Rhoi cyfle i aelodau rannu adborth am gynllun aelodaeth Cadw.
- Defnyddio’r canfyddiadau i wella cynnyrch yr aelodaeth.
- Casglu adborth am gynhyrchion a systemau newydd posibl.
- Casglu’r adborth hwn er mwyn deall pwy yw ein haelodau ar hyn o bryd a nodi unrhyw gynulleidfaoedd coll.
Llywodraeth Cymru yw rheolydd y data. Bydd Cadw yn dileu data personol cyn ysgrifennu’r adroddiad.
Bydd y wybodaeth a gesglir yn ystod y prosiect yn cael ei rhannu’n fewnol o fewn Cadw (Llywodraeth Cymru) mewn fformat dienw. Bydd y wybodaeth a gesglir yn ystod y prosiect yn cael ei chynnwys mewn adroddiad, na fydd yn cael ei gyhoeddi.
Bydd data dienw hefyd yn cael ei rannu gyda thîm bach yn Golley Slater, yr asiantaeth sy’n rheoli gweinyddiaeth a gweithgaredd marchnata ein rhaglen aelodaeth.
Mae eich cyfranogiad yn yr ymchwil hon yn gwbl wirfoddol. Os hoffech gymryd rhan yn y raffl am gyfle i ennill aelodaeth Cadw, gofynnir i chi ddarparu eich cyfeiriad e-bost. Bydd eich e-bost ond yn cael ei gadw nes bydd y raffl wedi’i chwblhau.
Bydd eich adborth o’r arolwg yn helpu Cadw i wella profiad yr aelod.
HYSBYSIAD PREIFATRWYDD
Pa ddata personol sydd gennym a ble rydym yn cael y wybodaeth hon?
Diffinnir data personol o dan Reoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data (GDPR y DU) fel 'unrhyw wybodaeth sy'n ymwneud â pherson adnabyddadwy y gellir ei adnabod yn uniongyrchol neu'n anuniongyrchol drwy gyfeirio at ddynodwr'.
Fe roesoch eich cyfeiriad e-bost pan ymunoch â Cadw a dewis derbyn cylchlythyr a chyfathrebiadau i aelodau Cadw sy'n gysylltiedig â'ch aelodaeth.
Nid yw'n ofynnol i chi ddarparu unrhyw fanylion personol fel rhan o gwblhau'r arolwg ac nid yw eich cyfeiriad e-bost na'ch cyfeiriad IP yn cael eu dal fel rhan o gwblhau'r arolwg. Felly mae'r ymatebion i'r arolwg yn ddienw.
Fe’ch anogir i beidio â darparu unrhyw fanylion personol ar gyfer unrhyw un o’r cwestiynau ymateb agored. Ond, os byddwch yn dewis darparu data personol ychwanegol fel rhan o’r ymchwil, byddwn yn ceisio peidio â’ch adnabod o’r ymatebion a ddarparwch, neu eich cysylltu â nhw.
Gan fod yr arolwg yn ddienw, mae’n ofynnol i chi ddarparu eich cyfeiriad e-bost os hoffech gymryd rhan yn y raffl am gyfle i ennill aelodaeth Cadw. Mae cymryd rhan yn gwbl wirfoddol ac nid oes angen i chi ddarparu eich cyfeiriad e-bost os nad ydych chi am gymryd rhan yn y raffl. Bydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gofnodi mewn set ddata wahanol, nad yw’n gysylltiedig â’ch ymatebion i’r arolwg.
Os byddwch yn dewis cymryd rhan yn y raffl ac wedi darparu eich cyfeiriad e-bost ar ddiwedd yr arolwg, mae Llywodraeth Cymru (Cadw) yn gweithredu’r raffl ar ddyddiau gwaith cyntaf misoedd Mawrth, Mehefin, Medi a Rhagfyr, a byddwch yn cael eich cynnwys yn y raffl ym mis Rhagfyr neu fis Mawrth. Cysylltir ag enillwyr y raffl a bydd gofyn iddyn nhw hawlio eu gwobr o fewn pum diwrnod gwaith. Ar bob dyddiad, byddwn yn dewis darpar enillwyr o’r raffl hyd at dair gwaith i ddod o hyd i enillydd ac, os na chaiff y wobr ei hawlio ar ôl y cyfnod hwn, bydd y raffl yn annilys ar gyfer y wobr benodol. Bydd y set ddata o gyfeiriadau e-byst ar gyfer y raffl yn cael ei dileu heb fod yn hwyrach na 15 diwrnod gwaith ar ôl dyddiad tynnu’r raffl. Am Delerau ac Amodau llawn y gystadleuaeth, ewch i https://cadw.llyw.cymru/telerau-ac-amodau
Ar ôl i’r arolwg gau, bydd holl ddata’r arolwg yn cael ei drosglwyddo o SmartSurvey i ffeiliau prosiect Llywodraeth Cymru. Dim ond y tîm ymchwil sy’n gallu cyrchu’r ffeiliau prosiect hyn. Ar yr adeg hon, byddwn yn dileu unrhyw fanylion adnabyddadwy sy’n ymddangos mewn ymatebion i gwestiynau penagored.
Beth yw’r sail gyfreithlon ar gyfer defnyddio eich data?
Y sail gyfreithlon ar gyfer prosesu gwybodaeth yn yr ymarfer casglu data hwn yw ein tasg gyhoeddus; hynny yw, arfer ein hawdurdod swyddogol i ymgymryd â rôl a swyddogaethau craidd Llywodraeth Cymru.
Mae cymryd rhan yn hollol wirfoddol. Mae astudiaethau ymchwil fel hyn yn bwysig i Cadw (Llywodraeth Cymru) gasglu gwybodaeth a thystiolaeth ymarferol am ei allu i gyflawni blaenoriaethau'r llywodraeth. Er enghraifft, gellir defnyddio'r wybodaeth a gesglir yn yr ymchwil hon i:
- Wneud newidiadau i'r cynllun aelodaeth i wella'r gwasanaeth ar gyfer aelodau hen a newydd.
- Casglu adborth am gynhyrchion a systemau newydd posibl sy'n gysylltiedig â'r cynllun aelodaeth.
- Casglu data demograffig a diddordebau i ddeall ein haelodau yn well ac at ddibenion segmentu marchnata.
Pa mor ddiogel yw eich data personol?
Mae gwybodaeth bersonol a roddir i Cadw yn cael ei storio ar weinydd diogel. Dim ond nifer cyfyngedig o weithwyr ymchwil Cadw all gael mynediad at y data, a byddant yn defnyddio'r data hwn at ddibenion ymchwil yn unig.
Bydd eich ymatebion i'r arolwg a'ch cyfeiriad e-bost, os penderfynwch gymryd rhan yn y raffl, yn cael eu cadw mewn gwahanol setiau data.
Wrth gynnal arolygon, mae Cadw’n defnyddio rhaglen feddalwedd o'r enw SmartSurvey. Rydym ond yn defnyddio meddalwedd sy’n cydymffurfio â GDPR y DU ac yn bodloni’n disgwyliadau o ran diogelwch unrhyw ddata a gesglir drwy’r feddalwedd.
Mae gan Lywodraeth Cymru weithdrefnau i ddelio ag unrhyw amheuaeth o dorri rheolau diogelwch data. Os bydd achos tybiedig o dorri rheolau diogelwch data, byddwn yn rhoi gwybod i chi ac unrhyw reoleiddiwr perthnasol lle mae'n ofynnol yn ôl y gyfraith i ni wneud hynny.
Bydd yr holl ddata a gesglir drwy'r ymchwil hon yn cael ei hadrodd mewn fformat dienw. Ni fydd yn cynnwys eich manylion cyswllt a bydd unrhyw wybodaeth adnabyddadwy mewn atebion penagored yn cael ei dileu.
Am ba hyd yr ydym yn cadw eich data personol?
Lle darperir ar gyfer y raffl, bydd yr holl gyfeiriadau e-bost a ddelir gan Cadw (Llywodraeth Cymru) yn cael eu dileu ar ôl tynnu’r raffl. Byddwch yn cael eich cynnwys yn y raffl nesaf sydd ar gael. Bydd gan yr enillwyr bum diwrnod gwaith i ymateb ac os na fyddant yn gwneud hynny, bydd y raffl yn cael ei chynnal hyd at uchafswm o ddwy waith arall. Felly, y cyfnod hwyaf ar gyfer dal cyfeiriadau e-bost fydd 15 diwrnod gwaith ar ôl diwrnod gwaith cyntaf y raffl yn dilyn eich ymateb i'r arolwg.
Hawliau unigol
O dan GDPR y DU, mae gennych yr hawliau canlynol mewn perthynas â'r wybodaeth bersonol a ddarparwch fel rhan o Arolwg Aelodau Cadw. Mae gennych yr hawl:
- i gael mynediad at gopi o'ch data eich hun
- i ofyn i ni gywiro gwallau yn y data hwnnw
- i wrthwynebu neu gyfyngu ar brosesu (mewn rhai amgylchiadau)
- i 'ddileu' eich data (mewn rhai amgylchiadau);
- i gyflwyno cwyn i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO), sef y rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer diogelu data;
Y manylion cyswllt ar gyfer Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth yw: Wycliffe House, Water Lane, Wilmslow, Swydd Gaer, SK9 5AF. Ffôn: 0303 123 1113. Gwefan: www.ico.gov.uk
Gwybodaeth bellach
Os oes gennych ragor o gwestiynau am sut y bydd y data a ddarperir fel rhan o'r astudiaeth hon yn cael ei ddefnyddio gan Cadw (Llywodraeth Cymru), neu os hoffech arfer eich hawliau gan ddefnyddio Rheoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data, cysylltwch â:
Ceri Thomas
E-bost: cadwresearch@gov.cymru
Ffôn: 0300 062 5147
Gellir cysylltu â Swyddog Diogelu Data Llywodraeth Cymru yn:
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ
E-bost: dataprotectionofficer@gov.cymru
Tachwedd 2023.
Ar gyfer Telerau ac Amodau ewch i: