Skip to main content

Dyma awgrymiadau gan ein ceidwaid am bethau i’w gweld a’u clywed wrth ddefnyddio ap Pyka Lens yn eu safleoedd...

Lleoedd penodol sydd o ddiddordeb gweledol (e.e. tirnodau, gweadau diddorol, rhannau o’r safle sydd fel arfer yn cael eu methu/anghofio/ddim y prif atyniad)

Gallwch weld Pont Grog drawiadol Conwy o’r Barbican Dwyreiniol yng Ngastell Conwy. Adeiladwyd y bont grog hon yn 1826 gan Thomas Telford. Dyma un o’r pontydd crog cynharaf a godwyd yn y byd.

Mae’n werth treulio amser i ymweld â'r Capel yn Nhŵr y Capel ym mhen pellaf y Castell. Yno fe welwch ffenestr liw fodern liwgar. Wedi'i gosod yn 2012 a'i chynllunio gan Linda Norris a Rachel Phillips, mae'r ffenestr yn adrodd hanes yr ymladd gwaedlyd rhwng Tywysogion Gwynedd a Brenhinoedd Lloegr.

O ddiddordeb amgylcheddol penodol (e.e. golygfeydd amgylchynol, tirwedd, bywyd gwyllt tymhorol)

The Castle overlooks the River Conwy which gave the town its name from the old Welsh words ‘cyn’ and ‘gwy’ meaning chief water. It is a site of special scientific interest due to the marine life that exists in its waters.

As you look across the water, the hill called the Vardre at Deganwy can be seen. This was once the site of Deganwy Castle, a stronghold built by Henry III which can now be seen as sparse ruins.

Looking to the distance from the towers and upper wall walks of the castle visitors can see the Great Orme, the limestone headland which dominates the town of Llandudno. Roughly 2,000 tons of Copper was mined here during the Bronze Age.

O ddiddordeb sonig penodol (e.e. seiniau sy’n digwydd yn naturiol, seiniau o beiriannau yn y safle, lleoliadau sydd ag adleisiau neu ddatseiniau diddorol)

Mae’r Castell yn edrych draw dros Afon Conwy. Afon a roddodd ei henw i’r dref o’r hen eiriau Cymraeg ‘cyn’ a ‘gwy’ sy’n golygu prif lif dŵr. Mae'n safle o ddiddordeb gwyddonol arbennig oherwydd y bywyd morol sy'n bodoli yn ei nyfroedd yr aber.

Wrth i chi edrych ar draws y dŵr, gellir gweld y bryn o'r enw'r Vardre yn Deganwy. Ar un adeg roedd y bryn hwn oedd safle Castell Deganwy, cadarnle a adeiladwyd gan Harri III. Prin iawn yw’r adfeilion sydd i’w gweld erbyn hyn.

Wrth edrych i'r pellter o’r tyrau a’r llwybrau o amgylch waliau uchaf y castell mae modd gweld Pen y Gogarth a’i greigiau calchfaen nodedig yn edrych lawr ar dref Llandudno islaw. Fe gloddiwyd tua 2,000 tunnell o gopr yma’n ystod yr Oes Efydd.

* Wrth i chi crwydro’r'r castell fe fyddwch chi’n siŵr o glywed sŵn trên gerllaw wrth i’r trenau groesi Pont Reilffordd Conwy sy’n croesi’r Afon Conwy yn y fan hon. Y bont hon bellach yw'r olaf o'i bath a gynlluniwyd  gan Stevenson sy’n parhau. Fe ddinistrwyd Pont Britannia oedd yn croesi Culfor Menai yn ystod yr 1970au gan dân.

Os gwrandewch chi’n ofalus, mae’n ddigon posib y byddwch chi’n clywed clychau Eglwys y Santes Fair a’r Holl Saint yn seinio yng nghanol y dref. Fe adeiladwyd yr eglwys hon yn y 12fed ganrif cyn i Gastell Conwy gael ei adeiladu yn 1283.