Er i’r Tuduriaid a’r Jacobeaid ailadeiladu Castell Rhaglan, y castell a welwn heddiw yw ffrwyth gwaith un dyn uchelgeisiol iawn yn bennaf - sef Syr William Herbert.
Mewn llai na 10 mlynedd, gellid dadlau bod yr yswain gwledig hwn wedi troi ei hun yn Gymro mwyaf pwerus yr oes. Dechreuodd ei yrfa ddisglair yn ymladd yn Ffrainc, lle cafodd ei gipio a’i bridwerthu, a chafodd ei urddo’n farchog ym 1452.
Wedi magu cyfoeth drwy fewnforio gwin Gascony, gwnaethpwyd Herbert yn siryf Morgannwg a chwnstabl Castell Brynbuga. Chwaraeodd ran allweddol yn nhrechiad terfynol lluoedd Lancastraidd yn ystod Rhyfeloedd y Rhosynnod ym 1461.
Ac yntau mor ddiolchgar i Herbert, penderfynodd y brenin newydd Edward IV ei wobrwyo, ac felly ei wneud yn brif ustus a siambrlen de Cymru – a rhoi iddo’r cyfenw crand Barwn Herbert o Raglan. Yn amlinellu'r enwogrwydd sydyn hwn, anfonwyd y llanc Harri Tudur, sef Brenin Harri VII y dyfodol, at Syr William i’w fagu yng Nghastell Rhaglan.
Mae angen tai gwych ar ddynion gwych. Felly parhaodd Herbert waith ei dad yn Rhaglan ar raddfa aruthrol, gan greu porthdy newydd mawreddog a dau lys mawr o randai moethus. Erbyn hyn, gallai gynnig lletygarwch gyda’r gorau.
Canmolodd y bardd Dafydd Llwyd ei gaer-balas anhygoel gyda’i gant o ystafelloedd yn llawn o fwyd a llawenhau, a’i gant o simneiau i ddynion o’r radd flaenaf.
Camp olaf Herbert oedd ei fwyaf rhyfeddol byth. Ym 1468 fe’i crëwyd yn Iarll Penfro yn wobr am gipio Castell Harlech, y cadarnle Lancastraidd olaf yng Nghymru a Lloegr. Ef felly oedd aelod cyntaf bonedd Cymru i ymuno â rhengoedd urddolaeth Lloegr.
Ni fu’n hir yn mwynhau’r bri hwn. Trechwyd a chipiwyd Herbert ym mrwydr Edgecote ym 1469 – cyn ei ddienyddio’n filain drannoeth. Honnir y bu farw 5,000 o ddynion yn ei fyddin, a’r rhan fwyaf ohonynt yn Gymry, gan osod hwn ymhlith colledion mwyaf Cymru mewn brwydr.
Daethpwyd â chorff yr iarll uchelgeisiol yn ôl i dde-ddwyrain Cymru ac fe’i claddwyd yn eglwys yr abaty Sistersaidd yn Nhyndyrn. Teulu Somerset, ieirll Caerwrangon, a gafodd y dasg o hebrwng ysblander oes y Tuduriaid i mewn yn Rhaglan.