Asedau hanesyddol o ddiddordeb lleol arbennig
Mae asedau hanesyddol o ddiddordeb lleol arbennig yn cael eu coleddu gan gymunedau lleol ac yn cyfrannu at nodweddion lle, ond nid ydynt yn cael eu cydnabod na’u diogelu’n ffurfiol.
Fodd bynnag, gall awdurdodau cynllunio lleol ddewis nodi asedau hanesyddol o ddiddordeb lleol arbennig a chadw rhestr ohonynt. Gelwir hyn yn ‘rhestru lleol’. Gall y rhestr gynnwys pob math o asedau hanesyddol — adeiladau, parciau, gerddi a safleoedd archaeolegol — ar yr amod nad ydynt eisoes yn henebion cofrestredig, yn adeiladau rhestredig neu’n barciau a gerddi hanesyddol cofrestredig.
Mae angen i’r dewis o asedau hanesyddol ar gyfer rhestru lleol fod yn seiliedig ar feini prawf clir, tystiolaeth leol gadarn ac ymgynghoriad. Dylai’r meini prawf gynnwys y cyfraniad pwysig y mae’r asedau hanesyddol yn ei wneud at nodweddion hanesyddol arbennig ardal, yn ogystal â’u cyfraniad at wybodaeth y cyhoedd. Felly, gall rhestru lleol gyfannu dynodi cenedlaethol.
Mae rhestru lleol yn bwysig, gan ei fod yn darparu’r sail i awdurdodau cynllunio lleol ddatblygu polisïau i ddiogelu a gwella asedau hanesyddol. Mae hyn yn golygu bod awdurdodau cynllunio lleol yn gallu rheoli newid drwy’r system gynllunio fel bod asedau hanesyddol lleol yn parhau i gyfrannu at fywiogrwydd yr ardal.
Mae Rheoli Rhestrau o Asedau Hanesyddol o Ddiddordeb Lleol Arbennig yng Nghymru yn atodiad i Bolisi Cynllunio Cymru a Nodyn Cyngor Technegol 24: Yr Amgylchedd Hanesyddol.