Skip to main content

Cytundebau Partneriaeth Dreftadaeth yng Nghymru

Cytundebau gwirfoddol rhwng perchnogion ac awdurdodau cydsynio ar gyfer rheoli adeiladau rhestredig a henebion cofrestredig yn gynaliadwy yn y tymor hir yw cytundebau partneriaeth dreftadaeth. Gall cytundeb gwmpasu nifer o asedau a rhoi caniatâd ar gyfer cynnal rhaglen waith y cytunwyd arni dros gyfnod estynedig o amser ar adeilad a/neu heneb gofrestredig. Bydd hyn yn dileu’r angen am geisiadau ailadroddus am ganiatâd ar gyfer gwaith tebyg, gan arbed amser ac adnoddau i bob parti.

Mae’r canllawiau, Cytundebau Partneriaeth Dreftadaeth yng Nghymru, yn nodi’r elfennau statudol sy’n ofynnol mewn cytundeb ac yn nodi arferion gorau i hyrwyddo cysondeb wrth gyflawni gwaith yn ogystal â monitro ac adolygu rheolaidd. Mae’r canllawiau’n cynnwys templed i ddarparu fframwaith ar gyfer cytundebau newydd.

Bwriedir y canllawiau ar gyfer perchnogion sy’n ystyried cytundeb partneriaeth dreftadaeth ac awdurdodau cynllunio lleol a all weithredu fel awdurdod cydsynio mewn cytundeb partneriaeth dreftadaeth adeilad rhestredig.

Bydd Cadw, sy’n gweithredu ar ran Gweinidogion Cymru, yn gweithredu fel yr awdurdod cydsynio ar gyfer unrhyw gytundebau partneriaeth dreftadaeth henebion cofrestredig ac unrhyw gytundebau partneriaeth dreftadaeth adeiladau rhestredig ar gyfer adeiladau sy’n eiddo i awdurdodau lleol.